Y Wisg Gymreig 'Go Iawn'?
Mae'r darlun o'r 'Wisg Gymreig', sef het ddu dal, siôl goch a sgert wlanen yn adnabyddus iawn. Daeth i gael ei nabod fel gwisg genedlaethol Cymru. Ond ai dyma oedd merched yn ei wisgo slawer dydd go iawn?
Beth yw gwisg genedlaethol?
Mae haneswyr yn gorfod defnyddio gwahanol fathau o wybodaeth i ganfod beth oedd pobl yn ei wisgo bob dydd go iawn. Crewyd gwisg genedlaethol o'r dillad yr oedd merched cefn gwlad yn eu gwisgo. Mae hyn wedi sicrhau bod sawl rhan o'r 'wisg Gymreig' yn arfer cael eu gwisgo gan ferched Cymru.
Ffynonellau gwybodaeth cynnar
Er mwyn gwybod yn iawn beth roedd pobl yn ei wisgo yng nghefn gwlad yn y 18fed a'r 19eg ganrif, mae'n rhaid ymchwilio i ffynonellau o'r cyfnod hwnnw. Yn achos y cyfnodau cynharaf, adroddiadau, dyddiaduron a llythyron teithwyr yng Nghymru ar ffurf llawysgrifau a llyfrau, ynghyd â darluniau gan arlunwyr a deithiai trwy Gymru yw'r prif ffynonellau.
O'r 1830au ymlaen, ceir mwy o adroddiadau gan drigolion Cymru a phobl oedd yn ymddiddori yn yr iaith Gymraeg a'r ffyrdd traddodiadol o fyw, nid arlunwyr a haneswyr yn unig, ond pobl fel Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer.
Twristiaeth dorfol
Cyn diwedd y ganrif, gyda dyfodiad y rheilffyrdd, gwelwyd dechreuadau twristiaeth dorfol, a daeth galw am brintiau, llestri ac, yn nes ymlaen, gardiau post, i gofio'r gwyliau. Mae'n dda bod gan lawer o ffotograffwyr wir ddiddordeb yn y diwylliant traddodiadol, crefftau gwledig ac amaethyddiaeth. Maent wedi cofnodi cymdeithas goll a, thrwy hynny, eu dillad. Mae'r rhan fwyaf o'r dillad a welir mewn casgliadau amgueddfeydd heddiw yn dod o ganol y 19eg ganrif ac wedyn.
Ystyriwch yn ofalus
Mae'n rhaid bod yn ofalus iawn wrth ystyried yr holl ffynonellau hyn. Dieithriaid sy'n gyfrifol am bron yr holl ffynonellau ysgrifenedig ac maent yn tueddu i ganolbwyntio ar yr hynod a'r anghyffredin. Gall darluniau gael eu rhamanteiddio ac yn aml mae ffotograffwyr yn trefnu i'w lluniau ddangos yr hyn y dymunant ei weld. Tua dechrau'r 19eg ganrif, roedd gan bobl ddiddordeb mawr yn nelwedd y Cymry ac arweiniodd hyn at greu gwisg genedlaethol 'safonol', artiffisial fel na wyddem am flynyddoedd lawer bod gwisg y Cymry gwledig mewn gwirionedd yn amrywiol iawn.
Dillad cefn gwlad
Trwy ddadansoddi'n ofalus, cawn dystiolaeth o'r hyn yr oedd pobl yn ei wisgo yn eu bywyd bob dydd, yn enwedig i weithio. Yn sicr, mae modd gwybod beth oedd rhai elfennau o ddillad y Cymry cefn gwlad. Er enghraifft, gwnaed llawer o ddefnydd o wlân a byddai menywod yn gwisgo ffedogau, ffunennau a hetiau dynion. Parhaodd elfennau o hyn yng nghefn gwlad hyd yn oed i mewn i'r 20fed ganrif.
Dillad gwaith ynteu wisg genedlaethol?
Ffedogau a siolau yw'r unig ddillad y mae llaweroedd ohonynt wedi goroesi. Fe rheol, byddai ffrogiau a sgerti'n treulio neu'n cael eu hailddefnyddio fel rhacs. Nid yw hyn yn syndod o gofio cyflwr rhai a ddangosir mewn ffotograffau. Mae nifer o beisiau gwlanen gennym o hyd hefyd, efallai gan fod y sgerti'n eu gwarchod rhag traul. Cedwir llawer o'r rhain mewn casgliadau amgueddfeydd fel enghreifftiau o'r 'wisg Gymreig' ond, mewn gwirionedd, nid oeddent yn perthyn i 'wisg draddodiadol' ymwybodol o gwbl, ond yn ddillad y byddai pobl cefn gwlad yn eu gwisgo'n naturiol.