Arlunydd o'r deunawfed ganrif wrth ei waith: Technegau Richard Wilson

Amgueddfa Cymru yw perchennog y casgliad mwyaf o baentiadau Richard Wilson y tu allan i Lundain, ac mae dros 20 o baentiadau yn ei storfeydd, ac ar ddangos i'r cyhoedd.

Yr Artist

Richard Wilson (1714-1782). Anton Mengs beintiodd y portread hwn yn Rhufain yn gyfnewid am un o dirluniau Wilson - gweithred o gyfeillgarwch ac edmygedd y naill ddyn at y llall.

Portread o Foneddiges: Morwyn Anrhydeddus [Portrait of a Lady: Maid of Honour]. Richard Wilson (1714 - 1782)

Ganed a magwyd

Richard Wilson ym Mhenegoes, Sir Drefaldwyn, ac fe symudodd i Lundain ym 1729 i dderbyn hyfforddiant gan Thomas Wright fel paentiwr portreadau. Yn dilyn ei brentisiaeth ym 1735, dechreuodd gynhyrchu portreadau o eisteddwyr o Gymru a Lloegr. Ym 1750 gadawodd Lundain am Rufain, a bu yno tan 1757. Yn ystod y cyfnod hwn datblygodd sgiliau newydd fel arlunydd tirluniau yn y dull clasurol mawr, yn dilyn esiampl Poussin, Claude a Zuccarelli.

Pan ddychwelodd i Lundain fe gyflogodd nifer o brentisiaid, gyda Thomas Jones a Joseph Farington ymysg y disgyblion a oedd yn talu, ac fe fabwysiadodd y ddau ohonynt rai o arferion stiwdio Wilson.

Dros y pymtheng mlynedd nesaf cynhyrchodd nifer fawr o dirluniau Eidalaidd, Seisnig a Chymreig, gan ailadrodd droeon y testunau mwyaf poblogaidd. Yn raddol, diflannodd y farchnad am baentiadau felly, a lleihawyd ei incwm. Roedd yn un o'r aelodau a sefydlodd yr Academi Frenhinol ym 1768, a chafodd ei gyflogi ganddynt yn llyfrgellydd ar gyflog o £50 y flwyddyn. Dirywiodd ei iechyd yn raddol, ac aeth i ymddeol yng Ngholomendy, ger Yr Wyddgrug, lle bu farw ym 1782.

Techneg Paentio Portreadau

Mae portreadau cyntaf Wilson yn dyddio o 1740-50, ac maent yn adlewyrchu chwaeth ei gyfnod. Fel arfer, darlunnir pen ac ysgwyddau unigolion o fewn hirgrwn, gyda'r cefndir addas yn adleisio dyheadau'r eisteddwyr. Roedd Wilson yn trin paent yn rhydd ac yn feistrolgar, ac mae hyn yn amlwg yn nillad ei eisteddwyr, sy'n dangos manylion y ffasneri a nodweddion addurnol eraill. Peintiai Wilson arlliwiau croen mewn tri cham. Byddai elfennau sylfaenol yr wyneb yn cael eu sefydlu trwy ddefnyddio arlliw tywyll ar gyfer lliwiau tywyll, ac arlliw golau ar gyfer lliw cnawd cyffredinol. Ar ôl i'r cyntaf sychu, byddai'r ail beintiad yn dwysáu'r lliwiau golau, gwydro'r lliwiau tywyll, ac yn ychwanegu lliw fflamgoch i'r gwefusau a'r bochau. Byddai'r peintiad olaf, neu'r trydydd, yn gyfle i wneud gwelliannau terfynol i'r gwydro.

Nodwedd neilltuol o'i bortreadau yw'r tanbaent llwyd, a adawyd heb ei orchuddio, i ffurfio arlliw canolig ar gyfer lliw croen. Mae hyn yn amlwg iawn yn y portreadau o

Richard Owen (NMW A 5005) a'r Maid of Honour (NMW A 67).

Technegau Paentio Tirluniau

Penderfynodd Wilson adael portreadau a chanolbwyntio ar baentio tirluniau tra oedd yn yr Eidal. Cynhyrchwyd ei dirluniau drwy wneud tan ddarlun o baent brown yn gyntaf, cyn ychwanegu'r 'lliwiau pŵl' (dead-colouring), tasg a roddwyd i'r prentisiaid stiwdio. Ychwanegwyd haenau tenau o liw yn ystod y cam hwn; Glas Prwsiaidd a llwyd-frown ar gyfer yr awyr, a chymysgedd o bigmentau coch a glas ar gyfer y tirlun. Byddai lliw yn cael ei osod mewn trwch yn dibynnu ar y dyfnder arlliw oedd ei angen, a fyddai'n amlygu arlliw golau'r grwnd tuag at y gorwel. Ar ôl i'r lliwiau pŵl sychu, gosodwyd olew ar y darlun cyn yr ail beintiad.

