Cofnodion hanesyddol o gyfnod angof
Defnyddiwyd golygfeydd o dirluniau i addurno cwpanau, soseri, platiau, bowlenni a jygiau ers blynyddoedd. Roedd rhai yn olygfeydd o ddychymyg yr arlunydd; eraill yn olygfeydd o lefydd go iawn. Mae enghreifftiau a arddangosir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnwys golygfeydd o Ddolgellau a Glyn Nedd ar borslen Nantgarw a pheintiad o Castel Gandolfo yn Rhufain ar ddysgl o ddechrau'r 19eg ganrif a wnaed yn y Ffatri Borslen Imperialaidd yn St. Petersburg, Rwsia.
Gweithiai'r peintiwr porslen o ysgythriad fel rheol, ond roedd modd iddynt hefyd weithio o'u cof neu ddilyn delwedd nad yw wedi goroesi, gan wneud y darn addurnedig ei hun yn gofnod gwerthfawr a manwl o le a fyddai, fel arall, yn angof.
Buarth Pen-Y-Rhos, Nantgarw
Un darn pwysig o'r fath yw dysgl fawr o borslen yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Ar flaen y ddysgl, mewn ffrâm siâp hirgrwn mae delwedd o dŷ ac ysguboriau yng nghysgod coed, o flaen bryn. Arno mae'r arysgrif 'Pen-y-Rhos'. Ar gefn y ddysgl mae delwedd o fuarth gyda gwartheg ac ieir yn y blaen.
Er nad oes nodau ar y ddysgl, mae'r past, y crochenwaith trwm a'r addurniadau i gyd yn nodweddiadol o waith Nantgarw. Mae darnau eraill o dystiolaeth yn cynnwys darn o ddysgl union yr un fath a ddarganfuwyd ar safle ffatri Nantgarw. Mae'n debyg mai Thomas Pardoe oedd y peintiwr, a weithiodd yn Nantgarw o 1821 hyd at ei farwolaeth ym 1823.
Mae fferm Pen-y-Rhos un filltir o Nantgarw, ar gyrion Caerffili. Ar ddechrau'r 19eg ganrif roedd yn gartref i Edward Edmunds. Ym 1814 tanosododd safle'r ffatri, bwthyn a thir ger Camlas Sir Forgannwg i William Billingsley a Samuel Walker. Ym 1820 cafodd ei danosod eto, y tro hwn i William Weston Young.
Credir i dair set gyflawn o ddysglau gael eu gwneud yn y ffatri ar gyfer Edmunds a'i deulu. Nid oes un o'r setiau hyn wedi goroesi yn gyfan ond credir eu bod yn dyddio o berchnogaeth Billingsley o'r crochendy ym 1817-19.
Nid oedd dysgl Pen-y-Rhos yn rhan o'r setiau hyn, ond roedd yn dod o ddyddiad diweddarach. Efallai ei fod yn rhodd gan Young neu Pardoe i Edmunds.
Felly yn ogystal â bod yn ddarn dogfennol allweddol o borslen Nantgarw, mae'r ddysgl yn dangos golygfa brin o ffermdy ym Morgannwg yn y 1820au.
Gweithfeydd Haearn Pentwyn, y cymoedd
Os yw dysgl Pen-y-Rhos yn datgelu golygfa amaethyddol angof, yna mae'r ddysgl neu gwpan tsieni asgwrn Swydd Stafford, gyda dwy ddolen, yn datgelu tirwedd ddiwydiannol angof. Yn dyddio o tua 1835, mae'r darn hwn wedi ei addurno ar y blaen gyda golygfa o Weithiau Haearn Pentwyn o fewn ffrâm oreurog. Ar y cefn mae'r enw I Hunt Esq. (roedd 'Esq.', neu 'Esquire', yn cael ei ddefnyddio weithiau yn lle 'Mr').
Roedd Gweithfeydd Haearn Pentwyn ar ochr orllewinol Abersychan, tair milltir o Bont-y-pŵl yng nghymoedd de Cymru. Sefydlwyd y gweithfeydd haearn ym 1825 ac roedd yn cynnwys y tair ffwrnais chwythu a adeiladwyd gan deulu Hunt. Erbyn 1839 roedd y gweithfeydd yn eiddo i Gwmni Pentwyn, ond nid yw'n hysbys a oedd teulu Hunt yn parhau i fod yn gysylltiedig.
Cyn 1848 pasiwyd Cwmni Pentwyn i gwmni Williams & Co. ac fe ddymchwelwyd yr holl adeiladau. Y ddelwedd ar y darn hwn, y mae'n rhaid ei fod wedi ei gomisiynu ar gyfer neu gan aelod o deulu Hunt, yw'r unig olygfa hysbys o'r safle diwydiannol hon yn y cyfnod hwnnw.