Ffotograffiau Tom Mathias
Mae'r casgliad hynod yma o ffotograffau yn cynrychioli gwaith dau ffotograffydd dawnus o wahanol gyfnodau ac o gefndiroedd gwahanol iawn.
Tom Mathias, ffotograffydd oedd wedi dysgu'r grefft ei hun, gymrodd y ffotograffau gwreiddiol ar droad yr ugeinfed ganrif. Gan ddefnyddio offer syml, cofnododd Tom Mathias fywyd pob dydd yng Nghilgerran a'r cylch.
Ar ôl ei farwolaeth ym 1940, gadawyd ei holl negatifau mewn cwt, ac anghofiwyd amdanynt am dros drideg mlynedd.
Fe'u ffeindiwyd gan James Maxwell (Maxi) Davis, ffotograffydd proffesiynol oedd yn byw yn y fro, yn y 1970au. Roedd y negatifau gwydr mewn cyflwr gwael iawn. Roedd llawer ohonynt wedi torri ac wedi'u difrodi ac nid oedd modd eu hachub. Roedd y rhan fwyaf o'r gweddill wedi dirywio'n sylweddol, roedd hyn yn golygu bod printio'r rhai y gellid eu hadfer yn broses araf a llafurus. Ond roedd digon ar ôl i Maxi Davis allu gwerthfawrogi pwysigrwydd y pethau yr oedd wedi dod o hyd iddynt, ac aeth ati i adfer y ffotograffau.
Diolch i'w ymdrechion diwyd, llwyddwyd i achub ffotograffau hynod Tom Mathias ar gyfer y dyfodol.
Cewch weld detholiad o ddelweddau o'r casgliad isod.
Ffotograffiau Tom Mathias
Tom Mathias (1866 - 1940)
Aberdyfan, Pont-rhyd-y-ceirt, cartref Tom Mathias.
Dyma lle daethpwyd o hyd i'r negyddion yn dilyn marwolaeth James Mathias.
James Mathias, mab Thom Mathias, yn bwydo robin goch.
Tilla, chwaer Tom Mathias
Helen Baud, nith i Tom. Roedd Helen a'i chwaer Paulette yn ymwelwyr cyson ag Aberdyfan ac fe'u gwelir yn amryw o'r lluniau
Tom Mathias yn dal cudyll glas. Ystyrid Tom yn arbenigwr ar fywyd gwyllt yr ardal.
Tom yn ei berllan. Yn ôl traddodiad bu'n gyfrifol am wella ansawdd mathau lleol o goed afalau.
Llun cynnar o Tom Mathias wrthi'n cneifio
James Mathias yn adeiladu sied
Gweithdai Chwarel Cefn. Sylwer ar y pileri llechi wedi ei turnio
Chwarelwyr y Cefn
Craen ager Chwarel Fforest, 1910
Chwarel Dolbadau, 1907. Roedd Cilgerran yn ganolfan bwysig o safbwynt y chwareli llechi o diwedd y ddeunawfed ganrif hyd ddechrau'r 1930au. Tynnodd Tom Mathias lawer iawn o luniau o'r chwareli ond, gwaetha'r modd, dim ond cyfran fechan ohonynt sydd yn ddigon da i'w cyhoeddi.
William Johnson a John Morgan, cyryglwyr o Gilgerran, 1905.
Ychydig iawn o luniau o gyryglau a achubwyd. Yma gwelir William Griffiths o Llechryd yn cwblhau ffrâm corwgl, gyda'i blant Moses a Sarah, yn ei wylio. 1916
Griffith a Thomas Thomas, hwperiaid lleol, gyda'r baban Johnny Michael Thomas, 1892.
Cludwyd boncyffion i Felyn Goed Cilgerran i'w llifio'n estyll. Yn y llyn hyn gwelir y boncyff mwyaf i'w drin yn y felin erioed.
Roedd coedwigaeth yn ddiwydiant lleol pwysig arall a gofnodwyd yn fanwl gan Tom Mathias.
