Oriorau Ymbelydrol yn Amgueddfa Cymru
Mae nifer o eitemau yng nghasgliad oriorau Amgueddfa Cymru'n 'tywynnu mewn tywyllwch'. Y sylwedd sy'n achosi'r oriorau i dywynnu (goleuedd) yw radiwm. Gan fod radiwm yn ymbelydrol, mae'n rhaid cymryd gofal wrth drin a thrafod yr oriorau, sy'n golygu bod eu cadw, eu harddangos, a darparu mynediad atynt, yn her fawr.
Radiwm
Darganfuwyd Radiwm gan Marie Curie ym 1898, a daeth i fod yn rhyfeddod y ganrif newydd - credwyd, yn eironig, ei fod gwella popeth, o arthritis i ganser. Achosir yr effaith dywynnol drwy gymysgu sylweddau megis sylffid sinc a radiwm. Ym 1902, defnyddiwyd y sylwedd ymoleuol hwn yn wreiddiol i beintio wynebau a bysedd oriorau a chlociau, er mwyn eu gweld yn y tywyllwch.
Bu farw Marie Curie ym 1934 o ganlyniad i'w chysylltiad agos â radiwm. Mae'r llyfrau nodiadau, a ddefnyddiodd i gofnodi'r holl arbrofion, yn parhau i fod yn rhy ymbelydrol i'w trafod heddiw.
Y Merched Radiwm
Yn fuan daeth oriorau a dywynnai yn y tywyllwch yn boblogaidd gyda'r farchnad dorfol, ac yn y 1920au, sefydlwyd ffatrïoedd cynhyrchu lle byddai merched yn cymysgu glud, dŵr, a phowdr radiwm, i wneud paent tywynnol gwyn â gwawr werdd i'w osod ar yr oriorau.
Er mwyn peintio rhifau taclus a chlir ar y deialau, roedd angen sicrhau bod gan y brwsis flaenau main iawn. Collai'r brwsis eu siâp ar ôl ychydig gyffyrddiadau, felly byddai'r merched yn eu "miniogi" drwy rolio'r blaenau ar eu tafodau i sythu'r blew, weithiau gymaint â 6 thro ar gyfer pob wyneb oriawr. Byddai rhai'n peintio'u dannedd hyd yn oed, neu'n gwisgo "colur" tywynnol fel y gallent frolio i'w ffrindiau. Bu nifer o'r merched yma farw o ganser yn ddiweddarach.
Profi am ymbelydredd yn yr amgueddfa
Defnyddiwyd mesurydd ymbelydredd (mesurydd Geiger) i fesur lefelau ymbelydredd y clociau a'r oriorau sydd yng nghasgliadau'r amgueddfa. Dangosodd y darlleniadau uchaf bod gan rai deialau ddarlleniad o 3000 cyfrif yr eiliad, o'i gymharu â'r lefel naturiol o 8-10 cyfrif yr eiliad.
Mae'r dos mesuradwy o Radiwm sydd mewn oriawr tua 5 gwaith yn fwy na'r dos a geir mewn pelydr-x safonol o'r frest.
Cadarnhaodd y darlleniadau y gallai'r wynebau fod yn beryglus, os na wneid unrhyw beth i gyfyngu ar gysylltiad pobl â hwy. Penderfynwyd, felly, y dylid:
- Cau'r eitemau ymbelydrol mewn deunydd o ddwysedd digonol;
- Cadw'r eitemau ymbelydrol mewn rhan dawel o'r storfeydd;
- Gosod arwyddion yn rhybuddio natur y perygl.
Symudwyd pob gwrthrych a oedd yn cynnwys radiwm, a oedd yn cael ei arddangos yn gyhoeddus, er mwyn ei storio'n ddiogel.
Llwch ymbelydrol
Er bod modd rheoli amodau storio'r gwrthrychau hyn yn effeithiol, mae eu cadw'n fater o bryder. Gan fod rhai o'r wynebau gymaint â 100 mlwydd oed, gall y paent droi'n llwch, gan gynyddu'r perygl o heintio drwy gysylltiad uniongyrchol â'r llwch ymbelydrol.
Mae'n bosib anadlu'r llwch wrth weithio ar y wynebau, megis gweithio ar y mecanwaith, glanhau'r deialau, y bysedd neu'r gorchuddion, er enghraifft. O ganlyniad, caiff pob gwrthrych ymbelydrol yn yr amgueddfa ei drin gyda'r gofal priodol, er mwyn gwarchod staff cadwraethol.
Dadfeilio Ymbelydrol
Yn ddiddorol, mae profion yn dangos nad yw gloywder y wynebau'n gysylltiedig â'r lefel o ymbelydredd sy'n bresennol. Hyd yn oed os yw paent yr wyneb yn wan neu'n anweledig yn y tywyllwch, gall roi darlleniad ymbelydrol uchel. Er bod y cemegyn ymoleuol adweithiol wedi dadfeilio, gall yr elfen ymbelydrol, sef radiwm, barhau i fod yn beryglus am flynyddoedd i ddod.