Diflaniad y bwthyn gwledig Cymreig
Waliau mwd a thoeau gwellt
Erbyn heddiw, ychydig iawn o'r bythynnod gwledig a godwyd cyn canol y deunawfed ganrif sydd ar ôl yng Nghymru. Y gred gyffredinol oedd na allai'r bobl dlawd fforddio defnyddiau a fyddai'n para. Mae gwaith ymchwil newydd yn awgrymu'n wahanol.
Mewn gwirionedd, roedd bythynnod yn cael eu codi mewn ffordd glyfar iawn, gan dalu sylw i'r manylyn lleiaf a defnyddio'r stwff lleol gorau.
Aeth Amgueddfa Cymru ati i astudio bythynnod Cymreig ac adroddiadau o'r cyfnod, a daethom i'r casgliad mai'r hyn a arweiniodd at eu diflaniad oedd diffyg cynnal a chadw ac, yn bennaf oll, newidiadau yn y ffasiwn o ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol.
Adeiladau cynaliadwy
Roedd hi'n costio'n ddrud i gludo defnyddiau ac felly byddai adeiladwyr slawer dydd yn hen lawiau ar ddefnyddio'u hamgylchedd lleol mewn ffordd gynaliadwy. Er enghraifft, defnyddient dom da i wrteithio'r caeau, i wneud lloriau clai, i helpu i rwymo waliau bythynnod ac i helpu i gadw simneiau a wnaed o blethwaith rhag mynd ar dân.
Pridd a thywyrch
Gan na allai pobl dlawd fforddio brics, roedd waliau bythynnod yn cael eu gwneud o gerrig, pridd neu goed. Roedden nhw'n defnyddio'r hyn oedd ar gael yn hwylus ac yn rhad. Yn iseldiroedd gorllewin Cymru — Ynys Môn, Pen Llŷn, Ceredigion a Sir Benfro er enghraifft — pridd oedd y defnydd hwnnw.
Ychydig iawn o fythynnod pridd sydd ar ôl yng Nghymru heddiw; ceir llawer mwy mewn rhannau sychach o Loegr. Yn yr uwchdiroedd gwlyb, byddai'r bobl yn codi bythynnod â waliau tywyrch gan fod tywyrch yn para'n hirach o lawer na phridd.
Tai to gwellt
Yn y cyfnod cyn datblygiad chwareli llechi mawr y gogledd yn y 19eg ganrif a dyfodiad y rheilffyrdd, roedd tai to gwellt yn gyffredin iawn. Erbyn heddiw, mae llawer mwy o dai to gwellt i'w gweld yn Lloegr nag yng Nghymru.
Roedd pedwar dull gwahanol o doi â gwellt yn gyffredin yng Nghymru. Dim ond un ohonynt sy'n dal hyd heddiw a hynny yn y dwyrain.
Yng ngorllewin a gogledd Cymru, roedd yr haen uchaf yn cynnwys dyrneidiau o wellt wedi'u clymu a'u gwthio â theclyn fforchiog i haen isaf o wellt. Yn aml, byddai'r haen isaf yn cael ei gosod ar wely o blethwaith.
Mewn ardaloedd agored, gellid defnyddio rhwydwaith o raffau wedi'u rhoi'n sownd wrth begiau ym mhen y wal neu wedi'u dal yn eu lle â cherrig trymion i ddal y to i lawr.
Simneiau gwellt a phlethwaith
O bridd neu laid y gwnaed lloriau bythynnod yn aml. Gellid defnyddio plethwaith neu raff wellt wedi'u gorchuddio â dwb i wneud y parwydydd. Yn aml, hefyd, roedd y corn simnai a'r lwfer uwch ei ben wedi'u gwneud o blethwaith a dwb. Does dim rhyfedd bod cynifer o'r bythynnod hyn yn llosgi i'r llawr.
Er bod defnyddiau adeiladu'r bythynnod hyn yn rhai cynaliadwy, daethant i ddiwedd eu hoes oherwydd newidiadau cymdeithasol a ffasiynau newydd.
Newid yn y ffasiwn
Wrth i'r Chwyldro Diwydiannol fynd rhagddo ac i fwydydd gael eu mewnforio, roedd mwy a mwy o bobl yn gadael eu bythynnod yng nghefn gwlad i fyw yn y dref.
Aeth mwy a mwy o fythynnod yn eiddo i'r stadau mawr ac fe ddechreuodd y rheini godi tai mwy o faint ar gyfer eu gweithwyr. Yn aml, roedd yn haws dymchwel y bythynnod gwreiddiol nag ychwanegu ail lawr atynt neu eu haddasu.
Erbyn heddiw, ychydig iawn o'r bythynnod traddodiadol cynnar sydd ar ôl ac mae'r enghreifftiau gorau i gyd wedi'u rhestru fel rhai sydd o bwysigrwydd pensaernïol arbennig.
sylw - (3)
I'm an MSc student of sustainable building, and I'm particularly interested in the vernacular use of cow dung in the UK. Its mentioned here in your article and I was wondering if you could point me towards any source documents for the information? Thanks Amy
Thanks for your comment. The construction of stone-built houses can vary according to size and location. We would recommend consulting a qualified professional, such as a surveyor or civil engineer for information about a particular property.
Sara
Digital Team
foundations. The walls are about 15 to 18 inches thick