Crochenwaith unigryw o Abertawe yn hwb i gasgliad yr Amgueddfa Ym 1994, rhoddwyd deugain darn o grochenwaith a phorslen i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn rhodd gan W. J. Grant-Davidson, arbenigwr yn hanes crochendai Cymru. Roedd y casgliad yn cynnwys nifer o eitemau unigryw a phwysig a wnaed yn Abertawe tua dechrau'r 19eg ganrif. Tancard priddwaith o Abertawe gan William Weston Young. Rhoddion hael Un o'r darnau mwyaf diddorol yw tancard mawr priddwaith. Fe'i gwnaed yng Nghrochendy Cambrian, Abertawe, ym mlynyddoedd cyntaf y 19eg ganrif. Fe'i haddurnwyd â phen ac ysgwyddau derwydd. Dywed yr arysgrif iddo gael ei baentio gan William Weston Young (1776-1847). Mae'r addurn yn unigryw, er bod Weston Young wedi paentio llun derwydd yn torri uchelwydd ar blac hefyd (mae hwnnw yn Amgueddfa Fictoria ac Albert, Llundain erbyn hyn). William Weston Young Bu William Weston Young yn gweithio yn y crochendy rhwng 1803 a 1806 fel paentiwr a chynorthwyydd i'r perchennog, Lewis Weston Dillwyn. Syrfëwr tir oedd Weston Young wrth ei broffesiwn ac, yn ddiweddarach, bu'n bartner yn y 'Nantgarw China Works'. Pos ar ffurf llun Ymhlith yr eitemau eraill sydd yn y casgliad, mae sosban laeth, cwpanau wy a jwg ac arni'r arysgrif 'John Jinken 1793'. Ceir powlen bwnsh ac arni lun alarch a phenhwyad (sef 'pike' yn Saesneg). Efallai bod hon wedi'i gwneud yn arbennig ar gyfer y teulu Pike o Abertawe. Crochenydd arloesol Roedd gan Mr Grant-Davidson ddiddordeb mewn crochenwaith Lloegr hefyd. Ceir deg enghraifft o ganol y 18fed ganrif yn y casgliad a roddodd i'r amgueddfa. Yn ogystal â thri thebot braf o grochenwaith caled Swydd Stafford, ceir dau ddarn dogfennol o hufenwaith Josiah Wedgwood. Mae'r casgliad yn cynnwys un o'r pedwar darn y gwyddom amdanynt o hufenwaith wedi'u haddurno, a wnaed gan y crochenydd Enoch Booth. Gwnaed y darnau hyn yn hanner cyntaf y 1740au ac mae'n bosib mai dyma'r enghreifftiau cynharaf o gorff o briddwaith sy'n un o brif gyfraniadau Prydain at hanes crochenwaith. Hanesydd a chasglwr Roedd W.J. Grant-Davidson yn arbenigwr ar hanes crochendai Cymru. Casglai grochenwaith Prydeinig o'r cyfnod rhwng diwedd y Canoloesoedd i ddechrau'r 20fed ganrif. Ei gyhoeddiad mwyaf adnabyddus yw 'Early Swansea Pottery, 1764 - 1810', ac mae sawl darn o'i gasgliad ef i'w gweld yn y llyfr. sylw - (4) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Marc Haynes 5 Mawrth 2018, 11:14 Hi Peter,Thank you very much for your enquiry. I have passed it on to our Art Department, who will be in touch in due course. Best wishes,MarcDigital Team Peter Child 2 Mawrth 2018, 15:27 I also have pieces from the Grant-Davidson Collection numbered E527 and E528: a pair of marbled slipware bird whistles . Can you please tell me if his catalogue has any information on these.Thanks Peter Child Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru 7 Hydref 2015, 11:07 Hi there Gloria, I will pass on your enquiry to our Art Department, who will be in touch in due course. Many thanks for your enquiry, Sara Digital Team Gloria Westmancoat 7 Hydref 2015, 10:55 I understand that Mr Grant-Davidson left his catalogue to the National Museum of Wales. Is it possible to view this, as I have a piece of his collection with a number on and would like to research it?