'Straeon o grombil y ddaear' - atgofion Ray Isted, glowr Bois Bevin
Raymond George Isted, Bachgen Bevin, Glofa Roseheyworth 1943-9
Ges i ngeni yn Herstmonceux, Dwyrain Sussex. Gadawes i'r ysgol yn 14 oed i fynd i weithio mewn ffatri oedd yn gwneud rhannau i geir. Pan ddes i'n 18 oed, ges i alwad i fynd i Brighton i gael prawf meddygol. Roeddwn i eisiau ymuno â'r fyddin, ond a dweud y gwir bydden i wedi bod yn ddigon bodlon aros gartre!
"Daeth fy rhif i lan yn y balot i fynd i'r pyllau glo ac fe anfonon nhw fi i Ganolfan Hyfforddi Oakdale. Fues i'n lletya gyda Mrs Jones yn Rhisga, fi a Wyndham Jones, cocni oedd â pherthnasau yn Abertyleri. Cawson ni chwech wythnos o hyffordiat yn Oakdale (roedd Wyndham 'fel menyw' ar y rhaw) a'n hala wedyn i Lofa Roseheyworth. Roedd rhaid inni wisgo'n dillad ein hunain yn y gwaith. Fy rhieni roddodd fy nillad i fi ac roeddwn i'n arfer eu hala nhw adre i Sussex bob wythnos i mam gael eu golchi nhw. Roedd hi'n arfer dweud 'Byddai'n well gen i weld Raymond yn mynd i'r fyddin na lawr y pwll' — roedd hi'n meddwl bod y cyfan yn ofnadwy, a bod y Cymry'n byw mewn ogofâu.
"Ar ôl sbel es i weithio gyda Sid Fox ar hedin lle bydden ni'n llanw 13 neu 14 dram bob shifft — byddai Sid yn rhoi rhyw £3 o 'arian cnoco' i fi. Pan fyddai Sid yn sâl, fydden i'n gweithio ar yr hewl gyda Gerald Williams.
"Gerald gyflwynodd fi i Phyllis ar ryw noson mâs - roeddwn i'n swil ac yn ffaelu dawnsio a dyna'r unig ffordd i'w gwneud hi yn y dyddiau hynny. Ond yn y diwedd, dyna'r unig ferch i fi fynd mâs gyda hi erioed ac r'yn ni'n briod ers 58 o flynyddoedd mis Awst yma (2005). Priodas dawel geson ni, roedd fy rhieni i'n sâl ac yn ffaelu dod lawr a doedd neb arall yna ar fy ochr i o'r teulu. I Weston Super Mare aethon ni ar ein mis mêl. Doedd y wraig newydd ddim am setlo yn Eastbourne, felly aros yng Nghymru wnaethon ni. Roedd hi wastad yn 'Helo Ray' bob deg munud yng Nghymru - yn Eastbourne gallech chi gerdded o gwmpas am chwe mis a fyddai torri gair â chi!
"Bues i'n gweithio yn y pyllau am chwe mlynedd. Rwy'n cofio goruchwyliwr yn pwyntio ata i a dweud wrth rywun 'Chi'n gweld y bachan 'na? Bachgen Bevin sy'n dal i weithio yma — ni'n ffaelu cael gwared arno fe!' Fe godes i'r acen hyd yn oed i ryw raddau, ond i atal pobl rhag gwneud hwyl ar ben fy acen Sussex i y gwnes i hynny. Erbyn hyn rwy'n teimlo'n fwy o Gymro na'r wraig!"
Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o'r cylchgrawn 'Glo' a gynhyrchwyd gan gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Gellir lawrlwytho'r cylchgrawn i gyd yma: