Ieithoedd eraill Cymru

Lleisiau eraill Cymru

Y Wal Ieithoedd yn Oriel 1, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Bu sawl llais gan Gymru erioed. Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru, ond mae nifer o ieithoedd eraill yn cael eu siarad yma hefyd. Fel dwy ran o dair o boblogaeth y byd, mae llawer o bobl yng Nghymru yn siarad mwy nag un iaith.

Mae'n anodd cael hyd i ystadegau am ieithoedd ar wahân i Gymraeg a Saesneg, gan nad oes cwestiwn amdanynt yn y cyfrifiad. Dangosodd arolwg gan CILT Cymru fod o leiaf 98 o ieithoedd yn cael eu siarad gan blant ysgol yn y wlad hon. Yn 2006, fe gasglodd Amgueddfa Cymru enwau 78 o ieithoedd gan bobl oedd yn siarad yr ieithoedd hynny ac yn byw yng Nghymru, a'u harddangos ar wal mewn oriel.

Gwrandewch ar rai o'r ieithoedd hyn

Yma ar wefan Casgliad y Bobl, gallwch wrando ar rai o'r ieithoedd hyn a chlywed profiadau a barn y bobl sydd yn eu siarad. Gallwch hefyd ein helpu ni i ddarganfod mwy am leisiau Cymru. Os ydych chi'n byw yng Nghymru, ac yn methu gweld eich cymuned iaith chi yma, rhowch wybod i bawb amdani trwy gyfrannu at Gasgliad y Bobl.

Bengali

Mae tua 400,000 o siaradwyr Bengaleg yn y Deyrnas Unedig, a chyfanswm o 230 miliwn trwy'r byd i gyd. Fe'i siaredir gan 100 miliwn o bobl ym Mangladesh a thros 70 miliwn o bobl India. Yng Nghymru, cofnodwyd bod disgyblion Bengaleg eu hiaith mewn ysgolion yng Nghaerdydd, sir Gaerfyrddin, ardal Conwy a sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Casnewydd, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot, Torfaen, Bro Morgannwg, a Wrecsam. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd sydyn yn nifer y boblogaeth Bangladeshi yng Nghaerdydd. Maent bellach yn cynrychioli dros gwarter o Asiaid y ddinas.

Pan ffurfiwyd Pacistan ym 1947, datganwyd mai Urdu fyddai'r unig iaith swyddogol, er gwaethaf y ffaith mai Bengaleg oedd yr iaith fwyaf cyffredin ei defnydd yn nwyrain y wlad. Wedi i Ddwyrain Pacistan gael annibyniaeth ym 1971, newidiwyd yr enw i Bangladesh a mabwysiadwyd Bengali fel iaith swyddogol y wlad.

Yn Sylhet, ardal yng ngogledd-orllewin Bangladesh, mai gwreiddiau'r rhan fwyaf o Bangladeshis ym Mhrydain. Maent yn siarad tafodiaith Sylheti y Fengaleg sy'n wahanol iawn i'r iaith safonol. Mae gan ardal Sylhet gysylltiadau hanesyddol hir gyda Phrydain oherwydd y fasnach mewn jiwt a the. Mae'r gymuned Fengaleg ym Mhrydain yn dyddio'n ôl i'r 1870, ond bu'r mewnfudo trymaf rhwng y 1960au a'r 1970au.

Sirajul Islam: Bengaleg Sylhet

Sirajul Islam yn cyflwyno'i hun yn Gymraeg.

Sirajul Islam yn cyflwyno'i hun yn Gymraeg.

Sirajul Islam yn siarad am ei gefndir ieithyddol a pham y penderfynodd ddysgu Cymraeg.

Sirajul Islam yn siarad am ei gefndir ieithyddol a pham y penderfynodd ddysgu Cymraeg.

"Rwy'n hanu o Fangladesh yn wreiddiol. Des i yma fel mewnfudwr economaidd ym 1963 i chwilio am fywyd newydd, helpu fy nheulu yn yr hen wlad rhag tlodi, caledi, dioddefaint. Yn gartre, ni'n siarad Sylheti Bengali, dim Bengali pur. Achos ein ardal ni oedd yn perthyn i Assam — o ble mae te yn dod — so oedd e'n hollol wahanol na Bengali pur. So ron ni'n siarad Sylheti gartre, yn yr ysgol Bengali pur. Ond beth ddigwyddodd ar ôl annibynniaeth 1947, daeth Pacistanaid fel Vikings yn ein ardal ni, gyda'u diwylliant a'u hiaith Wrdw hefyd. Roedd rhaid inni ddysgu Wrdw yn syth. Roedd yn dipyn bach fel iaith swyddogol — Wrdw a Saesneg. So pan on i'n gweithio fel gwas sifil yn y swyddfa, don i ddim yn gallu defnyddio fy mamiaith Bengali o gwbwl. Wrdw neu Saesneg. So dyna'r rheswm rwy'n gallu siarad — doedd dim dewis 'da fi ond dysgu'r iaith Wrdw, i blesio llywodraeth Pacistanaidd. Digwyddodd yr un peth ganrif yn ôl yn cefen gwlad Cymru hefyd ontefe — Welsh Not.

