Streic!

Bwrdd Glo Cenedlaethol

Ar 1 Mawrth 1984 cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol ei fod yn bwriadu cau 20 o byllau glo a cholli 20,000 o swyddi. Bu'r streic 12 mis a ddaeth yn ei sgil yn gyfrwng i newid hanes gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol Cymru am byth.

"Mae glowyr de Cymru'n dweud — dy'n ni ddim yn barod i droi cefn ar ein cymunedau glofaol, dy'n ni ddim am adael i'n plant fynd i'r ciw dôl yn syth o'r ysgol — mae'n amser taro'n ôl!"

Emlyn Williams, Llywydd, NUM, De Cymru

Protestiadau a picedu

Pleidleisiodd y mwyafrif o lowyr Cymru yn erbyn streic i ddechrau, ond wedyn fe fuon nhw'n flaenllaw yn y protestiadau a'r picedu. Cododd gwragedd y glowyr eu llais i gefnogi'u gwŷr gan godi arian a threfnu i ddosbarthu bwyd, ac aethant ati hefyd i gefnogi'r piced a'r gorymdeithiau.

Er na ddioddefodd Cymru'r trais ar y llinellau piced a welwyd ar rai o feysydd glo eraill Prydain, collodd rhai o lowyr Cymru eu bywydau wrth bicedu a chyflawni gwaith diogelwch yn y pyllau glo a lladdwyd gyrrwr tacsi wrth gludo torrwr streic i'w waith.

"Bu rhaid i ni frwydro yn erbyn y gelyn allanol yn Ynysoedd y Falkland, ond rhaid i ni fod yn ymwybodol bob amser o'r gelyn mewnol, sy'n frwydr anoddach o lawer ac yn fwy o beryg i ryddid."

Margaret Thatcher, Prif Weinidog

Casglu hanesion

Roedd da a drwg yn perthyn i'r ddwy garfan a bu ymdrech fawr i geisio casglu hanesion o'r naill ochr a'r llall. Mae'r dicter a ddaeth yn sgil y streic wedi gwneud hyn yn dasg anodd oherwydd bod rhai a fu'n cymryd rhan yn amharod i roi caniatâd i'w hanesion gael eu hadrodd.

Mae hyn, a'r ffaith fod y mwyafrif o'r straeon wedi'u casglu o Gymru, lle mai dim ond canran fechan o'r gweithlu ddychwelodd i'r gwaith yn ystod y streic, yn ei gwneud yn anorfod bod un safbwynt yn ymddangos fel petai'n cael mwy o sylw. Pe byddai hanesion wedi'u casglu o fannau eraill mae'n dra phosibl y byddai'r safbwynt arall yn rhagori.

Caiff hanes gwrthrychol a chytbwys streic y glowyr ei ysgrifennu rhyw ddiwrnod, ond mae'r tudalennau sy'n dilyn yn cyflwyno hanesion rhai o'r dynion a'r menywod gafodd eu heffeithio gan yr hyn a adwaenir bellach fel ... Y Streic.

Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r llyfryn yma

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.