Printiadau a darluniau unigryw T. H. Thomas
Yn ystod ei oes, creodd T. H. Thomas (1839-1915) gatalog unigryw o brintiadau, darluniau a dyfrlliwiau yn manylu prif ddiddordebau'r 19eg ganrif. Ym 1915, gadawyd y catalog cyfan mewn ewyllys i Amgueddfa Cymru.
Thomas Henry Thomas: y casglwr
Ganwyd Thomas Henry Thomas, un o sefydlwyr Amgueddfa Cymru, ym Mhont-y-pŵl ym 1839. Astudiodd yn yr Academi Frenhinol a threuliodd amser yn Ffrainc a'r Eidal.
Wedi dychwelyd i Lundain ym 1864, arbenigodd mewn portreadau, cynllunio a darlunio llyfrau. Gweithiodd fel arlunydd ar gyfer The Daily Graphic, ac mae nifer o ddarluniau ohono wedi goroesi, yn amrywio o waith ar dwnnel Hafren ym Mhortskewett i ymweliadau brenhinol.
Thomas yng Nghymru
Rhwng 1866 a 1878, ymsefydlodd Thomas yng Nghaerdydd, lle'r arhosodd am weddill ei fywyd. Daeth i ymwneud â'r Eisteddfod a'r Orsedd ac ymunodd gyda'r Royal Cambrian Academy. Roedd hefyd yn aelod allweddol o Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, gan ddod yn llywydd ym 1888.
Arweiniodd ei ddiddordeb mewn daeareg at ddarganfod ffosil pwysig newydd, mewn llechen garreg fawr yn y fynwent yn Newton Nottage. Fe'i henwyd yn Brontozoum Thomasii fel teyrnged iddo.
Y casgliad
Derbyniodd Amgueddfa Cymru gasgliad Thomas o dros 1,000 o brintiadau, lluniau a dyfrlliwiau yn dilyn ei farwolaeth ym 1915.
Mae'r prif gasgliad yn cynnwys tri blwch, bob un yn cynnwys tua saith deg o ffolderi sy'n dal hyd at ddeg gwrthrych, wedi'u gosod fesul math o bwnc. Hyd yn ddiweddar, tybiwyd mai gwaith Thomas oedd y system drefnu hon, ond datgelodd astudiaeth fanylach o'r llawysgrifen mai gwaith Isaac Williams, Ceidwad Celf cyntaf yr amgueddfa ydoedd. Nid yw'n hysbys, felly, ar ba ffurf y cyrhaeddodd y gweithiau hyn yn y lle cyntaf, er bod cyfeiriad at lyfr sgrap nad yw wedi ei ddarganfod hyn yma. Gan fod dulliau curadu yn wahanol iawn bryd hynny, mae'n debygol bod y llyfr sgrap wedi ei ddatgymalu a'i gynnwys wedi ei ail osod i'r ffolderi sy'n eu dal heddiw. Mae eu cynnwys yn eithriadol o eang, gyda thestunau yn cynnwys bywyd gwledig a diwydiannol, byd natur, archaeoleg, darlunio llyfrau, llên gwerin a darluniau o fywyd cymdeithasol a diwylliannol.
Ymysg y gwrthrychau amrywiol yn y casgliadau mae un arbennig o ddiddorol, sef blwch sigaréts wedi'i llenwi gyda darluniau gan blant o ysgol yn Swydd Rhydychen. Ymddengys bod y rhain yn rhan o arbrawf gan Thomas i ddadansoddi techneg darlunio plant.
Cadw bywyd diwylliannol a threftadaeth Cymru
Tueddodd diddordebau helaeth Thomas i rwystro ei ddatblygiad artistig, a phetai wedi ymrwymo at gelf yn unig, byddai wedi llwyddo i gael cydnabyddiaeth ehangach. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn feirniadaeth — nid yn ei safon artistig mae cryfder deunydd Thomas, ond yn ei ryfeddod, ei ehangder, a'r ffaith ei fod yn cynrychioli catalog sydd bron yn llawn o'r prif ddiddordebau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. O'i weld o'r persbectif hwn, gellir edrych ar Thomas yn nhraddodiad J. W. Goethe a John Ruskin, dynion yr oedd eu gwaith yn cwmpasu nifer o ddisgyblaethau amrywiol ac a oedd am bontio'r bwlch rhwng gwyddoniaeth a'r celfyddydau. Hefyd, roedd Thomas yn hyrwyddwr brwd o gelf ac artistiaid Cymreig, ac yn gweithio i gefnogi'r bywyd diwylliannol a chadw etifeddiaeth Cymru lle bynnag yr oedd yn bosibl. Mae Amgueddfa Cymru yn ffodus i fod wedi derbyn cymynrodd mor gynhwysfawr, yn arbennig un sy'n cwmpasu bob un o'i adrannau curadurol.
sylw - (2)