Rwy'n ddiolchgar iawn iawn i Gymru a'i phobol, ac rwy wedi cyflawni lot o betha yma. Fe ges i gyfle i neud pethe, cyflawni fy mreuddwydion, bydden ni ddim yn gallu neud unrywle arall.

Penderfynais i ddysgu Cymraeg i ddweud 'Diolch yn fawr Cymru am popeth.' A yn ei hiaith ei hunan. A dyna bwysig. Dyna bwysig i fi.

Japaneg

Mae rhyw 125 miliwn o bobl yn siarad Japaneg, a 99% ohonynt yn dal i fyw yn Japan. Serch hynny mae'r nifer o siaradwyr Japaneg sy'n byw dramor wedi cynyddu wrth i economi Japan ehangu, gyda phobl yn mynd i weithio i gwmnïau Japaneaidd neu'r llywodraeth.

Mae yna ryw 50,000 o siaradwyr Japaneg yn y DU, gyda rhyw 2000 o'r rhain yn byw yng Nghymru. Cymru yw'r ganolfan fwyaf yn Ewrop i gwmnïau o Japan sy'n cynhyrchu nwyddau electronig Japaneaidd. Daeth y cwmni gweithgynhyrchu Japaneaidd cyntaf i Gymru ym 1973, ac yn ystod y 30 mlynedd diwethaf mae'r nifer wedi cynyddu i ryw 60 cwmni, sy'n cyflogi miloedd o bobl Cymru. Gwyddom am ddisgyblion sy'n siarad Japaneg mewn ysgolion yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Merthyr, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot, Bro Morgannwg a Wrecsam.

Midori Matsui: Japaneg

Midori Matsui yn cyflwyno'i hun yn Siapaneg.

Midori Matsui yn cyflwyno'i hun yn Siapaneg.

Midori Matsui - o Siapan i dde Cymru.

Midori Matsui - o Siapan i dde Cymru.

"Rwy'n dod o Siapan. Athrawes Saesneg oeddwn i yn Siapan. Roeddwn i am weld Lloegr, Prydain Fawr, yn gyntaf, cyn dod i Gymru. Felly fe ddes i i Loegr ym 1972. Wedi treulio blwyddyn yma, gofynnwyd i mi ddod draw i Gymru i weithio i gwmni o Siapan. Felly y flwyddyn wedi hynny, '73, fe ddes i i Gymru ac rwy' wedi byw yma fyth ers hynny.

Mae llawer o bobl wedi dweud wrtha' i'n barod bod acen Gymreig gyda fi. Ond dydw i fy hun ddim yn gallu dweud. Mae gen i stori ddoniol am yr acen Gymreig. Un diwrnod roeddwn i ym maes awyr Heathrow yn chwilio am fath arbennig o chwisgi. Daeth y rheolwr draw ata' i a dechrau egluro ynglŷn â'r chwisgi. Roedd e'n credu mai ymwelydd o'n i, ac mae pawb yn gwybod bod pobl o Siapan yn gwerthfawrogi chwisgi. Y cyfan ddywedais i oedd, 'Rwy'n iawn diolch yn fawr, rwy'n gwybod am beth rwy'n chwilio.' Ond pan ddywedais i hynny fe ddywedodd e, 'Ble ar wyneb y ddaear gawsoch chi'r acen Gymreig yna?' Sylweddolodd e wedyn 'mod i'n byw yn y wlad hon, nad ymwelydd oeddwn i, nid dim ond ymwelydd."

Iaith Arwyddion Prydain

Iaith Arwyddion Prydain (British Sign Language neu BSL) yw'r iaith a ddefnyddir gan gymuned Fyddar Prydain. Mae hon yn iaith yn ei hawl ei hun, yn hytrach na ffordd o siarad Cymraeg neu Saesneg trwy gyfrwng arwyddion. Amcangyfrifir bod rhyw 70,000 o bobl yn defnyddio BSL fel eu hiaith gyntaf, a bod hyd at 250,000 o bobl yn defnyddio peth BSL.

