Dreigiau a sebras yng Nghymru - creu casgliad o gyfrifiaduron Cymreig
Amgueddfa Cymru wedi bod yn ceisio ychwanegu enghraifft o bob cyfrifiadur a wnaed yng Nghymru at ei chasgliad.
Ym 1943, roedd Thomas Watson yr hynaf, Cadeirydd IBM, yn dychmygu mai dim ond pum cyfrifiadur gwahanol fyddai yna ym marchnad gyfrifiaduron y dyfodol. Ond roedd o leiaf chwe model gwahanol yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru'n unig yn ystod y 1980au.
Sebras a Dreigiau
Mathau o gyfrifiaduron cynnar oedd y Zebra a'r Dragon.
Cynhyrchwyd y Zebra yn y 1960au. Dim ond deugain gafodd eu gwneud a chafodd y rhan fwyaf eu hallforio. Gwnaed y Zebra sydd yng nghasgliad yr amgueddfa yng Ngasnewydd ac fe'i cyflwynwyd i'r Amgueddfa gan Brifysgol Caerdydd.
Roedd dwy fersiwn o'r Dragon ar gael, y trideg dau a'r chwedeg pedwar. Cyfeiriad o faint cof y peiriannau yw'r rhifau hyn. Er bod ganddynt lai o gof o lawer na chyfrifiaduron modern, roedden nhw'n bwerus iawn yn y 1980au.
Nid tasg hawdd oedd ffeindio gwybodaeth am ble cafodd y cyfrifiaduron cynnar eu gwneud. Ond ffeindiwyd nifer o lyfrau sgrap oedd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol yn Archifdy Morgannwg, a chyflwynodd AB Electronics, Abercynon nhw i'r Amgueddfa. Roedd y llyfrau sgrap yn dangos taw AB Electronics oedd wedi cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r modelau o gyfrifiadur a wnaed yng Nghymru, ac yn rhoi gwybodaeth am gynhyrchwyr eraill yng Nghymru.
Yr Electron a'r BBC
Yr Acorn Company wnaeth yr Electron, sy'n fwyaf adnabyddus am gynhyrchu cyfrifiadur y BBC. Roedd e'n rhatach ac yn llai pwerus o lawer na'r BBC, sef y cyfrifiadur cartref mwyaf pwerus a drytaf oedd ar gael yn y 1980au. Er mai defnydd addysgiadol oedd i hwn yn bennaf, roedd rhai o'r gemau a ysgrifennwyd ar gyfer y BBC ymhlith y gorau i gael eu cynhyrchu ar gyfer unrhyw gyfrifiadur mewn unrhyw gyfnod.
Roedd y llyfrau sgrap yn dangos bod AB Electronics wedi cynhyrchu nifer o beiriannau Electron, a bu cadeirydd Grŵp Defnyddwyr yr Electron mor garedig â chyflwyno peiriant a wnaed yng Nghymru i'r Amgueddfa. Roedd y llyfrau'n dangos bod tri chwmni wedi cynhyrchu'r BBC yng Nghymru: AB Electronics o Abercynon, Race Electronics o Lantrisant ac ICL o Kidsgrove. Cyflwynodd masnachwr hen galedwedd Acorn gyfrifiadur BBC a gynhyrchwyd gan Race Electronics i gasgliadau'r Amgueddfa.
ZX Spectrum
Er bod y Spectrum yn boblogaidd ac ar gael ar raddfa eang, roedd hi'n dipyn o dasg dod o hyd i fodel a wnaed yng Nghymru. AB Electronics o Abercynon oedd wedi gwneud y Spectrum hefyd, ond ffatri Timex yn Dundee oedd wedi gwneud y mwyafrif. Yn y pen-draw, llwyddodd yr Amgueddfa i gael gafael ar enghraifft o Spectrum Plus a wnaed gan AB Electronics i'w ychwanegu at y casgliad.
Torch Computers
Roedd llyfrau sgrap AB yn cyfeirio at 'Torch Computers of Cambridge' oedd â ffatri yng Nghaernarfon ac oedd yn adeiladu peiriannau ar gyfer y farchnad fusnes. Bu'r cwmni mor hael â chynnig enghraifft o beiriant a adeiladwyd yn y gogledd i ni.
Dim ond tri chyfrifiadur sydd eu hangen ar yr Amgueddfa i gwblhau ei chasgliad o gyfrifiaduron a wnaed yng Nghymru. Un o'r rhain yw'r Apple iMac a wnaed gan LG Corporation, Casnewydd.
Mae llawer o wefannau ar gael sy'n gallu rhoi rhagor o wybodaeth am gyfrifiaduron cynnar. Mae rhai o'r gwefannau hyn yn cynnig meddalwedd ar gyfer y peiriannau cynnar, ac mae yna raglenni i'w rhedeg ar gyfrifiaduron personol modern hefyd sy'n efelychu ymddygiad yr hen beiriannau, i ddangos sut mae cyfrifiaduron wedi datblygu.