Pysgota traddodiadol ar yr Afon Hafren
Mae'r dull hynafol hwn o bysgota yn parhau ar hyd glannau afon Hafren.
Mae dyfroedd Môr Hafren gyda'r peryclaf yng Nghymru ond nid yw hyn wedi rhwystro cenedlaethau o bysgotwyr rhag pysgota am eogiaid yn ei dyfroedd cyforiog o bysgod. Mae'r dulliau Cymreig traddodiadol o ddal y pysgod yn dal i fod yn fyw iawn yn yr ardal. O fewn cof, defnyddid amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys rhesi o drapiau ar ffurf cewyll (putchers), cychod aros, putts, rhwydi drifft a rhwydi lâf. Gwaetha'r modd, dim ond y dull olaf sydd wedi goroesi hyd yr unfed ganrif ar hugain.
Mae nifer y pysgotwyr lâf wedi lleihau dros y blynyddoedd ac erbyn hyn dim ond yng nghyffiniau'r ail bont dros afon Hafren, heb fod yn bell o bentrefi Sudbrook a Phorth Sgiwed (Sir Fynwy), y mae modd dod ar eu traws. Mae'r dynion hyn, aelodau o Gymdeithas Pysgotwyr Rhwydi Lâf y Garreg Ddu, yn cadw'n fyw draddodiad ac iddo arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol unigryw. Mae cadeirydd y Gymdeithas, Bob Leonard, wedi bod yn rhwydwr lâf ers 57 mlynedd ac mae'n egluro ei bod hi'n holl-bwysig eich bod yn pysgota dyfroedd y foryd "yng nghwmni dyn sy'n gyfarwydd â'r afon neu fel arall byddwch mewn sefyllfa beryglus iawn".
Caiff y pysgod eu dal yn ystod llanw isel, gan ddefnyddio rhwyd a ddelir yn y llaw. Ar un adeg, caniateid pysgotwyr i bysgota o Chwefror i Awst ond ers hynny mae'r tymor wedi'i gyfyngu i'r cyfnod o Fehefin i Awst. Ar y mwyaf, gallant bysgota am awr a hanner ar y tro, yn dibynnu ar y tywydd.
Mae'r pysgota'n dechrau, yn ôl yr arfer, wedi i'r pysgotwyr ymlwybro tua'r lan ger y Garreg Ddu. Yn aml, saif y pysgotwyr yn y mannau hynny lle yr arferai eu tadau a'u teidiau sefyll.
Mae techneg sylfaenol pysgota â rhwyd lâf yn syml: mae'r pysgotwr yn dal coes y rhwyd ag un llaw a phen yr astell â'r llaw arall, tra bod y bysedd sy'n cydio'n sownd yng ngwaelod y rhwyd yn teimlo am y pysgod. Caiff y rhwyd ei gosod o flaen y pysgotwr, i wynebu llif y dŵr. Rhaid ystyried cyfeiriad y gwynt ac uchder y llanw, ac mae'r amodau ar eu gorau pan fo'r môr fel llyn llefrith. Nid yw glaw o anghenraid yn eu poeni. Fel yr eglura Bob Leonard, unwaith y maent yn eu lle, maent "yn craffu ar y dŵr am arwyddion diamau o bysgod". Maent yn synhwyro cryfder llif y dŵr a chaiff eu gobeithion eu codi gan symudiad sydyn yn y rhwyd. Pan synhwyrir symudiad pysgodyn mae'r pysgotwr yn camu'n ôl ac yn codi coes y rhwyd allan o'r dŵr.
Unwaith y mae'r pysgodyn wedi'i ddal, caiff ei ladd â phastwn (neu'r priest yn Saesneg, gan mai offeiriad sy'n gyfrifol am yr eneiniad olaf!) a chaiff ei osod yn y cwch. Eir â'r eog tua'r lan ac yno caiff ei rannu'n gyfartal rhwng y rhwydwyr p'un ai a fuont yn pysgota neu beidio. Ar un adeg, nid oedd angen rhannu'r ddalfa oherwydd fod digon o eogiaid i bawb. Ond daeth tro ar fyd ac nid yw pysgota masnachol â'r rhwydi lâf wedi bod yn bosibl ers cyn yr Ail Ryfel Byd. Cyn 1939 cai'r pysgod eu hanfon i farchnad Billingsgate yn Llundain.
Mae'r rhwydwyr lâf yr un mor fedrus â'u cyndeidiau ond o ganlyniad i'r lleihad yn nifer y pysgod maent yn fwy na hapus os llwyddant i ddal mwy na deg yn ystod y tymor. Maent yn pysgota er mwyn cadw eu crefft hynafol yn fyw, fel yr esbonia Martin Morgan, Ysgrifennydd y Gymdeithas, "Mae pysgota â rhwydi lâf yn draddodiad y gellir ei olrhain yn ôl dros fil o flynyddoedd yng Nghymru. Roedd fy hen dad-cu yn bysgotwr a throsglwyddodd ei sgiliau i'w ddisgynyddion".
Darllen Cefndir
Severn Tide gan Brian Waters. Cyhoeddwyd gan J.M. a'i Feibion Cyf. (1947).
Nets and Coracles gan J. Geraint Jenkins. Cyhoeddwyd gan David and Charles (1974).
sylw - (1)
Mentioned in Brian Walters great book
Boshie Goulding