Mae ieithoedd arwyddion yn amrywio o wlad i wlad; mae iaith arwyddion Prydain yn wahanol i Iaith Arwyddion Ffrainc neu America, er enghraifft. Mae yna wahanol amrywiadau rhanbarthol neu dafodieithoedd, fel sydd mewn ieithoedd eraill. Mae gan BSL hanes a diwylliant hir, ond yn ystod rhan helaethaf yr 20fed ganrif cafodd ei gwahardd mewn ysgolion i blant Byddar. Gorfodwyd y disgyblion i siarad a darllen gwefusau yn lle hynny. Er gwaethaf hyn, goroesodd BSL ac er 2003 cafodd ei chydnabod yn swyddogol gan y Llywodraeth fel iaith annibynnol.

Jeff Brattan-Wilson: Iaith Arwyddion Prydain

Jeff Brattan-Wilson yn cyflwyno'i hun yn Iaith Arwyddion Prydain.

Jeff Brattan-Wilson yn cyflwyno'i hun yn Iaith Arwyddion Prydain.

Jeff Brattan-Wilson yn siarad am Iaith Arwyddion Prydain

Jeff Brattan-Wilson yn siarad am Iaith Arwyddion Prydain.

"Fe ddysgais i BSL oherwydd bod fy rhieni yn fyddar, mae fy nheulu yn fyddar. Cefais fy ngeni i fyd byddar ac wrth dyfu i fyny arwyddo roeddwn i. Roedd y gymuned o'm cwmpas yn defnyddio Saesneg, ac roedd pawb o'm cwmpas i yn clywed, ond mae fy nheulu yn fyddar.

Iaith go iawn yw BSL. Mae ganddi ei gramadeg ei hun, ei chystrawen ei hun, ei chyd-destun ieithyddol ei hun. Mae gan Gymru a Lloegr, gwahanol wledydd, eu hiaith lafar eu hunain. Mae BSL yn debyg. Mae ganddi ei strwythur ei hun.

Dewch i ni gael trafod acenion. Mae gan iaith arwyddion wahanol amrywiadau rhanbarthol. Mae yna wahanol amrywiadau rhanbarthol rhwng gogledd Cymru a de Cymru. Yr un peth gyda gorllewin Cymru a dwyrain Cymru. Mae'n ddigon tebyg i'r iaith lafar. Mae yna amrywiadau rhanbarthol yn iaith lafar gorllewin a dwyrain, gogledd a de Cymru. Mae BSL yr un peth. Hefyd, mae iaith arwyddion Cymru dipyn yn wahanol i iaith arwyddion Lloegr, er mai Iaith Arwyddion Prydain yw'r ddwy.

Mae 'na rai arwyddion gwahanol iawn i'w gilydd, oes. Mae un arwydd yn wahanol iawn. Yr arwydd am lythyr. Dyma'r arwydd Cymraeg ar gyfer llythyr, a dyma'r arwydd Saesneg wedyn. Fel y gwelwch chi maen nhw'n wahanol iawn. "

Somalieg

Bu pobl Somali yn byw yng Nghaerdydd ers y 1870au. Mae gan ein prifddinas un o'r cymunedau Somali mwyaf hirsefydlog yn y Deyrnas Unedig. Morwyr oedd y rhai cyntaf i ymsefydlu yma. Daethant yma'n fuan wedi agor Camlas Sŵes ym 1869, pan oedd Caerdydd yn datblygu'n borthladd rhyngwladol o bwys. Yn ystod y 1980au cyrhaeddodd ton arall o fewnfudwyr o Somalia, ar ffo rhag y rhyfel cartref ym Mhenrhyn Somalia. Amcangyfrifir bod dros 8000 o Somaliaid yn byw yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe a'r ardaloedd cyfagos ar hyn o bryd. Dyma'r gymuned ethnig leiafrifol fwyaf yng Nghymru felly.

Mae rhyw 10-15 miliwn yn siarad Somalieg trwy'r byd i gyd. Mae hon yn iaith ag iddi draddodiad hir a chyfoethog o farddoniaeth a llenyddiaeth. Serch hynny, dim ond ers 1972 y daeth Somalieg yn iaith swyddogol Somalia, a disodli'r ieithoedd trefedigaethol, Saesneg ac Eidaleg, ym maes llywodraeth ac addysg.

Faisal Mohamed Hashi: Somalieg

Faisal Mohamed Hashi yn cyflwyno'i hun yn Somalieg.

Faisal Mohamed Hashi yn cyflwyno'i hun yn Somalieg.

Faisal Mohamed Hashi yn siarad am ei gefndir Somalieg ei iaith yng Nghasnewydd.

Faisal Mohamed Hashi yn siarad am ei gefndir Somalieg ei iaith yng Nghasnewydd.

