Portread o Sgweier Cymreig a'i blant, gan Johann Zoffany, arlunydd nodedig Siôr III
Mae nifer o bortreadau o Gymry amlwg yng nghasgliadau celf Amgueddfa Cymru. Serch hynny, mae'r Amgueddfa'n casglu portreadau o bobl llai adnabyddus hefyd, oherwydd y gallant fod yn werthfawr fel gweithiau celf. Yn aml, mae astudio'r portreadau hyn yn bwrw goleuni newydd ar gyfnodau a bywydau'r sawl a gafodd ei ddarlunio, gan ychwanegu hefyd at ein dealltwriaeth o gelfyddyd y gorffennol.
Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r Amgueddfa wedi caffael nifer o bortreadau nodedig o'r 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, yn cynnwys Henry Knight o Tythegston gyda'i dri o blant, a beintiwyd gan Johann Zoffany (1733-1810) tua 1770.
Henry Knight of Tythegston gyda'i dri o blantgan Johann Zoffany
Mae'r portread yn dangos Henry Knight (1738-1772), sgweier o Sir Forgannwg, gyda'i dri o blant Henry, Robert ac Ethelreda. Bu Henry'n filwr yng nghatrawd y 15th Light Dragoons, a darlunir ei fab hynaf yn gwisgo helmed y gatrawd. Fe etifeddodd Robert Knight (1711-1765), sef tad Henry Knight, ystâd Tythegston teulu'r Lougher drwy ei fam ym 1732. Fe ysgarodd Henry ei wraig ym 1771, a oedd bryd hynny'n broses anodd a drud yr oedd angen Deddf Seneddol breifat i'w gweithredu. Mae'n bosib bod y paentiad wedi cael ei gomisiynu i ddarlunio penderfyniad Henry Knight i adael y fyddin er mwyn gofalu am ei blant. Yn y darlun mae'n gwisgo dillad bob dydd ond mae'n cydio mewn spontoon - math o bicell fer y byddai swyddogion y troedfilwyr yn ei chario - a'r llafn wedi'i wthio i'r ddaear. Mae ei feibion yn dal ei gleddyf, ei gorsied a'i helmed. Gosodir y darlun ar lan y môr, ac mae'n debygol mai cyfeiriad yw hyn at Tythegston, sydd filltir neu ddwy o'r arfordir, rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Mae motiff y goeden, a ddefnyddir yn aml yn narluniau Zoffany o grwpiau teuluol, yn caniatáu pwysigrwydd cyfartal i bob ffigwr. Mae dangos y bechgyn yn chwarae ag arfau ac arfwisg yn perthyn i draddodiad y gellir ei olrhain yn ôl i gyfnod y Dadeni.
Johann Zoffany
Dyma un o bortreadau teuluol mwyaf Zoffany (yn mesur 240 cm x 149 cm), ac mae'n gomisiwn rhyfeddol o uchelgeisiol ar gyfer sgweier Cymreig o gyfoeth cymedrol. Roedd Zoffany, un o arlunwyr mwyaf adnabyddus teyrnasiad Siôr III, yn enwog am ei arddull anffurfiol. Mae un o'i ddarluniau mwyaf adnabyddus, Syr Lawrence Dundas gyda'i ŵyr, yn dangos y campwaith Isalmaenig o'r 17eg ganrif The Calm gan Jan van de Cappelle, sydd hefyd yng nghasgliadau'r Amgueddfa.
Ganwyd Zoffany ger Frankfurt ac fe'i hyfforddwyd yn Rhufain cyn iddo symud i Lundain ym 1760. Mae'n debyg mai'r Arglwydd Bute, prif weinidog cyntaf Siôr III, wnaeth ei gyflwyno i'r Teulu Brenhinol, a daeth i fod yn hoff arlunydd y Frenhines Charlotte. Fe'i penodwyd yn aelod o'r Academi Frenhinol gan y Brenin ym 1769. Mae apêl ei waith yn deillio o'i ddawn o beintio tebygrwydd da, yn ogystal â'i sylw rhyfeddol at fanylder. Fodd bynnag, mae ei bersbectif yn wallus ar brydiau, ac yma mae'n amlwg bod yr helmed sydd ym mreichiau'r mab hynaf yn rhy fawr.
Prynu'r portread ar gyfer yr Amgueddfa
Mae'r darlun wedi'i gadw mewn cyflwr arbennig o dda. Mae archwiliadau pelydr x yn dangos bod yr arlunudd wedi gwneud newidiadau i ben Robert Knight (y mab ieuengaf mewn gwisg goch), ond dim ond ambell i newid bach arall a wnaed i'r cynllun, a phaentiwyd gweddill y cyfansoddiad yn weddol denau. Benthycwyd y paentiad i'r Amgueddfa o 1940 hyd at 1958. Pan aeth ar werth yn Sotheby's ym 1999 daeth yn flaenoriaeth i'r Amgueddfa ei brynu. Bu'n bosibl ei brynu o ganlyniad i roddion hael oddi wrth gymynrodd June Tiley, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chronfa'r Casgliadau Celf Cenedlaethol.