Wynebau Cymru
Mae casgliad portreadau Amgueddfa Cymru yn dangos amrywiaeth o wahanol wynebau sydd wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd Cymru dros y canrifoedd. Cymeriadau Cymreig adnabyddus yw llawer o'r modelau, tra bod gan eraill gysylltiadau cryf â Chymru. Mae rhai'n enwog ar lwyfan rhyngwladol, er nad pob un sy'n adnabyddus am eu gwreiddiau Cymreig.
Peintio portreadau cynnar
Tan y 18fed ganrif, dynion bonedd pwerus, tirfeddianwyr a masnachwyr oedd yr unig bobl oedd yn ddigon cefnog i gomisiynu portreadau.
Yn wahanol i'r Alban neu Iwerddon, doedd gan Gymru ddim trefi mawr na phrifddinas cyn canol yr 18fed ganrif, felly byddai bonedd Cymru yn troi at y cyfandir neu Lundain i chwilio am bortreadwyr. Er enghraifft, y portreadau cynharaf yng nghasgliad yr Amgueddfa yw Iarll Cyntaf Penfro (a beintiwyd ym 1565) a Cathryn o Ferain (a beintiwyd ym 1568), y naill a'r llall wedi eu peintio dramor.
Yn y 18fed ganrif, roedd tirfeddianwyr mawr fel teulu Williams Wynn a theulu Pennant yn noddi portreadwyr llwyddiannus yn Llundain. Yn wahanol i'r Alban, ni ddatblygodd ysgol bortreadu yng Nghymru yn ystod y cyfnod yma. Er i'r artist o Gymro Richard Wilson ddechrau ei yrfa fel portreadwr, trodd at dirlunio — oedd yn fwy proffidiol — a dilynodd ei ddisgybl Thomas Jones yn ôl ei draed.
Y Chwyldro Diwydiannol
Oherwydd rhan hanfodol Cymru yn y Chwyldro Diwydiannol, erbyn diwedd yr 18fed ganrif roedd grŵp newydd o ddiwydianwyr cyfoethog fel Thomas Williams, y 'Brenin Copr', yn gallu fforddio talu artistiaid blaenllaw o Lundain i beintio portreadau ohonynt.
Gwelwyd cyfoeth yn cael ei ddosbarthu'n gynyddol ymysg dosbarthiadau canol Cymru yn ystod y 19eg ganrif. Roedd hyn yn golygu bod mwy o bobl yn gallu cadw cofnod o'u pryd a'u gwedd at y dyfodol.
Datblygiad ffotograffiaeth fu'n gyfrifol am drawsnewid natur portreadu yng Nghymru. Ond parhaodd yr arfer o beintio portreadau, a chynhyrchwyd rhai delweddau eiconaidd fel portread enwog Augustus John o'r bardd Dylan Thomas. Ysbrydolodd hanes diwydiannol cyfoethog Cymru ddelweddau arwrol o'r gweithwyr yn ogystal â pherchnogion y pyllau eu hunain, er enghraifft Coliar Cymreig Evan Walters o 1936. Dim ond yn ddiweddar iawn y canfuwyd pwy oedd y model.
Y cerflun efydd cynharaf ym Mhrydain
Mae portreadau ar ffurf cerfluniau wedi bod yn boblogaidd yng Nghymru erioed. Mae enghreifftiau'n amrywio o benddelw efydd Le Sueur o'r Arglwydd Herbert, a gomisiynwyd yn ystod teyrnasiad Siarl I ac sydd ymhlith penddelwau efydd cynharaf Prydain, i benddelw Peter Lambda o Aneurin Bevan ym 1945. Bu'r cerflunydd Cymreig Syr William Goscombe John, a fu farw ym 1952, yn ffigur diwylliannol allweddol yng Nghymru, a chwaraeodd ran bwysig wrth greu ein casgliad celf cenedlaethol. Roedd yn aelod anhepgor o Gyngor yr Amgueddfa ac yn gyfrannwr hael a rheolaidd i'r Amgueddfa. Fe'i ganed yng Nghaerdydd a chreodd gerfluniau cyhoeddus a chofebion yn ogystal â phortreadau ar ffurf penddelwau, fel yr un a wnaeth o un o wleidyddion pwysicaf yr 20fed ganrif yng Nghymru, David, Iarll 1af Lloyd George.
Mae'r portreadau yma o gasgliad yr Amgueddfa Genedlaethol. Gellir gweld enghreifftiau pellach ac archif o bortreadau Cymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, sydd wedi bod yn casglu portreadau ers ei sefydlu, ac yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.