"Ces i fy ngeni yng Nghasnewydd yn y Pil, y rhan newydd o Gasnewydd o'r enw Pilgwenlly, yn ardal y dociau. Masnachlongwr oedd fy nhad, dyna pam ro'n i yma. Fe ddaeth e i'r Deyrnas Unedig gyda'r Llynges Fasnachol, Llynges Fasnachol Prydain. Fe gartrefodd e yma gyda'i deulu a fi oedd ei gynnyrch cyntaf yn y wlad hon. Ond roedd hi'n beth digon od cael fy ngeni yng Nghymru — Cymro oeddwn i ar yr ystyr yna, oherwydd i fi gael fy ngeni yno. Ond yr iaith gyntaf ddysges i oedd Somalieg oherwydd yn y cartref roedd hi fel petaem ni yn Somalia, ond bod Somalia wedi symud i Gymru, wrth gwrs. Felly yn yr ystyr yna, Somaliad o'n i gyntaf. Ond wedyn wrth gwrs pan es i mas i'r stryd, fe ddeallais i 'mod i'n Gymro ac mae fy ngwreiddiau Cymraeg wedi tyfu ers hynny.

Mae iaith yn bwysig iawn, iawn yn fy niwylliant i. Wrth gwrs iaith eich rhieni yw'r iaith gyntaf y byddwch chi'n ei dysgu. Iaith gyntaf fy mam oedd Somalieg, felly roedd hi'n gwneud yn siŵr ei bod hi'n siarad Somalieg gyda ni. Felly fe ddysgais i Somalieg gyntaf, ac yna Saesneg. Mae'n amlwg bod yna gam yn ôl o fyw yn y wlad hon. Felly yn yr ystyr yna, mae 'na lawer o falchder yn perthyn i ddeall yr iaith a llawer o falchder o allu siarad yn eich iaith eich hun a'ch bod chi'n deall eich diwylliant eich hun.

Mae'n wir bod gyda fi acen Gymreig — acen Gymreig-Seisnig — pan fydda i'n siarad Somalieg. Pe bawn i'n siarad y tu ôl i'r wal yna ac yn gael sgwrs gyda rhywun o Somalia, fe fydden nhw yn bendant yn gallu dweud 'mod i heb gael fy ngeni a'm magu yn Somalia. Ond mae 'da fi eirfa eang a fyddai'n gwneud iddyn nhw feddwl ddwywaith ynglŷn â beth yn union oedd fy ngwreiddiau i. Ond o ran acen, yna yn bendant, mae 'da fi acen Gymreig-Seisnig pan fydda' i'n siarad Somalieg.

Yn y bôn, ie, Cymro ydw i. Cymro Somali. Yn yr ystyr yna, mae'r acen Gymreig yn dod i'r wyneb wrth i fi siarad Saesneg a Somalieg."

Panjabi

Siaredir Pwnjabeg gan tus 93 miliwn o siaradwyr. Yn wreiddiol, roedd siaradwyr Pwnjabeg yn dod o ardal y Pwnjab, a rannwyd rhwng India a Phacistan wedi gwahanu'r ddwy wlad ym 1947. Mae tua 70 y cant o siaradwyr Pwnjabeg yn byw ym Mhacistan, a 30 y cant yn India. Mae'r rhai sy'n byw ym Mhacistan yn Fwslemiaid yn bennaf a defnyddiant yr iaith Wrdw ar gyfer crefydd a diwylliant dyrchafedig. Mae Hwndwiaid sy'n siarad Pwnjabeg yn defnyddio'r iaith Hindi ar gyfer eu crefydd. Ond i'r Sikhiaid, Pwnjabeg yw prif iaith ei llyfr sanctaidd, y Guru Granth Sahib.

Daeth Pwnjabiaid i'r Deyrnas Unedig yn cyfnod rhwng diwedd y 1950au a dechrau'r 1970au. Roeddent wedi setlo'n bennaf yn ardal Llundain, Canolbarth Lloegr a threfi tecstilau gogledd Lloegr. Ond nid oedd y siaradwyr Pwnjabeg yn dod o India a Phacistan yn unig. Yn eu plith roedd gwyr busnes a phobl broffesiynol o Ddwyrain Affrica, lle symudodd masnachwyr o'r Pwnjab yn gynharach yn yr 20fed ganrif.

Yng Nghymru, gwyddom fod disgyblion Pwnjabeg eu hiaith mewn ysgolion yn sir Gaerfyrddin, sir Ddinbych, Caerdydd, sir y Fflint, Merthyr Tudful, Abertawe/Castell-nedd,/Port Talbot a Thorfaen.

Swinder Chadha: Pwnjabeg

Swinder Chadha yn cyflwyno'i hun yn Pwnjabeg.

Swinder Chadha yn cyflwyno'i hun yn Pwnjabeg.

