Castell Rhaglan

Castell Rhaglan yw un o adeiladau canoloesol diweddar gorau Ynysoedd Prydain ac, er ei fod yn adfail bellach, mae’n nodwedd drawiadol yn nhirwedd de-ddwyrain Cymru.

Lle mae Castell Rhaglan?

Mae Castell Rhaglen i’r gogledd o bentref Rhaglan yn Sir Fynwy, oddi ar yr A40 rhwng Trefynwy a’r Fenni. Am fanylion ymweld ewch i wefan Cadw.

Cafodd y castell fel y mae heddiw ei godi mewn tri chyfnod. Yn y cyfnod cyntaf, yn y 15fed ganrif, adeiladwyd y Tŵr Mawr chweochrog, pum llawr, wedi’i amgylchynu gan ffos. Yn wreiddiol, pont godi o’r castell oedd yr unig ffordd i fynd i’r tŵr. Yn yr ail gyfnod, ychwanegodd Syr William Herbert, Iarll cyntaf Penfro, ystafelloedd moethus. Yn olaf, cafodd y castell ei droi’n blasty gan Ieirll Caerwrangon yn y 16eg ganrif.

Y Porthdy Mawr, Rhaglan.
Y Porthdy Mawr, Rhaglan. Codwyd y porthdy rhwng 1460 a 1469 ac fe'i cynlluniwyd i wneud argraff ar ymwelwyr ac i'w dychryn drwy gynnwys rhesi o gloerdyllau, tyllau arllwys, porthcwlisau a drysau. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

Pwy adeiladodd Castell Rhaglan?

Mae rhywfaint o ddadlau ynghylch pwy adeiladodd ran gyntaf y castell. Fe’i codwyd naill ai gan William Herbert, Iarll cyntaf Penfro, neu ei dad, William ap Thomas, a brynodd Rhaglan ym 1432.

Roedd William Herbert yn ŵr allweddol yng ngwleidyddiaeth diwedd y 15fed ganrif. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau rhoddodd ei gefnogaeth i Edward IV. Yn wobr am ei deyrngarwch cafodd deitl Iarll Penfro a digon o adnoddau ariannol i droi Rhaglan yn gaer-blasty.

Byrhoedlog, fodd bynnag, oedd llwyddiant yr Iarll. Ym 1469 cafodd ei gipio gan gefnogwyr y Lancastriaid ym Mrwydr Edgecote a chafodd ei ladd.

Cadwodd teulu Herbert eu rheolaeth ar Gastell Rhaglan tan 1492, pan gafodd ei drosglwyddo i deulu Somerset. William Somerset, trydydd Iarll Caerwrangon (1526–1589), oedd yr aelod cyntaf o’i deulu i newid adeiladau’r castell yn sylweddol.

Gastell Rhaglan, tua 1620
Adluniad o Gastell Rhaglan, tua 1620, yn dangos y gerddi ffurfiol yn ystod dyddiau gorau'r castell. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

Canolbwyntiodd yr Iarll William ar wella ansawdd y neuadd a’r ceginau er mwyn bodloni disgwyliadau cymdeithasol ei gyfnod. Yn ogystal, sefydlodd y gerddi, oedd yn cynnwys cyfres o derasau, llyn artiffisial, ffownten, gwelyau blodau a gerddi perlysiau.

Adluniad o fywyd yng Nghastell Rhaglan
Adluniad o fywyd yng Nghastell Rhaglan yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn ystod cyfnod Trydydd Iarll Caerwrangon. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

Beth ddigwyddodd i Gastell Rhaglan?

Erbyn canol y 17eg ganrif, roedd Rhaglan ym mlodau ei ddyddiau. Cyrhaeddodd lefel o soffistigedigrwydd ac ysblander tebyg i blastai gorau’r wlad. Fodd bynnag, daeth Rhyfel Cartref Lloegr i darfu ar bopeth.

Ym 1642, cyhoeddodd pumed Iarll Caerwrangon ei gefnogaeth i achos y Brenhinwyr, gan gynnig cymorth ariannol sylweddol i’r Brenin Siarl I. O ganlyniad, roedd Rhaglan yn darged i luoedd y Seneddwyr, a roddodd y castell dan warchae ym Mehefin 1646. Llwyddodd ei amddiffynwyr i ddal eu gafael arno yn ystod yr haf ond erbyn canol Awst roedd y Seneddwyr o fewn 60 llath i’r castell. Ildiodd ei amddiffynwyr ar 19 Awst.

Ar ôl cael ei gipio, cafodd y castell ei ddifrodi’n fwriadol er mwyn sicrhau na ellid ei amddiffyn eto. Dyma pryd y cafodd y twll anferth ei greu yn y Tŵr Mawr.

Gadawyd Castell Rhaglan yn wag a dirywiodd; yna, daeth yn ffynhonnell gyfleus ar gyfer cerrig adeiladu ac yn atyniad pictiwrésg i dwristiaid. Bellach, diolch i waith Cadw a’i ragflaenwyr, mae’r adeilad yn cael ei warchod.

Pwy sydd biau Castell Rhaglan?

Mae Castell Rhaglan yn dal yn eiddo i deulu Somerset, a ddaeth yn Ddugiaid Beaufort ym 1682. Ym 1938 cafodd ei roi yng ngofal y Weinyddiaeth Waith, ac erbyn hyn mae yn nwylo Cadw.

Pa ffilmiau sydd wedi defnyddio Castell Rhaglan?

Ymddangosodd Castell Rhaglan yn ffilm Terry Gilliam, Time Bandits (1981), lle cafodd ei ffilmio fel castell Eidalaidd dan warchae yn ystod Rhyfeloedd Napoleon.

Darllen cefndir

Addaswyd y llun ar y blaen o Castell Rhaglan gan Steve Slater, CC BY 2.0

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.