Bardd Cymraeg yn cwympo yn Flanders
"Dydd ola o Orffenna', 'dech chi'n gweld, diwrnod cynta'r frwydyr fwya fuo yn y byd 'ma 'rioed ma'n debyg. Brwydyr Passchendaele".
(Simon Jones, 1975).
Aeth dros chwarter miliwn o ŵyr o Gymru i ymladd yn rhyfel 1914-1918. Yn eu plith roedd y bardd Ellis Humphrey Evans o Drawsfynydd, neu a rhoi iddo ei enw barddol, Hedd Wyn. Galwyd ef i'r rhyfel ym 1917, a'i anfon i ymladd yn Fflandrys. Yno fe'i lladdwyd ym mis Awst 1917 ar Gefnen enbyd Pilckem, ar ddechrau'r cyrch ar Passchendaele.
Y Gadair Ddu
Chwech wythnos wedi ei farwolaeth dyfarnwyd iddo'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw am ei awdl Yr Arwr, cerdd a gwblhaodd byr amser yn unig cyn ei farw. Yn ystod defod y cadeirio taenwyd gorchudd du dros y Gadair ei hun, a byth ers hynny adwaenir hi fel Y Gadair Ddu.
Llygad-dyst
Bu Mr Simon B. Jones, Aberangell (ganed 1893), yn gwasanaethu yn yr un gatrawd â Hedd Wyn, a honnai iddo ei weld yn disgyn ar faes y gad. Clywch ei dystiolaeth ef, fel y'i cofnodwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym 1975:
"Mi gweles o'n syrthio. A mi allaf ddeud mae nosecap shell yn 'i fol lladdodd o, wyddoch chi. Ôch chi'n medru gwbod hynny. O, allech chi ddim sefyll hefo fo mae'n wir. Odd rhaid ichi ddal i fynd, 'de".
(Simon Jones, 1975).
Cenhedlaeth coll
Roedd Hedd Wyn yn un o blith 32,000 o filwyr a laddwyd yn ystod yr ymosodiad ar Gefnen Pilckem. Ni chipiwyd pentref drylliedig Passchendaele hyd Dachwedd 6ed, 98 diwrnod wedi i'r frwydr gychwyn. Talwyd pris uchel am yr ymgripio araf hwn dros brin bum milltir o dir: bu farw 310,000 o luoedd y Cynghreiriaid a 260,000 o Almaenwyr.
Erys y Gadair Ddu yn arwydd grymus o effaith ddychrynllyd y Rhyfel Byd Cyntaf ar gymunedau trwy Gymru benbaladr, ac addewid coll cenhedlaeth gyfan o ŵyr ifainc o Gymry.
sylw - (2)