Swinder Chadha yn siarad am ei chefndir ieithyddol.

Swinder Chadha yn siarad am ei chefndir ieithyddol.

Rwy'n siarad Pwnjabeg. Dyna'r famiaith rwy' wedi ei hetifeddu gan fy nheulu. Ond pan roeddem ni'n byw yn Delhi, Hindi ac Wrdw oedd yr ieithoedd, ac yn blentyn roeddwn i'n gallu eu dysgu nhw'n rhwydd. Felly ro'n i'n gallu siarad tair iaith yn fy mhlentyndod — Hindi, Wrdw a Pwnjabeg. Fe ddysges i Saesneg pan es i i'r ysgol a'r coleg.

Dim ond Pwnjabeg y byddaf yn siarad gyda fy mhlant a'm gŵr gartref. Rwy' hefyd yn siarad Pwnjabeg pan af i i addoli yn ein Gurdhwara lleol bob dydd Sul. Fel arall Saesneg yw hi i gyd.

Mae pobl o wahanol rannau o'r byd yn y Gurdhwara lle byddaf i'n mynd. Siciaid ydym ni i gyd, rydym ni i gyd yn siarad yr un fath o Pwnjabeg, ond mae gennym ni wahanol acenion. Daeth rhai i Gymru trwy wledydd yn Nwyrain Affrica, neu o Byrma neu Singapore, ac mae yna bobl o Iran, pobl yn syth o'r Pwnjab hefyd. Felly mae gennym i gyd wahanol acen, ond rydym ni oll yn deall yr iaith.

Hyfforddi staff i ddeall amrywiaeth ddiwylliannol y byddaf i. Felly mae hynny yn mynd â fi at wahanol gyrff ac eto byddaf yn siarad gyda gwahanol bobl broffesiynol ynglŷn â sut i ddeall eu gweithwyr sydd wedi dod o wahanol rannau o'r byd, a pha fath o ymdriniaeth fyddai fwyaf derbyniol i'r rhan fwyaf, a sut i fynd o'i chwmpas hi. Dyma'r — ac wedyn bum yn dysgu hanes India i bobl hefyd. Mae hynny'n gwneud i mi ddeall bod holl bobloedd y byd yr un fath. Maen nhw'n edrych yn wahanol, mae'r lliwiau yn wahanol, mae'r ieithoedd yn wahanol, ac mae ganddyn nhw wahanol enwau ar gyfer duw, ond yn y pen draw bodau dynol ydym ni i gyd.

Ffrangeg

Mae tua 128 miliwn o bobl ledled y byd sy'n siarad Ffrangeg. Nid yn unig yn Ffrainc y mae hi'n iaith swyddogol, ond hefyd mewn 24 o wledydd eraill, er enghraifft y Swisdir, Canada a rhai gwledydd yn Affrica. Fe'i siaredir yn Ynysoedd y Sianel, a cheir cymunedau sylweddol o bobl Ffrangeg eu hiaith yn Llundain. Hi yw'r iaith fwyaf cyffredin a ddysgir mewn ysgolion eilradd yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, cofnodwyd siaradwyr Ffrangeg iaith gyntaf mewn ysgolion yng Nghaerdydd.sir Gaerfyrddin, Conwy/sir Ddinbych, sir y Fflint, Casnewydd, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot, a Wrecsam.

Sylvie Hoffman: Ffrangeg

Sylvie Butterbach yn cyflwyno'i hun yn Ffrangeg.

Sylvie Butterbach yn cyflwyno'i hun yn Ffrangeg.

Sylvie Butterbach yn siarad am ddewisiadau iaith oddi mewn i deulu

Sylvie Butterbach yn siarad am ddewisiadau iaith oddi mewn i deulu.

Dysgais Ffrangeg — hi yw fy mamiaith. Cefais fy ngeni yn Ffrainc a Ffrangeg roeddem ni'n siarad gartref. Ond roedd fy nain a'm taid yn siarad Plattdeutsch, oherwydd rydym ni ar y ffin rhwng yr Almaen a Ffrainc , a chawsom ni ein goresgyn gymaint o weithiau fel bod fy rhieni wedi cael eu gwahardd rhag siarad Ffrangeg yn yr ysgol, a'm neiniau a theidiau hefyd. Roedd fy hen nain a'm hen daid yn siarad Ffrangeg, ond doeddwn i ddim yn eu nabod nhw.

