Bwyd o lannau Cymru
Cyflwyniad
Byddai cymunedau oedd yn byw ger y glannau hefyd yn manteisio ar y bwydydd oedd ar gael iddynt ar y traeth neu'r creigiau glan-môr. Mae yna dystiolaeth helaeth o safleoedd cynhanesyddol a Rhufeinig sy'n dangos bod pysgod cregyn yn cael eu cynaeafu yng Nghymru trwy'r canrifoedd. Roedd y pysgod cregyn hyn yn rhad ac am ddim o'u casglu, ac roedd toreth ohonynt i'w cael ar hyd y glannau. Cocos a chregyn gleision oedd y mathau a gasglwyd ac a werthwyd amlaf gan y bobl gyffredin
Casglu cocos
Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, byddai merched casglu cocos yn aml yn cadw stondinau ym marchnadoedd trefi de Cymru. Byddai eraill yn gwerthu eu cynhaeaf o ddrws i ddrws yn y pentrefi diwydiannol ac arfordirol yn y gogledd a'r de. Fel arfer byddai'r cocos oedd wedi'u berwi a'u tynnu o'u cregyn (cocs rhython) yn cael eu cludo mewn bwced bren ar ben y werthwraig. Câi'r cocos oedd heb eu trin (cocs cregyn) eu cludo mewn basged fawr ar ei braich. .
Soniai un wraig wyth deg oed o Lan-saint, pentref glan-môr yn Sir Gaerfyrddin, iddi fod yn casglu cocos ar y traeth am chwe deg o flynyddoedd. Cyfeiriai at y patrwm arferol lle'r oedd merched yn olynu eu mamau yn y gwaith hwn. Roeddent yn ddibynnol ar eu henillion o'r cocos; cofiai ei bod yn eu gwerthu am ddimai'r peint, ond ei bod tua diwedd ei gyrfa yn gwerthu'r un faint o gocos am chwe cheiniog. Roedd hwn yn dâl sâl iawn am yr holl waith llafurus. Casglu, golchi a chludo'r cocos adref o'r traeth oedd y cam cyntaf. Wedi cyrraedd byddai'n rhaid dechrau ar yr ail gam, sef golchi'r cocos eto a'u berwi cyn eu cludo am yr eilwaith, i'r farchnad y tro hwn.
Gwnâi cocos bryd ysgafn o'u bwyta gyda bara menyn neu fara ceirch, ac roeddent yn elfen mewn gwahanol seigiau oedd yn cynnwys wyau neu laeth a sifys. Byddai merched ym mhentref Penrhyndeudraeth, Sir Feirionnydd, yn canu'r pennill hwn wrth werthu'r pysgod cregyn o ddrws i ddrws:
Cocos a wya Bara ceirch tena Merched y Penrhyn Yn ysgwyd 'u tina
Cafiâr Cymru?
Un o'r bwydydd môr pwysig eraill oedd math o wymon bwytadwy o'r enw bara lawr. Yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai merched o lannau Sir Fôn, Sir Forgannwg a Sir Benfro yn casglu hwn yn frwd. Roedd angen trochi'r bara lawr a gasglwyd o'r creigiau a'r cerrig ar lan y môr mewn saith golchad o ddŵr glân er mwyn cael gwared ar yr holl raean a thywod oedd ynddo. Wedyn byddai'r gwragedd yn gwasgu'r dŵr o'r gwymon, a berwi'r bara lawr glân yn araf yn ei wlybaniaeth ei hun am ryw saith awr. Y peth olaf i'w wneud oedd ei ddraenio a'i falu'n hynod o fân nes ei fod yn fwydion lliw gwyrdd-ddu.
Byddai'n cael ei ysgeintio wedyn â blawd ceirch a'i ffrio mewn saim cig moch, ac yn cael ei weini gyda bacwn fel arfer. Enwau eraill arno oedd llafan neu fenyn y môr, a byddai bara lawr yn cael ei baratoi fel cynnyrch masnachol gan deuluoedd yn Sir Forgannwg, a'i werthu gyda'r cocos ar y stondinau marchnad. Ar un adeg dim ond teuluoedd ar incwm isel fyddai'n paratoi ac yn gwerthu'r ddau fwyd hwn. Yn y pen draw datblygodd y ffordd hon o farchnata yn fentrau masnachol o bwys. Heddiw mae bara lawr, a elwir weithiau yn gafiâr Cymreig, i'w weld ar gownteri siopau bwyd arbenigol ac yn cael ei gynnig fel hors-d'œuvre mewn bwytai o'r radd flaenaf.