Cwpan arian godidog ar gyfer perchennog gwaith copr
Gwpan arian mawr
Roedd bod yn berchen ar gwpan arian mawr a'i glawr yn arwydd o gyfoeth a statws ym Mhrydain am rai canrifoedd. Erbyn 1700, nid oedd y cwpanau hyn yn cael eu defnyddio fel llestri yfed. Cwpanau addurnol oeddent ac arwydd o ddoniau'r sawl oedd yn eu cynllunio a'u gwneud.
William Lewis Hughes
Yn Amgueddfa Cymru, ceir cwpan gwych iawn a wnaed ym 1733. Ganrif yn ddiweddarach, roedd yn eiddo i un o ddynion cyfoethocaf Cymru, William Lewis Hughes (1767-1835), o Kinmel Park, Sir Ddinbych, ac mae hynny'n dangos bod casglu hen greiriau'n dechrau dod yn ffasiynol ar y pryd.
Ar y cwpan, gwelir nod Paul Crespin, a nodau Llundain ar gyfer 1733-4. Ganed Crespin ym 1694 i deulu o Brotestaniaid Ffrengig. Cychwynnodd fusnes yn Llundain ym 1720 ac, er bod gennym gofnod ei fod yn fethdalwr ym 1747, ymddengys ei fod wedi parhau i weithio yno tan 1759.
Roedd Crespin ymhlith crefftwyr mwyaf cosmopolitanaidd a soffistigedig ei ddydd. Mor gynnar â 1724, gwnaeth "curious silver vessel for bathing, which weighed about 6030 ounces" ar gyfer Brenin Portiwgal (ond mae ar goll erbyn hyn).
Roedd ganddo nifer o gleientiaid pwysig ac efallai mai ei gampwaith yw'r darn enwog "Neptune" a wnaeth ym 1741 ar gyfer y Casgliad Brenhinol. Darn rococo cywrain i'w roi ar ganol bwrdd yw hwn ac fe'i gwnaeth ar gyfer Frederick, Tywysog Cymru.
Cwpan eithriadol o fawr
Mae'r cwpan yn eithriadol o fawr, yn 14 modfedd o uchder ac yn pwyso dros 150 owns aur. Mewn cymhariaeth, dim ond 94 owns oedd cwpan a chlawr a wnaed ym 1731 gan Abraham Buteaux a oedd yn gydweithiwr i Crespin ac a ddisgrifiwyd ym 1749 fel un "mawr".
Mae wedi'i addurno yn y dull rococo a oedd newydd ddod i'r ffasiwn a byddai'n ymddangos yn eithaf arloesol ar y pryd. Mae'r patrwm dail a gwinwydden i'w weld hefyd ar bâr o oeryddion gwin a wnaed gan Crespin ar gyfer Dug Marlborough yn yr un flwyddyn, ac mae'r dolenni sgrôl dwbl yn ymddangos ychydig yn nes ymlaen ar gwpanau gan George Wickes, Paul de Lamerie, John Le Sage a John White.
Cwpan wedi cael ei 'wella'
Mae'r gwaith addurnol a ysgythrwyd ar y cwpan o safon uchel iawn. Mae'n dal yn ffres ac ychydig o ôl traul sydd ar yr wyneb. Dilˆwyd arfbais y perchennog gwreiddiol, efallai am fod y cwpan wedi dod ar y farchnad tua dechrau'r 19eg ganrif. Mae'n bosib mai arian gwyn oedd wyneb y cwpan yn wreiddiol, yn hytrach na goreurad. Mae'r goreurad presennol, sy'n edrych braidd yn goegeuraidd yn perthyn i'r un cyfnod â'r arfbeisiau diweddarach, sef tua 1830. Mae'n ddiddorol bod y cwpan wedi cael ei 'wella' a'i ailwerthu fel hyn.
Perchennog newydd y cwpan oedd William Lewis Hughes o Kinmel. Credir iddo gael y cwpan cyn iddo ddod yn Arglwydd Dinorben ym 1831, gan ei bod yn ymddangos fod coronig Barwn wedi'i hychwanegu at yr arfbais, a ysgythrwyd ar y naill ochr a'r llall i'r cwpan, ond nad ychwanegwyd y cynheiliaid herodrol a ddefnyddiai ar ôl ei ddyrchafu'n Arglwydd
Mynydd Parys
Roedd mam Hughes yn nith i William Lewis, Llysdulas, Ynys Môn. Hi a'i gŵr, y Parch Edward Hughes, a etifeddodd stad Llysdulas a oedd yn cynnwys un ochr i Fynydd Parys. Yn rhannol oherwydd y cyfoeth a gafwyd o fwynglawdd copr Parys ac yn rhannol oherwydd personoliaeth egnïol Edward Hughes, daeth y teulu'n eithriadol o gyfoethog.
Y Brenin Copr
Roedd William Lewis Hughes, Arglwydd cyntaf Dinorben, yn gyrnol Milisia Môn a bu'n Aelod Seneddol Wallingford rhwng 1802 a 1831. O 1819 ymlaen, ei gartref yn Llundain oedd Bute House, South Audley Street. Roedd Edward a William Hughes yn bartneriaid busnes i Thomas Williams, y "Brenin Copr". Mae portread o hwnnw gan Lawrence hefyd yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru.
Yn nes ymlaen, daeth y cwpan yn eiddo i'r ariannwr a'r dyngarwr Edwardaidd, Syr Ernest Cassel (1852-1921), ac fe'i prynwyd gan yr Amgueddfa yn 2005 gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a'r Art Fund.