Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52 Elen Phillips Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52 Casgliadau Arlein: Gorchudd gwely clytwaith Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i dros 200 o gwiltiau a chlytwaith. Mae’r casgliad amrywiol a phwysig hwn yn cynnwys trawstoriad o gynlluniau a thechnegau, ac yn cynrychioli bron i 300 mlynedd o’r grefft yng Nghymru. Un o uchafbwyntiau’r casgliad yw Cwilt y Teiliwr – gorchudd gwely clytwaith a wnaed gan James Williams, prif deiliwr milwrol o Wrecsam. Mae cynllun y cwilt yn brawf o ddawn greadigol y teiliwr, yn ogystal â’i werthfawrogiad o orchestion peirianegol ei ddydd. Yn y gornel uchaf ar y chwith, mae Pont Menai a gwblhawyd gan Thomas Telford ym 1826. Mae traphont Cefn ger Wrecsam yng nghanol y darn, a phagoda Tsieineaidd yn y gornel uchaf. Mae'r golygfeydd eraill y cynnwys themâu Beiblaidd – arch Noa, Jona a’r morfil, Cain yn lladd Abel, a'r ddelwedd ganolog o Adda yn enwi'r anifeiliaid. Gwneir cwiltiau clytwaith yn aml drwy wnïo defnydd sydd dros ben, er enghraifft hen grysau neu siwtiau. Gwnaeth James Williams ei gwilt drwy ailgylchu sborion gwlân – defnydd lifrau milwrol mae’n debyg. Yn syfrdanol, mae'r cwilt cyfan yn cynnwys 4,525 o ddarnau mân, oll wedi'u gwnïo at ei gilydd o’r cefn gyda thrawsbwythau. Gelwir y math hwn o waith yn glytwaith mewnosod. Mae’n dechneg sy’n gofyn am fedr arbennig â’r nodwydd a brethyn sy’n ddigon trwchus i ddygymod â’r trawsbwythau. O ganlyniad, mae’r engreifftiau sydd i’w canfod mewn casgliadau amgueddfeydd yn dueddol o fod yn gysylltiedig â theilwriaid proffesiynol. Yn ôl hanes teuluol, bu James Williams wrthi am ddegawd, rhwng 1842 a 1852, yn pwytho’r cwilt yn ystod ei oriau hamdden. Ymhen dim, daeth galw i’w arddangos yn gyhoeddus. Ym 1876 dangoswyd y cwilt mewn arddangosfa fawr o ‘drysorau celfyddyd’ (Art Treasures Exhibition) a gynhaliwyd yn Wrecsam i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach, ym 1925 bu’r cwilt ar arddangos yn Wembley, ac yn Wrecsam unwaith eto pan ddaeth yr Eisteddfod yn ôl i’r dref ym 1933. Mae tystiolaeth o gyfrifiadau ardal Wrecsam yn dangos mai brodor o’r dref oedd James Williams. Fe’i ganed ym 1818 ac erbyn y 1850au roedd ganddo weithdy teilwra yn ei gartref yn College Street, ger Eglwys y Plwyf. Bu farw ym 1895 ac fe etifeddwyd y busnes gan ei fab. Ym 1935, daeth y cwilt i feddiant yr Amgueddfa drwy ei ŵyr, Richard Williams, a oedd hefyd yn deiliwr fel ei dad a’i daid. Meddai ar y pryd: “it has always been my wish that the quilt should be sent to [the] National Museum of Wales so as my fellow countrymen should have the opportunity to admire a work of art that today could not be done if you were to pay the most skilful craftsman £1 a minute to do”. sylw - (3) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Sharon 16 Ebrill 2021, 22:24 I am so proud, this was my great ,great grandfather. He was a master tailor in wrexham Carol Baldwin 8 Tachwedd 2020, 10:53 The time and care taken with this beautiful quilt is evident in every line and stitch. A national treasure! My grandmother's folks were from Wales and I hope to visit someday. Cymru am byth! Margaret Rogerson 4 Hydref 2020, 08:07 What a wonderful quilt. I would love to see it. It looks just as exciting as some American biblical quilts I have seen. When Covid is over and there is a vaccine I will certainly be heading to Wales.