Baledwyr Crwydrol Cymru
Bertie Stephens
Roedd baledwyr crwydrol yn ddiddanwyr pwysig yng Nghymru cyn dyddiau'r neuaddau cerdd a'r sinema.
'Y Baledwr Pen Ffair
'Rwy'n cofio ers dyddiau am hen gymeriadau
Yn canu baledi mewn marchnad a ffair,
Hwy ganent mor ddoniol, mewn gair mor gartrefol,
Nes twyllo o'r bobl eu harian a'u haur...'
Dafydd Jones ('Isfoel'), 1881-1968
Y 19eg ganrif oedd oes aur y baledwyr yng Nghymru, pan gafodd digonedd o ganeuon eu cyfansoddi a'u perfformio mewn ffeiriau, marchnadoedd a thafardai. Mae nifer fawr o'r bobl a recordiwyd ar gyfer y cannoedd o dapiau yn archif sain yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan yn cyfeirio at y baledwyr crwydrol yma.
Bertie Stephens oedd un o'r rhain. Cafodd ei eni i deulu fferm yn Abergorlech, Sir Gâr ym 1900. Daeth dan ddylanwad y baledwyr, a recordiodd rhyw 80 o ganeuon difrifol a digri ar gyfer yr Amgueddfa, yn Gymraeg yn bennaf. Clywodd y rhan fwyaf o'r caneuon mewn ffeiriau lleol fel bachgen ifanc. Ond gyda'i gof syfrdanol, byddai'n aml yn cofio'n union pwy ganodd pob cân, a ble.
Dechreuodd Bertie Stephens fynd i'r ffeiriau'n bump neu'n chwech oed. Crwydriaid fyddai'n canu'r rhan fwyaf o'r caneuon hyn wrth gasglu arian o'r dyrfa yn eu hetiau. Cafodd eu baledi'r fath argraff ar Bertie ifanc nes iddo eu dysgu nhw ar gof yn y fan a'r lle.
Diddanu oedd nod y baledwyr, felly câi'r baledi eu canu mewn iaith syml a phlaen. Roedd y rhan fwyaf yn adrodd stori am achlysur neu brofiad arbennig. Doedd dim papurau newydd dyddio ar gaell, a doedd rhan helaeth o'r genhedlaeth hŷn ddim yn gallu darllen ar droad yr 20fed ganrif ta beth, felly roedd llawer o bobl yn dibynnu ar y baledwyr i glywed y newyddion diweddaraf. Roedd y geiriau'n hollbwysig felly am mai stori ar ffurf cân oedd y cyfansoddiad yn ei hanfod.
Daliodd Bertie Stephens ati i ganu yn ei henaint, ac ym 1973, dywedodd:
'Galla'i garantïo i chi nag oes dim awr y dydd yn mynd heibio nag ŵyn canu, dim hanner awr hefyd. Pob dydd.'
Hen Feible Annwyl Mam
Pan aeth Roy Saer, cyn-guradur yr Amgueddfa, i gyfweld ag ef, roedd Bertie Stephens yn cofio caneuon o'i blentyndod yn glir. Ei ffefrynnau oedd y caneuon crefyddol am ei fod yn teimlo bod mwy o sylwedd iddyn nhw na'r caneuon digri. Gallai caneuon fel Beibl Mam afael mewn perfformiwr, a phwysleisiodd ei bod hi'n hanfodol rhoi'ch cymeriad i gyd i mewn i bob cân.
Clywodd ddyn mewn dillad anniben â Beibl dan ei gesail yn canu cân arall am y Beibl, Hen Feibl Mawr y Teulu, ar daith i'r Mwmbwls. Fel un o deulu crefyddol, tristaodd Bertie Stephens o weld y canwr yn defnyddio'r Beibl i godi arian i brynu cwrw.
Roedd pobl yn gallu bod yn amheus o'r baledwyr a byddai'r heddlu'n aml yn arestio crwydraid meddw mewn dillad anniben am darfu ar yr heddwch. Dywedodd Bertie Stephens hanes am ei deulu'n rhoi bwyd a lloches i ddau grwydryn un noson, a dysgodd y ddau Gân yr Asyn iddo'n ddiolch. Er mawr siom i dad Bertie, canfu wythnosau wedyn eu bod nhw wedi dwyn peth o'i wlân newydd ei gneifio. Diolch i berfformiad ei fab o Gân yr Asyn, llwyddodd yr heddlu i ddal y dihirod ger Caerfyrddin pan glywsant y ddau'n canu'r un faled yn yr ardal honno.
Wrth i'r diwydiant diddanu dyfu ac wrth i bethau fel y sinema a'r neuaddau cerdd ddod yn fwy poblogaidd, collodd y baledwyr eu hapêl, ac erbyn dechrau'r 20fed ganrif, roedden nhw wedi diflannu bron yn llwyr. Wrth i'r cyngherddau ffurfiol ddod yn boblogaidd, symudodd yr hen faledi dan do, a'u daethon nhw'n lanach ac yn fwy parchus.
Yn ffodus ddigon, daeth dirywiad y baledi'r ffair a'r stryd yr un pryd â diddordeb newydd mewn casglu alawon a gwybodaeth am y grefft, a ffurfiwyd Cymdeithas Ganeuon Gwerin Cymru ym 1908. Nid oes unrhyw amheuaeth am werth baledi fel sylwebaeth gymdeithasol bwysig, ac mae ein gwybodaeth am y cyfansoddiadau hanesyddol hyn llawer cyfoethocach diolch i unigolion fel Bertie Stephens.
Darllen Cefndir
Ballads in Wales / Baledi yng Nghymru gan Mary-Ann Constantine. Cyhoeddwyd gan FLS Books (1999).
I Fyd y Faled gan Dafydd Owen. Cyhoeddwyd gan Gwasg Gee, (1986).