Blynyddoedd cynnar Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Donald Moore

Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa yn 1950

Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa yn 1970

Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa yn 1970

Dathlodd Gwasanaeth Addysg yr Amgueddfa ei ben-blwydd yn 60 oed yn 2009. Fe'i sefydlwyd ym 1949 fel Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa, ond yr Adran Addysg yw'r enw arno bellach.

Syr Ciryl Fox, y Cyfarwyddwr ar y pryd, oedd y grym tu ôl i'r gwasanaeth i ysgolion. Y nod oedd gwella addysgu a dysgu yn y pynciau confensiynol ond hefyd i greu dyheadau tu hwnt i'r cwricwlwm. Darparwyd y mewnbwn creadigol gan swyddogion pwnc, sef athrawon cymwys oedd eisoes wedi'u lleoli yn yr adrannau curadurol priodol.

Nid oedd modd integreiddio Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa yn llwyr i'r Amgueddfa gan iddo gael ei ariannu'n annibynnol trwy danysgrifiadau gwahanol Awdurdodau Addysg Lleol. Fodd bynnag, pan dynnwyd cyllid yr Awdurdodau Addysg Lleol yn ôl yn y 1990au, a chyda dyfodiad yr awdurdodau unedol, integreiddiwyd yr Adran Addysg yn llwyr i'r Amgueddfa Genedlaethol. Prif nod y curaduron yw casglu, cadw, dehongli ac arddangos deunydd, a sicrhau bod gwrthrychau o'r casgliadau wrth gefn yn hygyrch i ymchwilwyr. Nid yw eitemau o'r math yn addas ar gyfer cael eu trafod gan grwpiau ysgol, nac fel deunydd benthyg i ysgolion. Fodd bynnag, llwyddodd y Gwasanaeth Ysgolion greu casgliad benthyg sylweddol dros y blynyddoedd, casgliad sydd yn parhau i gael ei gynnal.

Lluniwyd catalogau pwnc i alluogi ysgolion ddewis deunydd i'w fenthyg. Dosbarthwyd y benthyciadau ar ddiwedd pob tymor yn barod i'w cludo ledled Cymru ar ddechrau'r tymor nesaf.

Erbyn 1970, roedd pob un o'r adrannau curadurol yn cymryd rhan mewn rhyw fodd yn y Gwasanaeth Ysgolion, gan gynnwys Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Roedd pob un o Awdurdodau Addysg Lleol Cymru'n cyfrannu tuag at y cynllun, ac o ganlyniad gallai ysgolion uwchradd dderbyn benthyciadau bob tymor, gallai ysgolion cynradd fwynhau arddangosiadau teithiol, ac wrth gwrs, roedd nifer o ysgolion yn ymweld â'r amgueddfeydd yng Nghaerdydd a Sain Ffagan, fel y gwnânt heddiw gyda'n holl amgueddfeydd.

Cymaint oedd enw da'r Gwasanaeth, derbyniodd y staff geisiadau i gynorthwyo gyda'r gwaith o sefydlu mentrau tebyg mewn gwledydd eraill.

Erthygl gan Donald Moore (cyn Swyddog Archaeoleg Gwasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa ac, yn ddiweddarach, yr uwch Swyddog oedd yn gyfrifol am weithredu'r gwasanaeth cyfan).

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Andy Kendall
30 Rhagfyr 2017, 11:48
I am hoping that you have the records to clear something up for me

I am creating a web page about Sir Cyril Fox as part of the Cardiff Naturalists' Society 150th celebrations see http://cardiffnaturalists.org.uk/htmfiles/150th-08.htm and I note that in all the other references i find that his period of Directorship was 1926-1948 (see this example https://en.wikipedia.org/wiki/Cyril_Fox) so which is correct? Was he still in post in 1949 or was schools service launched before the date you give above or was it that he did the preparatory work and that it was launched after his retirement ?

Regards
Andy Kendall (Publicity officer & Former President Cardiff Naturalists' Society