Bod yng Nghymru — weithiau, pan fydda' i yn Ffrainc, mi fydda' i'n gweld traha pobl sydd ddim yn poeni i siarad yr iaith. Sydd ddim hyd yn oed yn eich cyfarch chi yn yr iaith honno. Hynny gan Almaenwyr, ac rwy' wedi cwrdd â Saeson felly hefyd. Felly fe ddywedais i wrthyf i fy hun, na, dyw hyn ddim am ddigwydd. Bydd fy mhlant i yn ymwybodol, yn gwybod mai yng Nghymru yr ydym ni, bod pobl yn siarad Cymraeg, a phob dim. Felly fe anfonais i nhw i'r ysgol Gymraeg ac roedd fy merch wrth ei bodd ac wedi dysgu'n rhwydd.

Cymru yn erbyn Lloegr gyda'r rygbi, dros Gymru rydych chi'n gweiddi wrth gwrs. Ond Cymru yn erbyn Ffrainc? Ro'n i'n gweddi ar i Ffrainc ennill! Ac o 'mlaen i roedd yna ferch ddeng mlwydd oed yn gweiddi dros Gymru. O 'mlaen i! Yn fy meddwl i dyna oedd y brad eithaf. Ges i afael ynddi fel hyn a gofynnais iddi, 'Qu'est-ce-que tu fait? Beth wyt ti'n meddwl wyt ti'n gwneud?' Ac fe ddywedodd hi, 'Mam, Cymraes ydw i. Rwy' wedi penderfynu bod yn Gymraes.' A dywedais i, 'Mais, pourquoi? Ond pam?' Ac fe ddywedodd hi, 'Pan fydda' i'n siarad Ffrangeg gyda ti, dwi'n teimlo 'mod i'n gwneud cam â Dad, oherwydd dyw e ddim yn deall Ffrangeg a - wel mae'n deall ond dyw e ddim yn siarad Ffrangeg . A pan fydda' i'n siarad Saesneg gyda fy nhad — dyw e ddim yn siarad Cymraeg — rwy'n teimlo 'mod i'n gwneud cam â ti, felly rwy' wedi penderfynu bod yn Gymraes. Fel hynny fydd arna' i ddim byd i neb.' Felly fe benderfynodd hi fod yn Gymraes, ac o hynny allan, Cymraes oedd hi. A dyna ni. Ac fe wnaeth ei chwaer hi yr un peth.

Gwjarati

Mae Gwjarati yn un o bymtheg iaith swyddogol India ac yn iaith swyddogol talaith Gwjarat yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Amcangyfrifir bod 47 miliwn o bobl ledled y byd yn siarad yr iaith. Hon oedd iaith gyntaf Mahatma Gandhi ac mae iddi draddodiad llenyddol sy'n dyddio'n ôl i'r ddegfed ganrif. Mae yna lawer o siaradwyr Gwjarati yn y Deyrnas Unedig, gyda'r prif gymunedau yng Nghanolbarth Lloegr, trefi diwydiant defnydd gogledd Lloegr a Llundain Fwyaf. Daeth rhai yn syth o India yn y 1950au a'r 1960au, ond daeth llawer i'r Deyrnas Unedig trwy Ddwyrain Affrica, yn arbennig wedi i'r aelodau hynny o'r boblogaeth oedd yn hanu o Ddeheubarth Asia gael eu gyrru o Wganda ym 1972. Gwyddom am ddisgyblion sy'n siarad Gwjarati mewn ysgolion yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin, Merthyr, Abertawe/Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg.

Dinesh Patel: Gwjarati

Dinesh Patel yn cyflwyno'i hun yn Gujurati

Dinesh Patel yn cyflwyno'i hun yn Gujurati.

Dinesh Patel yn siarad am symud o Cenia i Gaernarfon.

Dinesh Patel yn siarad am symud o Cenia i Gaernarfon.

Fy ngeni yn Kenya, a dwy'n dod o cefndir Indian. A dwy'n byw yn Kenya, a dwy'n siarad iaith Gwjarati, mewn tŷ. A siarad Saesneg mewn ysgol, a siarad iaith arall fel Gwjarati, Hindi, Swahili ar y stryd efo plant arall. A dwy'n — dwy'n mynd i India a dysgu Hindi, sut ma siarad a sut ma sgwennu. A dwy'n cyrradd i Lloegr yn 1973, a wedyn gorffan coleg fanna a 'dyn dod i C'narfon, efo gwaith. A dwi'n gweithio efo'r cyngor, a pawb yn C'narfon yn siarad Cymraeg. A dwi'n pigio tipyn bach o Gymraeg ar y stryd yn gynta, wedyn dwi'n mynd i'r coleg a dysgu tipyn mwy, ia. A dwi'n cyfarfod hefo hogan Cymru, a priodi hi, a dwi'n cal dau o blant, a pawb yn tŷ ni yn siarad Cymraeg, bob tro.

