Eiconau Kalighat - Paentiadau o Galcutta'r 19eg ganrif
Daethpwyd â'r paentiadau arddull 'Kalighat' yng nghasgliad Amgueddfa Cymru o India tua 1880. Maent yn cynrychioli ffurf ar gelfyddyd Indiaidd a oedd wedi diflannu erbyn 1940. Maent yn weithiau gan arlunwyr proffesiynol a elwir yn 'patuas' yn Bengaleg, a gwerthwyd hwy am swm oedd yn gyfwerth â cheiniog yr un mewn marchnadoedd a ffeiriau yn ardal Calcutta a'r cylch, yn arbennig wrth gatiau teml enwog Kalighat, a roddodd yr enw i'r arddull.
Adrodd Hanesion
Yn Bengal, ers canrifoedd, bu arlunwyr teithiol proffesiynol, a elwir yn 'patuas' neu 'chitrakars', yn peintio lluniau neu 'pattas' ar lieiniau neu bapur wedi'i wneud â llaw. Byddai'r rhain yn cael eu gwnïo at ei gilydd er mwyn creu sgroliau hir o ddelweddau. Teithiai'r arlunwyr hyn o amgylch pentrefi gwledig, gan ddadrolio'r delweddau wrth adrodd neu ganu'r straeon. Mae teuluoedd patua sy'n byw yn yr ardaloedd gwledig o amgylch Calcutta, yn parhau'r traddodiad hyd heddiw.
Patuas yn symud i'r ddinas
Erbyn 1806, roedd rhai patuas wedi symud i Galcutta – basâr mwyaf Bengal. Roedd gan y farchnad drefol newydd hon botensial anferth. Yn ogystal â'r trigolion lleol, roedd ymwelwyr tymhorol â Chalcutta eisiau cofroddion fforddiadwy. Gyda phapur rhad wedi'i wneud â pheiriant a phaentiau parod, sefydlwyd nodweddion hanfodol yr arddull. Cedwid y cynlluniau'n syml, fel bod modd eu hailadrodd yn unol â phoblogrwydd y llun. Byddai manylder y sgroliau'n diflannu wrth i'w poblogrwydd gynyddu.
Traddodiadau a chrefydd
Arweinid yr arlunydd gan rai traddodiadau Hindŵaidd. Roedd gan bob Duwdod fformwla fyfyriol arbennig – dhyan mantra – y byddai'r arlunwyr yn ceisio'u cynhyrchu mewn llinellau a lliw. Mae'r straeon traddodiadol yn disgrifio ymarweddiad a gweithredoedd y duwiau a'r duwiesau, eu pryd a'u gwedd, eu hosgo, eu meirch a'u harfau, ac roedd raid iddynt ddarlunio'r cyfan yn gywir.
Delweddau Hindŵaidd a gwyliau Moslemaidd
Gan fod Calcutta'n eithriadol o gosmopolitaidd, cynrychiolir yr ŵyl Foslemaidd bwysig Muharram yn ogystal â'r delweddau Hindŵaidd. Mae'n bosib bod nifer o'r arlunwyr Kalighat wedi derbyn credoau Hindŵaidd a Moslemaidd, fel y gwna nifer o'r arlunwyr sgroliau heddiw, gan fabwysiadu dau enw gwahanol, un o'r naill draddodiad a'r llall.
Cychwyn y Casgliad Kalighat
Nid oes modd olrhain y casgliad yn yr Amgueddfa yn gynharach na 1954. Gan gymryd eu bod yn ffurfio un grŵp, mae'n debygol iddynt gael eu prynu yn Calcutta tua 1873. Mae'n bosib mai Ffrancwr oedd y perchennog gwreiddiol.
Prynwyd casgliad sydd bellach yn Llyfrgell Bodley, Rhydychen, rhwng 1860 a 1870, ac mae'n cynnwys delweddau tebyg. Mae'n gasgliad tebyg i'r saithdeg a thri o eitemau sydd yn yr Amgueddfa Victoria and Albert, yn Llundain, a brynwyd yn India rhwng 1865 a 1893.
Cwymp arddull y Kalighat
Mae'n debyg mai 1870 oedd y flwyddyn pan gyrhaeddodd poblogrwydd y paentiadau hyn eu hanterth. Er mwyn cyflymu'r broses gynhyrchu, ceisiodd rhai teuluoedd ddefnyddio amlinelliad lithograffig yn ystod y 1840au, ond ni pharhaodd hyn am lawer o flynyddoedd. Daeth y cromolithograff, a fedrai gynhyrchu lliwiau mwy llachar a phrintio niferoedd uchel iawn, i danseilio'r teuluoedd a fu'n peintio a llaw, a llyncu'r farchnad. Erbyn y 1930au roedd y ffurf gelfyddydol boblogaidd hon wedi diflannu'n gyfan gwbl.
Yn anffodus, dim ond nifer fach o'r miloedd o'r pats Kalighat o'r 19eg ganrif sydd yn goroesi yn India heddiw, naill ai mewn Amgueddfeydd neu mewn casgliadau preifat. Ni phrynwyd hwy erioed gan y cyfoethogion a ystyriai nad oeddynt yn deilwng i gael eu galw'n gelfyddyd. Cafodd y papur rhad a nodweddiadol fregus a oedd yn cynnwys cynnyrch celfyddyd y patuas ei ddifrodi'n fuan iawn yn y cartrefi tlotaf, naill ai drwy ddifrod uniongyrchol neu gan nad oedd dim i'w amddiffyn rhag yr hinsawdd laith.
Darllen Cefndir
W. G. Archer, Kalighat Paintings, London 1971
Balraj Khanna, Kalighat – Indian Popular Paintings, London, 1993
Hana Knizkova, The Drawings of the Kalighat Style, Prague, 1975
sylw - (1)
Very Informative!!