Datrys dirgelwch llofruddiaeth 1,000 oed Cloddio'r ffos amgâu a'r sgerbydau yn Llanbedr-goch (Ynys Môn). Ar ochr chwith y llun mae cyrsiau is mur amddiffynnol yr anheddiad. Gellir gweld dau o'r sgerbydau yn gorwedd ar lefelau uwch y ffos oedd y tu allan i'r mur. Penglog claddedigaeth 5. Roedd y benglog mewn darnau pan cafwyd hyd iddi a gwnaed gwaith i'w hailadeiladu. Llun gan Ysgol Celf a Meddygaeth Prifysgol Manceinion. Wyneb claddedigaeth 5 ar ôl ei ail-greu. Llun gan Ysgol Celf a Meddygaeth Prifysgol Manceinion. Pedwar o'r pum wyneb o Lanbedr-goch wedi eu castio mewn pres. Ym 1998-9, gwnaed darganfyddiad annisgwyl ac anodd i'w ddehongli yn anheddiad canoloesol cynnar Llanbedr-goch. Darganfuwyd pum sgerbwd dynol ar lefel uchaf ffos oedd wedi cael ei llenwi, yn union y tu allan i'r mur oedd yn amddiffyn yr anheddiad. Pam fod hyn yn Ddirgelwch? Claddwyd yn ddiseremoni mewn beddi bas. Yn groes i'r arfer Gristnogol, roedd yr holl sgerbydau wedi eu gosod â'u pennau naill ai tua'r gogledd neu'r de yn hytrach na'r dwyrain Taflwyd corff un dyn (tua 25-35 oed) ar ben corff plentyn (tua 10 — 15 oed). Mae'n bosib bod breichiau'r dyn wedi cael eu clymu y tu ôl i'w gefn, ac iddo gael ei daro yn ei lygad chwith â rhywbeth miniog Roedd blociau calchfaen a rwbel llai ar dri o'r cyrff, sy'n awgrymu cwymp y wal Ymosodiad Llychlynnaidd Mae'r gwaith a wnaed i ddyddio'r sgerbydau yn awgrymu eu bod yn dyddio o ail hanner y 10fed ganrif - cyfnod pan roedd Llychlynwyr Ynys Manaw yn rheoli Gwynedd i bob pwrpas - ac mae'n bosibl y bu canolfannau Llychlynaidd ar Ynys Môn hefyd. Mae amgylchiadau'r claddu, a'r ffaith na chyfeiriwyd y cyrff yn y ffordd Gristnogol yn awgrymu hwyrach i'r unigolion hyn farw mewn cyrch ar y pentref. Mae'n debyg na fyddwn ni byth yn gwybod sut yn union y bu farw'r pump, ond mae'n bosibl eu bod wedi cael eu lladd wrth i'r Llychlynwyr chwilio am gyfoeth, ar ffurf gwystlon neu gaethweision yn yr ardal. Perthynas Genetig Mae penglogau Llanbedr-goch i gyd yn dangos nifer o nodweddion tebyg: holltau llygaid llorweddol safnau sgwâr clustiau adlynol (heb labedau) Mae rhai o'r nodweddion hyn yn awgrymu perthynas genetig rhwng yr unigolion (naill ai'n perthyn i'r un teulu neu'n dod o gronfa enynnol gyfyng). Mae'r gwaith yn parhau i astudio'r data a gasglwyd yn ystod y gwaith cloddio, wrth i ni geisio ail-greu'r anheddiad yr oedd perchnogion y sgerbydau hyn yn gyfarwydd ag ef. Yn ogystal â chyfoeth o dystiolaeth am drefn yr anheddiad gan gynnwys adeiladau, arteffactau a safonau byw safle uchel ei statws - mae e wedi darparu gweddillion y bobl oedd gynt yn byw ac yn bod yno. Darllen Cefndir Y Llychlynwyr yng Nghymru: ymchwil archaeolegol gan Mark Redknap. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2000). Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.