Pwll Glo Nantgarw - y pwll glo dyfnaf yn Ne Cymru
Parc Nantgarw
Efallai nad yw pawb sy'n ymweld â Chanolfan Gasgliadau Amgueddfa Cymru ym Mharc Nantgarw, i'r gogledd o Gaerdydd, yn sylweddoli ei fod ar un adeg yn safle un o'r pyllau glo enwocaf yn ne Cymru. Y cyfan sy'n parhau yw dau byramid concrit bychan yn nodi safleoedd y siafftiau ac olwyn godi goffaol.
Y pwll glo dyfnaf yn Ne Cymru
Pwll glo Nantgarw oedd un o byllau blaenllaw'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Hwn oedd y pwll glo dwfn agosaf i Gaerdydd, ac yn arwydd i deithwyr eu bod wedi cyrraedd meysydd glo de Cymru.
Wedi'i agor ym 1911, roedd yno ddwy siafft fawr ac, ar ddyfnder o 782.73m (856 llath), dyma oedd pwll glo dyfnaf de Cymru. Serch hynny, er ymddangos fel esiampl dda o ddiwydiant glo glân ac effeithiol, rhoddwyd y gorau i'r pwll glo ym 1927 yn sgil prinder dynion, perthynas ddiwydiannol wael ac, uwchlaw dim, y lleoliad uwchben daeareg gymhleth iawn o dan y ddaear.
Blynyddoedd y Rhyfel
Agorwyd y pwll eto ym 1937 yn dilyn adrefniant sylweddol, ond gohiriwyd y gwaith pan ddechreuodd y rhyfel ym 1939. Cymeradwywyd cynllun hwyrach i ail agor y pwll gan y Weinyddiaeth Tanwydd a Phŵer ym 1946. Dyma'r cynllun sylweddol cyntaf i gael ei weithredu gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn rhanbarth y de orllewin.
Pwll glo modern newydd
Er mwyn creu model o bwll glo yn Nantgarw, dinistriwyd pob ôl o'r gwreiddiol a chynlluniwyd adeiladau newydd ar yr wyneb, gydag adnoddau modern. Gosodwyd teclynnau i leihau mwg a mygdarth, ac fe osodwyd yr holl wastraff o dan y ddaear gan gadw'r arwyneb yn glir o domennu gwastraff hyll. Roedd y rhwydwaith tanddaearol cyfan wedi ei gynllunio i leihau perygl damweiniau. Cymerwyd gofal mawr i leihau unrhyw lwch a gynhyrchwyd o dan y ddaear ac ar yr wyneb, er mwyn amddiffyn y gweithlu rhag dal afiechydon megis pneumoconiosis.
Dim digon o lowyr
Yn ystod yr 1940au roedd dirywiad amlwg yn y nifer o ddynion a oedd yn fodlon ystyried gyrfa fel glöwr, hyd yn oed mewn ardaloedd traddodiadol glofaol megis y Rhondda.
Roedd problem benodol o brinder dynion ym mhwll Nantgarw, gyda'r boblogaeth waith yn dewis gweithio mewn llefydd eraill. Roedd yn rhaid recriwtio'r gweithlu o ymgeiswyr newydd neu o byllau glo mewn ardaloedd eraill a oedd wedi cau. Erbyn 12 Mawrth 1954 roedd cyfanswm costau'r project wedi cynyddu i £5.25 miliwn. Roedd perthynas lafur hefyd yn peri gofid. Yn ystod 1958 roedd 65 enghraifft o ataliad, gweithio'n araf a cherdded allan o'r pwll.
Ffawd yn dirywio
Goroesodd Nantgarw'r cyfnod o gau llu o byllau glo yn y 1960au. Ym 1975, unodd gyda Phwll Glo Windsor ger Abertridwr. Erbyn 1979, roedd Pwll Glo Nantgarw / Windsor ar y cyd yn cyflogi tua 650 o ddynion, gan gynhyrchu dros 4,000 tunnell o lo bob wythnos. Yn ystod 1979-80 gwnaethpwyd elw o ychydig dros £0.5 miliwn. Er yr anawsterau datblygu, ymddangosai bod dyfodol y pwll yn weddol sicr.
Serch hynny, erbyn dechrau'r 1980au, tarwyd ffawd y pwll eto gan brinder dynion ac amgylchiadau daearegol gwael. Collodd y pwll £7miliwn ym 1981, ac ym 1982 dirywiodd yr allbwn yn sydyn wrth i wythïen lo allweddol ddod yn anweithiadwy. Blwyddyn yn ddiweddarach, arweiniodd gwaharddiad ar oramser yn uniongyrchol at streic deuddeg mis 1984-5. O fewn deunaw mis i ddiwedd y streic, caewyd mwy o byllau glo yn ne Cymru. Y tro hwn, cafodd Pwll Glo Nantgarw ei gynnwys. Daeth bron i 80 mlynedd o hanes glofaol yn Nantgarw i ben.
sylw - (4)
Hi Mr Donovan,
There used to be a loco driving training area and an NCB museum but the nearest training centre for Nantgarw was Tondu, near to the area NCB offices, in the 1970s/1980s at least.
Anyone have more information?
Ceri Thompson
Curator, Big Pit: National Coal Museum