Ar gyfer y blaendir, dywed Joseph Farington bod Wilson wedi 'mynd drosodd eildro, gan ddwysau pob rhan gyda lliw a dyfnhau'r cysgodion, ond yn llonydd, yn frown, yn rhydd ac yn fflat, wedi'i adael mewn cyflwr i gael ei orffen: yr hanner-arlliwiau wedi'u gosod, ond heb oleubwyntio.' Wrth beintio'r blaendir am y trydydd tro, byddai Wilson yn newid yr arlliwiau, gan ychwanegu'r eglurder angenrheidiol i'r gwahanol wrthrychau, cyn eu gwydro ag arlliwiau cyfoethog a chynnes, ac ychwanegu arlliwiau solet drostynt.

Ar y llaw arall, gweithiwyd yr awyr a'r tirlun pell yn wlyb ar baent gwlyb ar ôl cwblhau'r lliwio pŵl gwreiddiol, yn hytrach nag mewn dau gam ar wahân. Roedd hyn yn galluogi Wilson i gymysgu'r cymylau gyda glas yr awyr, gan ddefnyddio dulas yn hytrach na glas Prwsiaidd ar gyfer y cam hwn o'r peintio, mae'n debyg. Yn olaf addaswyd y gorwel a meddalwyd y pellter gyda llwydfrown eto yn ôl yr angen.

Ymarfer Arlunio

Roedd arlunio yn bwysig i Wilson, a neilltuwyd y flwyddyn gyntaf o hyfforddiant ei ddisgyblion ar gyfer arlunio, a roddai sail dda iddynt 'yn egwyddorion golau a chysgod heb gael eu dallu a'u camarwain gan gyffro lliwiau'.

Mae'r rhan fwyaf o'i luniau sydd wedi goroesi yn dyddio o'i ymweliad â'r Eidal (1750 -7). Mae'r rhain yn cynnwys astudiaethau uniongyrchol o fyd natur, a chynlluniau o'i ddychymyg ei hun. Ei hoff gyfrwng oedd sialc du a stwmp ar bapur llwyd. Defnyddiodd y lluniau hyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer ei beintiadau olew, ond pur anaml y byddai'n eu trosi i baent yn uniongyrchol. Roedd yn ailwampio'r cynlluniau gwreiddiol hyn ac yn gwneud addasiadau cyson wrth beintio.

Yn ogystal â hyn, byddai ei liwiau wedi deillio o'i gof gweledol neu ei ddychymyg gan nad oedd yn cymeradwyo brasluniau wedi'u harlliwio, ac ni fyddai'n defnyddio dyfrlliwiau i wneud astudiaethau o fyd natur.

Palet Wilson yn ôl Paul Sandby o Artists and their Friends in England 1700-1799, gan Whitley. (cyhoeddwyd gan Medici Society 1928)

Palet Wilson:

Cofnodwyd palet Wilson gan Joseph Farington, a oedd yn ddisgybl iddo ym 1763, ac un o'i ffrindiau, y dyfrlliwiwr Paul Sandby. Mae eu hadroddiadau'n amrywio ychydig, ond gyda'i gilydd maent yn rhoi'r amrediad o bigmentau y byddem yn disgwyl eu gweld yn ei beintiadau.

Gleision: dulas, glas Prwseg, indigo
Chochion: fermiliwn, coch golau, cochliw
Melynion: ocr melyn, melynlliw, melyn Naples, pinc-frown
Browniau: Ocr Rhufeinig, sienna llosg
Gwyrddion: terre verte
White: gwyn plwm
Black: du ifori neu asgwrn

Cipolwg:

  • 1714: Ganed yn Sir Drefaldwyn
  • 1728: Symudodd i Lundain i fwrw prentisiaeth gyda Thomas Wright
  • 1735: Daeth yn baentiwr cydnabyddedig
  • 1750: Teithiodd i Rufain i ddatblygu ei allu i baentio yn arddull Poussin, Claude a Zuccarelli
  • 1757: Dychwelodd i Lundain i hyfforddi disgyblion megis Thomas Jones a Joseph Farington
  • 1768: Aelod Sefydlu'r Academi Frenhinol
  • 1772: Fe'i penodwyd yn Llyfrgellydd yr Academi Frenhinol
  • 1782: Bu farw yn yr Wyddgrug

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
George Strelakos
28 Hydref 2019, 15:26
Well, I have used Wilson’s medium, purchased from Rubelev Natural Pigments, with success. The above article with the use of Prussian Blue coincides with Titian’s use of the same pigment as the neutral rest for the eye between colors that he wished to enhance or emphasize. And, this probably in a more natural less garish way. As, the human eye is most sensitive to the color in question, green. And, this is a clever solution to the problem of greenitis that plagues landscape painters.
24 Gorffennaf 2018, 18:15
Information given does not mention any
wife or children.
Lisa Migani
2 Ebrill 2017, 16:29
Hello
I have just bought 3 small oil paintings under glass they are landscapes I believe of Italy, they are signed in black on right hand corner Wilson - they look very much in the style of Richard Wilson and the frames also look old . Could you tell me if Wilson ever signed his surname in full or did he always use his monogram?
Many thanks for any information you are able to give me.
Best regards
Lisa Migani