Weithiau, 'dyw breuddwydio ddim yn ddigon
Roedd y ffordd greulon a milain y bu perchnogion y pyllau a'r rheolwyr yn trin y glowyr dros y blynyddoedd wedi arwain at ddirmyg a oedd bron iawn yn gasineb llwyr. Roedd tri glöwr yn cael eu lladd ym Mhrydain ar bob diwrnod gwaith ar y pryd.
Felly, roedd yna wir lawenydd.
Roedd baner Bwrdd Glo Prydain yn cyhwfan yn falch ar ben pob pwll ag arno logo aur yr NCB ar gefndir glas. Dair blynedd ar ddeg ynghynt, cafodd 266 o lowyr eu llosgi i farwolaeth yn pwll yn y gogledd;dim ond 16 corff a godwyd ac ni chafwyd hyd i eiddo neb. Felly, roedd pobl pob maes glo ym Mhrydain yn llawenhau o waelod calon.
Doedd neb yn disgwyl gwyrthiau ar ôl y gwladoli ond,yn raddol, sylweddolodd y bobl fod yna anghymhwyster ar raddfa fawr, rhyw fath o daith anhrefnus i rywle ond 'wyddai neb i le yn union.
Rwy'n cofio un achlysur sy'n profi hyn. Roeddwn i'n gweithio yn lle gyrrwr yr injan dan ddaear yng ngwythïen Eighteen Feet. Roedd y rhaff ar y brif injan ddirwyn bedair troedfedd tua modfedd a hanner ar draws a rhyw filltir o hyd. Roedd y rheolwr, John Williams, yn cwmpo mas yn ffyrnig â rhyw ddynion o HQ. Roedden nhw eisiau rhoi rhaff oedd lawer yn fwy trwchus ac yn hirach yn lle'r rhaff honno.
Gosodwyd y rhaff newydd ond yn fuan iawn gwelwyd ei bod yn rhy drwm i'r jyrni (trên o dramiau) i'w thynnu ar hyd y lefel. Dyn a wyr faint gostiodd hi i gywiro'r camgymeriad dwl yna. Ac roedd y math hwnnw o gamgymeriad hanner-call ac eithriadol o gostus yn digwydd ddwsin o weithiau bob dydd ym mhob maes glo trwy'r wlad.
Roedd un neu ddau o'r glowyr dros 70 oed ond roedden nhw'n llenwi cymaint o lo â'r rhan fwyaf o'r dynion ac yn ennill cyflog iawn. Un dydd Iau, fe orffennon ni shifft y prynhawn a chodi'n pecynnau pae. Roedd casyn yn sownd wrth becynnau pae'r dynion hynaf a nodyn bach anniben ynddo yn dweud eu bod yn cael 14 diwrnod o rybudd. Dim pensiwn, dim tâl diswyddo, dim - ac roedd un neu ddau o'r hen ddynion wedi dechrau gweithio'n 13 oed!
Trefnodd John Williams i ddod â'r hen ddynion nôl am ddiwrnod, cyflogodd nhw a'u cadw yn y cantîn tan ddiwedd y shifft. Roedd hynny'n golygu eu bod yn cael punt yr wythnos yn bensiwn o'r loaf.
Roeddwn i grac â'r ffordd roedd y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn ymddwyn. Roedd y dynion wedi brwydro dros y blynyddoedd i sicrhau bod y diwydiant yn cael ei wladoli - roedd rhai hyd yn oed wedi'u carcharu!
O ddydd i ddydd, daeth yn fwyfwy amlwg nad oedd modd rhedeg diwydiant glo Prydain o ryw gyfeiriad swanc yn Belgravia, Llundain. Roedd diffygion mawr yn y gwaith cynllunio a threfnu ym mhob man. Ond, roedd y gwaith yn mynd ymlaen fel arfer ar y ffas.
Wrth edrych yn ôl, fe welwn ni ddiwydiant anferthol, wedi'i dan-ariannu'n ddifrifol am flynyddoedd lawer, ac wedi'i roi i wleidydd i gael trefn arno.
Efallai pe bai rhywun wedi meddwl am ofyn, neu pe bai rhywun wedi bod yn ddigon dewr i ofyn i rywun fel pennaeth Boots the Chemist neu bennaeth cwmni ceir Austin i ofalu am y diwydiant, neu wedi mynnu bod mentrau cydweithredol yn cael eu sefydlu, y byddai'r freuddwyd wedi'i gwireddu.
Un peth cadarnhaol a ddigwyddodd o ganlyniad i'r gwladoli oedd bod trefniadau iechyd a diogelwch wedi gwella'n sylweddol iawn.
Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r llyfryn yma: