Popeth ond y sgrech
Mae modd defnyddio pob pisyn o'r mochyn ond am ei sgrech
Ar un adeg roedd moch yn rhan bwysig o fywyd pob dydd yn y dref yn ogystal â'r wlad. Dyma i chi'r peiriant ailgylchu perffaith, a oedd yn troi gwastraff yn gynnyrch defnyddiol. Byddent yn bwrw troglwyth fawr o foch bach a gan eu bod yn fodlon bwyta pob dim, yn laswellt neu'n sbarion bwyd, roeddent yn pesgi'n gyflym. Roedd lladd y mochyn yn ddigwyddiad cymdeithasol o bwys a byddai cymdogion a chyfeillion yn aml yn cymryd eu tro i ladd eu moch a rhannu'r cig.
Hebrwng asgwrn
Byddai'r lladd yn digwydd rhwng dechrau Hydref a diwedd Mawrth, ac felly'n sicrhau cyflenwad cyson o gig ffres i deuluoedd trwy dymor y gaeaf. Y 'stecen felys' neu ddarnau o gig o'r asennau ac asgwrn y cefn fyddai'n cael eu rhannu fel arfer. Byddai ffagots a brôn hefyd yn cael eu paratoi a'u cynnig i deulu a chymdogion. Parhaodd yr arfer hwn tan hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Y plant fyddai'n cael y pleser o fynd â'r rhoddion, a chaent rywfain o arian am eu trafferth. Mewn rhai ardaloedd, yr enw ar yr arfer hwn oedd hebrwng asgwrn. Byddai gweddill y mochyn yn cael ei halltu, a dyna oedd y prif ffynhonnell o gig ar gyfer y teulu am y flwyddyn.
Dim byd yn ofer
Fyddai'r un dim yn mynd yn ofer. Byddai'r pen yn cael ei ferwi i wneud cosyn pen (brôn). Roedd modd defnyddio blew'r mochyn i wneud brwshys, gwneud lledr o'r croen, gwneud pwdin gwaed o'r gwaed, a chwarae pêl-droed gyda'r bledren. Doedd dim rhyfedd felly fod cymaint yn cadw moch. Yn ôl rhai, daw'r enw Saesneg ar gadw-mi-gei o'r ffaith bod pobl yn bwydo eu harian mân i mewn i'r piggy bank. Wedi iddo dyfu'n ddigon tew byddai modd ei falu a chael at y cynilion y tu mewn.
Pen mochyn yn cael ei ferwi i wneud cosyn pen (brôn).
Rhan o ffilm sy'n cofnodi'r holl waith a ddeuai yn sgîl lladd mochyn. Byddai trefn y gwaith yn dilyn yr un patrwm drwy Gymru gyfan, ac eithrio gwneud ffagots. Ni fyddai hynny'n digwydd yn gyffredin yng Ngwynedd. Ffrio'r iau gyda nionod a'i fwyta fel prif bryd oedd y drefn yno.
Tystiolaeth lafar
Yn ôl tystiolaeth o Rostryfan, yr oedd hwn yn bryd blasus iawn ar gyfer 'swper chwarel', sef y pryd min nos wedi i'r chwarelwyr ddychwelyd o'r chwarel.
"Wedyn mi fydda yr iau. Padall huarn fawr fydda gin Mam, ar ben y pentan, 'te. A mi fydda wedi gneud yr iau yn ara' deg. Fydda gynni hi flawd wrth law bob amsar. Wedyn, - a board 'te — wedyn, pen fydda hi'n mynd i dorri'r iau, fydda blawd ar y board, a 'dda'r iau yn cal 'i roid yn fanno. A'i sglisho wedyn, a'i dipio fo'n y blawd, cyn 'i ffrio fo, 'te. Wedi 'ny, mi fydda nionod yn cal 'u ffrio, hefo yr iau 'ma, yn ara' deg. Wedyn mi fydda 'na lond y badall, ar ôl i'r iau neud. Fydda'n codi'r iau, a wedyn mi fydda 'na lond y badall o refi da wedi neud efo'r nionod 'ma i gyd, 'te. Wedyn 'dda'r iau yn cal 'i roid i fiewn yno fo. Wedyn odd o'n cadw yn dendar neis, ag yn boeth. Erbyn dôn ni o'r ysgol gyda'r nos ylwch. "
>Mrs Edith May Hughes, Llannerch-y-medd, Ynys Môn. Ganed 1904
Rysáit: Cig Moch, Iau a Nionod
- hanner pwys o gig moch
- pwys o iau
- nionod
- halen a phupur
- ychydig o flawd gwyn
- Torri'r iau'n dafelli, eu golchi, a'u gorchuddio ag ychydig o flawd gwyn, pupur a halen.
- Ffrio'r cig moch yn ysgafn a'i godi i ddysgl boeth.
- Rhoi'r iau a'r nionod (wedi'u torri'n fân) yn saim y cig moch, eu ffrio gyda'i gilydd a'u codi i'r un ddysgl.
- Cymysgu llond llwy fwrdd o flawd gwyn i mewn i'r saim yn y badell ffrio, tywallt ychydig o ddŵr berwedig arnynt, eu cymysgu'n dda a'u berwi am ychydig funudau i wneud grefi.
- Berwi tatws mewn sosban ar wahân.