Portread mawreddog ar gyfer priodas ym 1777
Mae gan Amgueddfa Cymru grŵp nodedig o bortreadau hyd llawn o'r 1770au. Yn eu plith mae darn a helpodd i ddod â bri i'r arlunydd George Romney ar ôl dychwelyd o ymweliad i geisio gwneud enw iddo'i hun yn yr Eidal. Bu'r darn hwn o gymorth iddo gystadlu â Reynolds a Gainsborough.
Symudodd Romney i Lundain o Kendal ym 1762 i geisio llwyddiant ac enwogrwydd. Un o'r lluniau a ddechreuodd wneud enw iddo oedd portread mawr o'r teulu Warren o Poyton, Swydd Gaer, a orffennwyd ym 1769.
Rhwng 1773 a 1775, bu Romney'n teithio yn yr Eidal, i weld darnau celfyddyd clasurol a rhai o gyfnod y dadeni drosto'i hunan ac i feithrin hygrededd ymhlith noddwyr. Pan ddychwelodd i Lundain, cafodd bod bron bawb wedi anghofio amdano. Fodd bynnag, cymerodd brydles ar dŷ mawr yn Sgwar Cavendish, a daeth rhai o'i hen gefnogwyr ato â chomisiynau newydd.
Syr George Warren oedd un o'r rhai cyntaf. Archebodd bortread o'i ferch Elizabeth, i ddathlu ei phriodas ym mis Ebrill 1777, â Thomas, 7fed Is-iarll Bulkeley o Fiwmares (1752-1822). Ef oedd prif dirfeddiannwr Ynys Môn ac roedd ganddo gysylltiad â Syr Watkin Williams-Wynn. Bu'n Aelod Seneddol dros y sir rhwng 1774 a 1784 pan wnaed ef yn Arglwydd.
Bu Elizabeth yn eistedd ar gyfer Romney bum gwaith ym mis Mai 1776. Yna aeth yr arlunydd yn sâl, a bu'r eisteddiad olaf ym mis Rhagfyr. Aeth llawer o feddwl i'r darlun ac mae brasluniau ar ei gyfer mewn sawl casgliad.
Ers amser, bu Romney'n awyddus i ennill ei blwyf fel darlunydd gweithiau ac iddynt neges lenyddol a moesol ac fe ddarlunir Elizabeth fel Hebe, cludwraig cwpanau'r duwiau a duwies harddwch ieuenctid. Fel rheol, mewn lluniau o Hebe byddai ganddi gwpan neu stên a byddai eryr yn y llun i gynrychioli ei thad Sews. Roedd yn bersona alegorïaidd poblogaidd ar gyfer portreadau o ferched ifanc yn y 18fed ganrif.
Mae'r gwaith hwn yn enghraifft o'r "aruchel a'r arswydus" yn arddull Romney. Mae lliwiau'r rhaeadr fynyddig yn llym, bron fel monocrom. Bwriad yr arlunydd oedd atgoffa'r gwyliwr o gerflun clasurol. Roedd yn un o nifer o ddarnau neo-glasurol a ddaeth â bri iddo ym 1776 gan arwain at ugain mlynedd fel paentiwr portreadau prusuraf a mwyaf ffasiynol Llundain.
Ni chafodd Elizabeth a Thomas Bulkeley blant ac, yn y pen draw, hanner brawd Thomas a etifeddodd y portread a fu'n hongian ym mharlwr eu cartref, Baron Hill, ar Ynys Môn. Pasiwyd ef ymlaen yn nheulu Williams-Bulkeley tan iddo gael ei brynu gan yr Amgueddfa (lle bu ar fenthyg ers 1948) gyda chymorth y Gronfa Glef yn 2000.
Cyhoeddiadau cysylltiedigï:
- Fritz Saxl & Rudolph Wittkower, British Art and the Mediterranean, Oxford 1948, repr.63(4);
- John Steegman, A Survey of Portraits in Welsh Houses, vol. 1, Houses in North Wales, National Museum of Wales, Cardiff 1957, p.25;
- David Irwin, English Neoclassical Art, London 1966, p.152