Kathryn Davies yn defnyddio peiriant gwau hosanau
Hannah Davies a'i merch Elizabeth, dwy gwiltwraig
Bachgen yn dal cribin plentyn
Nesta, wyres Tom Mathias, yn chwarae â'i theganau
Hugh a Myrddin Jones, Cilfowyr, yn cynwain gwair
Maggie Thomas, Plas-y-Berllan, Llechryd. yn gwisgo lifrai'r geidiau, 1925
Pedair cenhedlaeth o deulu Davies, Banc-y-felin, Llechryd. 1913
Richard Morris Cefn Lodge, Cilgerran ar gefn ei geffyl 'Whitre Bud'.
Miss Olivia Griffiths, Neuadd, Cilgerran wedi iddi raddio o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1910 gyda gradd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Almaeneg.
Evan Peter Morgan, Stryd yr Eglwys, Cilgerran, gydai 'i wraig Elizabeth a'u mab David tra oedd gartref o'r fyddin aged y Rhyfel Fawr (1914-1918)
Plismyn o siroedd Penfro, Caerfyrddin a Morgannwg ar ei ffordd i sir Aberteifi i gefnogi Heddlu sir Aberteifi adeg Helynt y Degwm, 1888-94
Fan cigydd, 1910
Fan fara a'r gyrrwr Willie Davies, 1910
David Wilson yn gwerthu pysgod un 1905. Collodd ei goes yn ystod y Rhyfel Fawr a defnyddiodd yr iawndal a dderbyniodd i ddechrau busnes yn Stryd y Bont, Aberteifi. O ganlyniad, fe'i llysenwyd yn 'Lucky Leg Wilson'
Tair wraig leol yn gyrru poni a thrap, 1916. Enillai Tom gyfran halaeth o'i fywoliaeth drwy dynnu lluniau o pobl leol. Tynnwyd y lluniau i gyd tu allan neu yng nghartrefi'r cwsmeriaid gan nad oedd Tom yn berchen ar stiwdio.
Mrs Ann Williams, 1910.
Atgyweirio clochdy Eglwys Llandygwydd.
Rhes o fythynnod i weithwyr yn Lancych, sudd mewn cyferbyniad llwyr â'r plastai.
Mynd am dro mewn cart asyn.
Amlygir amynedd Tom Mathias fel ffotograffydd yn ei llun gwych o blant. Yma gwelir Treifryn Thomas, mab postfeistr Llechryd, ar ei feic newydd.
Merch anhysbys yn magu baban mewn siôl fawr.
James Mathias (dim perthynas) a'i deulu, tua 1910. Lladdwyd Morgan Mathias, y gŵr ifanc yn y llun, yn ddiweddarach yn y Rhyfel Fawr Gyntaf.
Tair cenhedlaeth o deulu o Gilgerran.
Seindorf Corfflu Gwirfoddolwyr Aberteifi o flaen gorsaf Cilgerran ar achlysur croesawu'r Is-gapten Colby, Ffynone, adref o Ryfel y Boer, tua 1902.
Onnen-deg, Llechryd.
Awgryma'r nifer o lluniau tai sydd yn y casgliad fod yna farchnad barod ar ei cyfer. Ffernhill, Llechryd, a welir yn y llun hwn.
Seindorf Corfflu Gwirfoddolwyr Aberteifi yn gorymdeithio ar hyd Stryd Fawr Cilgerran 1902, yng nghwmni 'Bois y Batri' (aelodau Cefnlu'r Llynges, Aberteifi)
Stryd Fawr, Cilgerran, yn 1905
Sglefrio ar y gamlas a gysylltai afon Teifi â hen waith tun Castell Malgwyn
Pentrefwyr yn sglefrio ar afon Teifi yn ystod gaeaf caled 1891
Stryd Fawr, Cilgerran, yn 1910
...Mae'n debyg mai ymgais Tom Mathias i elwa ar y farchnad gariau oedd y lluniau o ferched mewn 'gwysg Gymreig'
...Fel rheol, dangosid y merched yn gwau, yn mynd i'r farchnad, neu'n yfed te...
Tua diwedd y ganrif ddiwethaf, daeth yn ffasiynol i gyhoeddi cardiau post o ferched mewn 'gwisg Gymreig'...
Atgyweirio pont Glanarberth, 1912
Atgyweirio pont Pont-rhyd-y-ceirt, 1920. Saif Johnny Michael, arweinydd Côr Plant Cilgerran, ar y chwith gyda'i blant Teifryn an Tegwyn.