Pobol yn byw yn C'narfon, maen nhw'n siarad Cymraeg, Cymraeg efo — Cymraeg, Cofi Cymraeg. A dwi'n pigio lot o Cofi Cymraeg yn C'narfon, a mynd i tafarn efo ffrindia fi, chwara criced efo'n gilydd, a siarad Cymraeg efo pawb. A bob tro, trio defnyddio Cymraeg efo pawb. A dwi'n setlo mewn yn iawn, efo'r gymuned i gyd.

Maleieg

Iaith a siaredir gan bobl sy'n byw ar benrhyn Maleia, deheubarth Gwlad Tai, Ynysoedd y Philipinos, Singapôr, canolbarth dwyrain Swmatra a rhannau o arfordir Borneo yw'r Faleieg (Bahasa Melayu). Mae'n iaith swyddogol ym Maleisia, Brwnei a Singapôr. Mae rhyw 18 miliwn yn siarad Maleieg Safonol, ond mae yna hefyd tua 170 miliwn o bobl sy'n siarad Indoneseg, sy'n ffurf ar y Faleieg. Gwyddom am siaradwyr Maleieg mewn ysgolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Juliet Revell: Maleieg

Juliet Revell yn cyflwyno'i hun yn Maleieg.

Juliet Revell yn cyflwyno'i hun yn Maleieg.

Juliet Revell yn siarad am ddysgu Cymraeg.

Juliet Revell yn siarad am ddysgu Cymraeg.

Wi'n hoff iawn o ddysgu ieithoedd newydd. Mae Cymraeg yn ddiddorol iawn, ac yn wahanol i fy mamiaith. A hefyd mae'n her fawr i fi 'i dysgu. Wi'n meddwl, ne wi'n credu bod yn bwysig i mi i allu siarad Cymraeg er mwyn cymdeithasu gyda'r bobol leol. Achos wi'n byw yn Cymru nawr, Cymru yw fy nghartre.

Wi'n siarad Cymraeg gyda cymdogion, ffrindiau, ne tiwtor Cymraeg, weithiau'n mynd i gyfarfod CYD i ymarfer fy Nghymraeg. Ond mae stori ddiddorol iawn. Dwedodd un o'r cymdogion, y ffermiwr, mae'n anodd siarad â fi mewn Cymraeg, achos mae fy Nghymraeg o safon gweinidog. O, wi wrth fy modd, i glywed hynny!

Llydaweg

Iaith Geltaidd yw'r Llydaweg ac mae'n perthyn yn agos i'r Gernyweg a'r Gymraeg, er na fyddai siaradwr Cymraeg yn gallu deall siaradwr Llydaweg. Mae rhyw 365,000 o siaradwyr Llydaweg, gyda'r rhan fwyaf o'r rhain yn byw yn Llydaw, ar arfordir gogledd-orllewinol Ffrainc. Nid oes statws swyddogol i'r iaith. Rhwng 1880 a 1951 gwaherddid yr iaith yn yr ysgolion ac roedd plant yn cael eu cosbi am siarad Llydaweg. Er 1951, mae'r gyfraith wedi caniatáu dysgu iaith a diwylliant Llydaw am ychydig oriau'r wythnos. Mae yna hefyd ambell i ddarllediad radio yn y Llydaweg ac awr o raglen deledu yr wythnos.

Pascal Lafargue: Llydaweg

Pascal Lafargue yn cyflwyno'i hun yn Llydaweg.

Pascal Lafargue yn cyflwyno'i hun yn Llydaweg.

Pascal Lafargue yn egluro pam y dysgodd Lydaweg a Chymraeg.

Pascal Lafargue yn egluro pam y dysgodd Lydaweg a Chymraeg.

Gesh i fy ngeni yn Rennes, prifddinas Llydaw, ond yn anffodus ers tipyn rwan does 'na neb sy'n siarad Llydaweg yn Rennes. Felly nesh i ddysgu fy hun efo llyfra, a wedyn nesh i roi fy enw yn y brifysgol yn Rennes lle'r on i'n gallu mynd ymlaen efo'r Llydaweg.

Ar hyn o bryd rwy'n siarad Ffrangeg efo fy nghariad, ond rwy'n siarad Cymraeg i fy mab i. Ac efo ffrindia, achos ma gen i ffrindia yng Nghymru o Llydaw, felly dwi'n cal cyfle i siarad Llydaweg efo nhw.

Mae 'na lot o bobol sy'n arfer gofyn i mi, 'Pam 'dach chi wedi dysgu Cymraeg?' Mae'n anodd i ateb math o gwestiwn fel yma, ond fel arfer dwi'n ateb, 'I be yfad gwydyr o win? I be mynd am dro yn y cefn gwlad?' Dwi'n jest dysgu ieithoedd i fod yn ddiddordeb hefo'r bobol, ac i rannu pethau efo nhw. Dyna pam dwi 'di dysgu Cymraeg. A hefyd mae mor agos i'r Llydaweg, felly mae'n ddiddorol iawn, dwy'n meddwl.

