Printiau diwydiannol ffotograffydd o fri
Yn archifau ffotograffig Amgueddfa Cymru ceir nifer o brintiau a dynnwyd gan y ffotograffydd diwydiannol o fri Walter Nurnberg OBE. Lluniau ydynt o'r tu mewn i Waith Alwminiwm y Tŷ Du yng Ngwent ym 1968.
O'r Gyfnewidfa Stoc i'r Ystafell Dywyll
Ganed Walter Nurnberg yn Berlin ar 18 Ebrill 1907. Dilynodd ei dad i fyd bancio a daeth yn aelod o'r gyfnewidfa stoc ond teimlai bod y gwaith yn ddiflas. Dechreuodd ymddiddori mewn ffotograffiaeth yn dilyn ymweliad â Choleg Celf Reimann yn Berlin ac, ym 1931, dechreuodd fynd i ddosbarthiadau yn y coleg.
Wrth astudio, daeth Nurnberg o dan ddylanwad gwaith Albert Renger-Pratsch a Selmar Lerski. Yn y 1920au, roeddent wedi chwyldroi byd ffotograffiaeth gan fynd ati mewn ffordd greadigol i gyflwyno pethau bob-dydd mewn ffordd ddramatig. Cafodd syniadau newydd y 'Neue Sachlichkeit' (Gwrthrychedd Newydd) a gwaith athrofa ddylunio Bauhaus yn Dessau ddylanwad arno hefyd. Roedd y rhain yn pwysleisio agwedd ddadansoddol at dynnu lluniau gan dynnu sylw at fanwl-gywirdeb, realaeth a ffurf.
O Berlin i Lundain
Ym 1934, aeth Nurnberg i Lundain a chychwyn busnes llwyddiannus fel ffotograffydd hysbysebion a masnach.
Bu'n gwasanaethu yng Nghorfflu Arloeswyr y fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tan 1944. Dair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei dderbyn yn ddeiliad Prydeinig. Ar ôl gadael y fyddin, cychwynnodd fusnes ffotograffiaeth ddiwydiannol. Dywedodd amdano'i hunan ei fod yn un o'r ffotograffwyr gwallgof hynny a fyddai'n hongian â'i ben i lawr o ben draw braich craen i gael ongl dda ar lun.
Ymhen blynyddoedd wedyn, bu Nurnberg yn darlithio yng Ngholeg Polytechnig Canol Llundain ac yng Ngholeg Harrow ac Ealing. Ym 1968, daeth yn bennaeth Ysgol Ffotograffiaeth Guildford yng Ngholeg Celf a Dylunio Gorllewin Surrey. Ysgrifennodd werslyfrau am dechnegau goleuo ar gyfer ffotograffiaeth hefyd.
Goleuo dramatig
Roedd Nurnburg yn hoffi defnyddio goleuadau tyngsten oherwydd gallai weld yr union effaith y dymunai ei chael gan ddefnyddio lampau â golau siarp, clir. Byddai hyd yn oed yn gofyn am stopio llinellau cynhyrchu os oedd angen ac yn gosod ceblau trydan ychwanegol er mwyn cael ei ffotograffau unigryw. Mae ei ffotograffau'n dangos yn glir pa mor bwysig yw defnyddio golau'n effeithiol. Mae iddynt effaith ddramatig sy'n ein hatgoffa o ffilmiau Americanaidd y 1940au. Mae'r lluniau'n gryf ac yn ddeinamig, yn llawn o rym y byd diwydiannol.
Pan ymddeolodd ym 1974, cafodd Nurnburg yr OBE am ei wasanaeth i fyd ffotograffiaeth a diwydiant. Cafodd lawer o wobrau ac anrhydeddau eraill am ei gyfraniad i ffotograffiaeth. Ceir casgliadau o'i ffotograffau yn Amgueddfa Genedlaethol Ffotograffiaeth, Ffilm a Theledu, Bradford; y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol a'r Gyfadran Peirianneg a Gwyddoniaeth yng Ngholeg Polytechnig Canol Llundain yn ogystal ag yn Amgueddfa Cymru.
Bu farw Walter Nurnberg yn 84 oed ym 1991.