Plant Ysgol Blaen-ffos, 1915. Y mae'r 'wisg Gymraeg' yn awgrymu bod y llun wedi ei dynnu ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Gwelir y geiriau 'Hen Wlad fy Nhadau' ar y bwrdd du yn y ffenestr
Mercherd Ysgol Sul Llwyn Adda mewn 'gwisg Gymreig'
Côr Plant Cilgerran a'u harweinydd, Johnny Michael
Dosbarth Ysgol Sul o flaen Tŷ Glanolmarch, Llechryd, gyda'r perchennog, Mrs. Stephens
Dosbarth Ysgol Sul y gwragedd, Capel Babell, Cilgerran, 1906
Gwibdaith flynyddol Ysgol Sul Penuel i Poppit, 1913
Dosbarth Ysgol Sul yng Nghapel Llwyn Adda, Llechryd. Bu Tom (dde) yn athro yno am flynyddoedd lawer. Margaret Ann Thomas yw'r athrawes.
Siop Penrhiw, Aber-cuch. Gwelir y perchennog, W.J. Lewis, yn gwisgo ffedog wen
Penrhiw Arms, Aber-cuch, 1914. Gwelir y tafarnwr, David Owens, a'i wraig Elizabeth, ar y grisiau. Dymchwelwyd y dafarn fel rhan o gynllun gwella'r ffordd.
'Y Goets Fawr', a redai o Gastellnewydd Emlyn i Aberteifi, o flaen y Teifi-side Inn, Llechryd, un 1906
Pantdŵr, Llechryd, c. 1900
Bridge House, Cilgerran, 1910. Gwelir Miss Kathryn Davies ar y trothwy tra bod ei brawd yn eistedd ar wal y bont (sydd wedi ei dymchwel erbyn hyn).
Edrych as draws afon Teifi tuag at y Tivy-side Inn, Llaechryd ar adeg o lifogydd, tua 1910.
Edrych ar draws afon Teifi tuag at y Teify-side Inn, Llechryd. Y mae'r dafarn wedi cau ers blynyddoedd bellach.
Ceir nifer o luniau yn y gasgliad sydd yn portreadu golygfeydd lleol ac yn cofnodi digwyddiadau anarferol a nodedig y fro.
Pompren newydd yn Aber-cuch, 1908
Adeiladu pompren ar draws afon Teifi yn Aber-cuch, 1908
Miss Rita Morgan Richardson a'i brawd yn ymladd â chleddyfau, gyda Dr. Stephens, Glanolmarch, yn eu gwylio
Miss Rita Morgan Richardson, Rhos-y-gilwen, Cilgerran a'i hathrawes o'r Almaen a'i chŵn anghyffredin
Teulu Lewis-Bowen, Clyn-fiw, Boncath
Mrs Lewis-Bowen, Clyn-fiw, Boncath (ar y dde), a'i phlant, Dorothea a William, yng nghwmni nyrs ac athrawes y teulu. Rita Morgan Richardson yw'r ferch ifanc ar y chwith
Buches Rhos-y-gilwen o flaen y plas
C. E. G. Morgan Richardson, Rhos-y-gilwen, ymhlith ei fuches enwog o wartheg byrgorn
Mrs Morgan Richardson y tu allan i Noyaddwilym, Llechryd. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i fyw i Rhos-y-gilwen
Cerbydwr a 'theithiwr' tra anarferol o flaen plasty Castell Malgwyn, adeg Calan Gaeaf yn ôl pop tebyg.
Priodas Miss Grace Gower, Castell Malgwyn, â'r Llawfeddyg Gill R. N. yn Eglwys sain Llawddog, Cilgerran, 8 Awst 1907
Lodge, Castell Malgwyn
Castell Malgwyn, Llechryd, cartref teulu Gower. mae'r plas yn westy erbyn hyn
Thomas Daniels a'i feic
Thomas Daniel, garddwr Glanolmarch, Llechryd.
Gweision a morynion anhysbys. Roedd glannau Teifi un enwog am e'i 'gwŷr mawr' ac mewn ardel o lai nag ugain milltir sqwâr ceid bron i hanner cant o blastai. Bu'r teuluoedd hyn yn noddwyr cyson i Tom Mathias.
Spence Colby, Ffynone, a helgwn Teifiseid. Dilyn cŵn hela oedd un o brif ddiddordebau'r boneddigion lleol.