Swahili

Mae'r iaith Swahili wedi lledaenu y tu hwnt i'w chrud ar arfordir dwyrain Affrica trwy gyfrwng rhwydweithiau masnachu. Iaith Fantu yw hi, ond trwy gyswllt â masnachwyr o Arabia mae wedi mabwysiadu llawer o eiriau Arabaidd. Yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif defnyddid hi yn iaith weinyddol gan y Prydeinwyr a wladychodd y rhan honno o Affrica. Daeth Swahili yn iaith genedlaethol Tansanïa a Chenia pan enillodd y ddwy wlad eu hannibyniaeth yn y 1960au. Serch hynny, siaredir Swahili hefyd mewn rhannau o Somalia, Wganda, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Rwanda a Bwrwndi. Mae'n famiaith i ryw 5 miliwn o siaradwyr, ond mae o ddeutu 50 miliwn o siaradwyr ail-iaith yn ei defnyddio fel iaith gyffredin.

Dangosodd arolwg o awdurdodau addysg lleol yng Nghymru bod yna blant sy'n siarad Swahili yn rhai o ysgolion Conwy/Sir Ddinbych ac Abertawe/Port Talbot.. Dim ond un o blith sawl iaith Affricanaidd a siaredir gan bobl sy'n byw yng Nghymru yw hi.

Aime Kongolo: Swahili

Mae Aime Kongolo yn hanu o Katanga yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, ardal a oedd ar un adeg yn cael ei rheoli gan Wlad Belg. Daw o gymdeithas lle mae siarad llawer o wahanol ieithoedd yn beth cwbl arferol.

" Mae Swahili fel iaith frodorol, fel mamiaith, i fi. Fe alla' i ddweud hynny oherwydd yn fy ninas i yn Katanga, mae pawb yn siarad Swahili. Mae 'na dafodieithoedd eraill yn cael eu siarad yna, ond mae pawb sy'n siarad y tafodieithoedd yn deall Swahili. Felly fe dyfais i lan gyda'r iaith Swahili. Ar yr un adeg, oherwydd taw athro oedd fy nhad, yn ein tŷ ni roeddwn i'n siarad dwy iaith: Ffrangeg gyda fy nhad a Swahili gyda fy mam. Felly fe dyfais i lan gyda'r ddwy iaith yna. Ond o'r ysgol gynradd ymlaen, o'r ysgol feithrin i'r ysgol gynradd, trwy'r ysgol uwchradd ac yna i'r chweched dosbarth — dim ond Ffrangeg sydd.

Fe ddysgais i Lingala pan symudais i i'r brifddinas, Kinshasa. Mae 'na gymaint o wahanol bobl yn y brifddinas. Maen nhw'n siarad holl wahanol ieithoedd y Congo. Ond Lingala yw'r brif iaith maen nhw i gyd yn ei siarad. Maen nhw'n deall ei gilydd. A Ffrangeg hefyd. Ond mae Lingala fwy ar gyfer mynd allan a chymdeithasu. Dyna pryd byddech chi'n siarad Lingala. Os ydych chi'n gwneud rhywbeth proffesiynol, yna Ffrangeg a dim byd arall. Neu os byddech chi am fod yn posh, falle, byddech chi'n siarad Ffrangeg drwy'r amser. Felly mae hi i fyny i chi.

Pan ddes i i Loegr, fe ddechreuais i ddysgu Saesneg, ac yna fe symudais i i Loegr, i Gymru, lle ddysgais i ragor o Saesneg. Erbyn hyn falle bod rhyw damaid bach o acen Gymreig ar fy iaith er mwyn i bobl fy neall i. Yn y dyfodol mae'n fwy na thebyg y bydda' i'n dechrau dysgu Cymraeg."

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru
31 Ionawr 2018, 09:55
Hi there David

Thanks for your comment. These interviews formed part of the display at St Fagans' 'Gallery One', which has now been taken down. The display sought to give an overview of the languages spoken in Wales, and the interviews themselves featured communities who had been working with the museum as part of the project, rather than an exhaustive list (although in the header image, you can see that we did try to compile one as part of the display!).

I will pass on your enquiry about Romani and Shelta-speaking communities to our Curator and post their reply here.

Best wishes

Sara
Digital Team
David Eger
30 Ionawr 2018, 18:57
Polish is noticeably absent from this list - it surely has more speakers in Wales than some of the above.

As regards longer-standing language communities, are there still any Romani-speaking communities in Wales? Perhaps also Shelta-speaking Irish travellers?