Ymladd ceiliogod
Introduction
Y Rhufeiniaid ddaeth ag ymladd ceiliogod i Brydain. Roedd yn adloniant poblogaidd ymhlith pob dosbarth cymdeithasol ledled Cymru hyd ddechrau'r 19eg ganrif.
Yng nghyfnod y Tuduriaid dechreuodd y teulu brenhinol ymladd ceiliogod. Pan adeiladwyd talwrn ar gyfer Harri VIII galwyd yr arfer yn 'adloniant brenhinol'. Roedd rhai o feirdd canoloesol Cymru'n frwd eu cefnogaeth i ymladd ceiliogod, fel y tystia'r englyn Saesneg hwn:
A cock out of stock like steel — with his head,
As hard as an anvil,
Unparallel'd in peril,
A sour heart and a sure heel.
Sbardunau fel cleddyfau
Byddai'r adar yn cael eu rhoi ar fwydlen gaeth a rhaglen hyfforddi lem a chyn cystadlu byddent yn cael eu tocio, eu cribo a'u plethu. I ymladd, gorchuddiwyd eu sbardunau naturiol gan rai metel, fel cleddyfau, a allai ladd gwrthwynebydd ag un trawiad a dod â'r ornest i ben yn sydyn.
Defnyddid talyrnau dan do a rhai awyr agored i ymladd ceiliogod. Roedd talyrnau dan do yn grwn neu'n wythochrog â muriau uchel, ac roedd y tu mewn i rai ohonynt yn 18 i 20 troedfedd o ddiamedr. Byddai'r arwynebedd ymladd yn cynnwys tywod, ysbwrlathau a cherrig llorio; eisteddai'r gwylwyr ar seddi o gerrig crynion. Cynhwysai'r talyrnau awyr agored gylch wedi'i amgylchynu â ffos. Eisteddai'r cefnogwyr ar eu cwrcwd i rwystro'r adar rhag dianc.
Roedd y gornestau yn arbennig o boblogaidd yn ystod y Pasg a mis Mai. Gan fod betio yn rhemp, byddai'r gornestau'n aml yn arwain at ymladd ac anrhefn llwyr.
Gwaharddwyd ymladd ceiliogod ym Mhrydain ym 1849, yn dilyn y Ddeddf Atal Creulondeb i Anifeiliaid.
Y Welsh Main
Er gwaetha'r teitl, arferid y Welsh Main yng Nghymru a Lloegr. Dyma oedd y prawf llymaf yng nghalendr y ceiliog ymladd. Oherwydd ei lymder, fe'i cynhelid am uchafswm o bedair gwaith y flwyddyn, a dim ond yr adar gorau fyddai'n cystadlu. Byddai'r ornest yn dechrau gyda thua 16 pâr o geiliogod ac fe'u gorfodid i ymladd yn erbyn ei gilydd nes bod hanner y ceiliogod wedi'u lladd. Roedd y brwydrau benben hyn parhau tan na fyddai ond un ceiliog ar ôl. Byddai symiau mawr o arian yn cael eu hennill a'u colli ar y canlyniad.
Taflu at geiliogod
Gyda'r math hwn o ymladd ceiliogod, byddai'r ceiliog yn cael ei osod mewn talwrn a theflid darnau o bren ato. Roedd gan y taflwyr dri chynnig i fwrw'r ceiliog i'r llawr a'i ddal cyn iddo godi ar ei draed.
Taflu ffyn at geiliogod
Ffurf arbennig o greulon o'r adloniant, lle byddai'r ceiliog yn cael ei glymu wrth gordyn i bolyn a saethid ffyn ato. Y sawl a lwyddai i daro'r ergyd farwol fyddai'n fuddugol.
Taflu ffyn at geiliogod
Ffurf arbennig o greulon o'r adloniant, lle byddai'r ceiliog yn cael ei glymu wrth gordyn i bolyn a saethid ffyn ato. Y sawl a lwyddai i daro'r ergyd farwol fyddai'n fuddugol.
Swyndlysau ymladd ceiliogod
Weithiau defnyddid swyndlysau wrth ymladd ceiliogod. Credid eu bod yn amddiffyn ac yn diogelu'r perchennog. Cynhwysent adnodau o'r Beibl neu eiriau cyfrin ac arwyddion ar ddarnau papur digon bach i'w gosod yn y sbardunau dur ar goesau'r aderyn. Adnod gyffredin a ddefnyddid at y pwrpas oedd:
Taking the shield of faith wherewith ye shall be able to quench all the fiery darts of the wicked.
I wneud swyndlws cryfach hyd yn oed, gosodid briwsionyn o'r bara cysegredig a adawyd ar y Bwrdd Cymun ar ôl gwasanaeth crefyddol yn y sbardun dur. I greu effaith mor gryf â phosib, cymerid y briwsionyn o'r eglwys ganol nos. Hefyd credai perchnogion ofergoelus y byddai adar a fwytai bridd a geid o dan allor yr eglwys yn troi'n anorchfygol.
Serch hynny, collai hud a swynau o'r fath eu grym mewn brwydrau a gynhelid ar dir sanctaidd y fynwent, lle ymleddid gornestau gonest, na ellid eu cyffwrdd gan bwerau allanol.
Ffynonellau:
Owen, Elias, 'Churchyard Games in Wales', The Reliquary and Illustrated Archaeologist, vol 2 (1896), 154-161.
Peate, Iorwerth C., 'The Denbigh Cockpit and Cockfighting in Wales', Denbighshire Historical Society Transactions, vol.19 (1970), 125-132.
Awdur: Emma Lile, Curadur: Cerddoriaeth, Chwaraeon ac Arferion Traddodiadol
sylw - (1)