Miss Rita Morgan Richardson, Rhos-y-gilwen, Cilgerran
Staff Clyn-fiw, 1906
Cipar anhysbys a'i deulu
Pentre, Boncath, 1910
Staff Caedmor yn ei lifrai. Sylwer bod nifer ohonynt yn dal yr offer a ddefnyddient yn ôl eu galwedigaeth
Pan oedd y plastai lleol yn eu hanterth cyflogid nifer mawr o pobl i weithio ynddynt. Yma, gwelir staff stad Coedmor yn 1909
Staff Plas Coedmor ar glos y gegin. Roedd glannau Teifi yn enwog am ei 'gwŷr mawr' ac mewn ardal o lai nag ugain milltir sgwâr ceid bron i hanner cant o blastai. Bu'r teuluoedd hyn yn noddwyr cyson i Tom Mathias.
Injan Fowler wedi ei llogi gan y fyddin oddi wrth gontractwyr amaethyddol lleol, Dan Ladd o Glunderweb (ar y dde)
Gwasg wair (ffurf gynnar o'r byrnwr) ar waith. Gwelir y 'pletau' gwair yn y cefndir. Diogelwyd y peiriant hwn gan Geler Jones, casglwr hen beiriannau lleol. Prynwyd ei gasgliad gan yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol i'r arddangos yn Mhlas Llannerch Aeron.
James Evans yn rhibinio gwair ar Fferm Castell Malgwyn, Llechryd
Fferm Parcyneithw. Mr a Mrs Griffith Davies a'u saith mechr - Sarah, Margaret, Edith, Ellen, Elizabeth, May and Catherine - eu mab, Ifan (ar y dde) ac Alfred, y gwas.
Dyfeisiwyd y peiriant troi gwair cywrain hwn gan ffermwr lleol, sef Arthur John Davies, Penwenallt. Gwnaethpwyd y peiriant gwreiddiol iddo gan of lleol. Yn anffodus, dechreuodd cwmni o Ddylyn gynhyrchu'r peiriant yn fasnachol cyn Davies fedru codi breintlythur arno.
Un o'r tractorau a'r beindarau cynharaf i'w gweld yn yr ardal yn cael eu defnyddio ar Fferm Castell Malgwyn.
Roedd y cynhaeaf gwair yn adeg o gydweithio rhwng cymdogion. Dengys y llun hwn y nifer mawr o bobl a fyddai'n helpu gyda'r gwaith. Byddai'r cynhaeaf yn achlysur cymdeithasol pwysig.
Cynaeafu gwair yn Aberdyfan, tua 1910.
Rhaid oedd wrth nifer mawr o weithwyr i gario gwair hyd yn oed ar dyddyn bychan fel Aberdyfan. Sylwer ar y pawl at godi gwair o'r llwyth i'r das
Injan yn cael ei defnyddio gan y fyddin
Milwyr yn hel gwair. Yn ôl pop tybed aelodau ydynt o gwmni a deithiai o gwmpas y wlad adeg y Rhyfel Fawr er mwyn casglu porthiant i geffylau'r fyddin. Dengys yr amrywiol fathodynnau ar eu capiau eu bod yn perthyn i sawl catrawd wahanol. Posibilrwydd arall yw mai gwrthwynebwyr cydwybodol ydynt yn ymgymryd â dyletswyddau heddychlon.
sylw - (5)
I remember James Matthias, son of Tom, who lived in the family house next to the hump back bridge over the Morganau stream (there is a photo of the bridge being rebuilt). He used to visit my grandmother for tea when she moved back to Pontrhydyceirt at the age of 80, living at Bryn Heulog in the 1960s and 1970s just up the road from him. His father's photographs were well remembered then and prints of them were held by families. I don't recall mention of the plates, though James must have known they were there. I vaguely recall some mention of a ruinous piece of litigation having affected his father, but that may be a total misrecollection.
One of the photos is of my other great-grandfather working as a gardener in Llechryd. He was a keen fisherman. My mother can remember him being keen to be left alone while fishing, as the presence of others on the bank would frighten off the fish.
My grandmother told us of skating on the old canal near Castle Malgwyn. It is mentioned in a book on the South Wales tinplate industry as the water supply for the tinplate works there, one of the first in Wales.