Cân Gwrthryfel Rhondda - Geiriau ar gyfer yr Orymdaith Newyn gyntaf o Gymru
Digwyddodd yr orymdaith newyn gyntaf o Gymru i Lundain ym 1927 i brotestio yn erbyn y Weinyddiaeth Iechyd a oedd yn gwrthod neu'n cyfyngu ar nodau cymorth ar gyfer glowyr diwaith a'u teuluoedd. Roedd hefyd yn brotest yn erbyn Deddf Diweithdra newydd y Llywodraeth.
Sul Coch Cwm Rhondda
Yn ystod protest 'Sul Coch Cwm Rhondda' ar 18 Medi 1927, galwodd A.J. Cook, arweinydd glowyr y cyfnod, am orymdaith i Lundain ar 8 Tachwedd (wrth i'r Senedd ail-agor). Dewiswyd aelod o bob cyfrinfa (cangen undeb pwll glo) o Ffederasiwn Glowyr De Cymru (SWMF) i orymdeithio, pob un ohonynt yn cario lamp seffti glowr.
Erbyn Tachwedd, fodd bynnag, roedd yr orymdaith wedi colli cefnogaeth y SWMF. Serch hynny, parhaodd i dderbyn cefnogaeth oddi wrth A.J. Cook, S.O. Davies (a ddaeth i fod yn AS Merthyr) SWMF adran y Rhondda, a'r Blaid Gomiwnyddol.
Ar 8 Tachwedd 1927, gorymdeithiodd 270 o ddynion, ar gwaethaf gelyniaeth yr Undebau Llafur, y wasg a'r llywodraeth. Serch hynny, cawsant gefnogaeth y Cynghorau Llafur ym mhob pentref a thref ar hyd y daith (yn cynnwys Pontypridd, Casnewydd, Bryste, Caerfaddon, Chippenham a Swindon).
'Gorymdeithiaf er eich mwyn chi ac eraill mewn angen'
Dynion o Gymoedd Rhondda, Caerau, Aberdâr, Merthyr, Pontypridd, Tonyrefail, Dyffryn Gwyr, Gilfach Goch, Nant-y-glo a Blaina oedd y 270 gorymdeithwyr. Bu farw dau ddyn ar yr orymdaith — Arthur Howe o Drealaw mewn damwain ffordd, a John Supple o Donyrefail o niwmonia wedi iddo fynychu'r rali yn Sgwâr Trafalgar.
Ysgrifennodd Mr Supple yn ei lythr olaf at ei wraig - 'Peidiwch â phoeni amdanaf i. Meddyliwch amdanaf fel un o filwyr Byddin y Gweithwyr. Cofiwch fy mod wedi gorymdeithio er eich mwyn chi ac eraill mewn angen.'
Aflonnyddwch gan 'Ffasgwyr', a Hebryngwyr Arfog
O'r cychwyn cyntaf, cyfeiriwyd yn aml at yr orymdaith fel 'byddin y gweithwyr'. Trefnwyd y gorymdeithwyr ar batrymau milwrol, wedi'u rhannu'n ddidoliadau a chwmnïau. Yn dilyn honiad o aflonnyddwch gan 'Ffasgwyr', daeth gosgordd arfog, yn cynnwys 100 aelod o Gynghrair Llafur Cyn-Filwyr i gwrdd â'r trefnwyr yn Chiswick.
Yn ddiweddarach, mewn pamffled o'r enw 'Gorymdaith y Glowyr: Sut y Gwnaethom Chwalu'r Gwrthwynebwyr', ysgrifennodd uwch swyddog Byddin y Gweithwyr, Wal Hannington, - '... mae'r dynion hyn yn goleuo lamp gryfach a mwy pwerus na'r un maent yn ei chario. Goleuant lamp sy'n datgelu'r llwybr troellog y mae rhaid i weithwyr ei ddilyn, ac sy'n goleuo ffordd yr ymdrech am y frwydr gyda grymoedd adweithiol a choncwest y gweithwyr am bwer'.
Mae'r pamffled yn cynnwys 'Can Gwrthryfel Rhondda' sy'n adlais o A Rebel Song James Connolly, a ganodd y gorymdeithwyr, yn ogystal â 'Cân Ymdaith y Fyddin Goch' ac 'Ymdaith y Fyddin Goch'.
sylw - (1)