Crefft y Seremoni De Japaneaidd
Ym 1915 fe dderbyniodd yr Amgueddfa nifer o gratiau a oedd yn cynnwys tecstilau, lacer, printiau bloc pren a llestri ar gyfer y seremoni de Japaneaidd (chanoyu). Anfonwyd hwy o Siapan gan Bernard Leach, crochenydd y dylanwadwyd arno'n gryf drwy gydol ei yrfa gan ei brofiadau Japaneaidd. Gan na chofnodwyd yr eitemau ar y pryd fe aeth y rheswm dros eu prynu'n angof. Serch hynny, mae wedi bod yn bosib eu hadnabod yn ddiweddar.
'...rhywbeth unigryw'
Pan aeth Bernard Leach i Japan am y tro cyntaf, roedd yn artist ifanc a oedd newydd ddarganfod crochenwaith Japaneaidd. Fodd bynnag, sefydlodd ei hun, mewn amser byr iawn, fel prif grochenydd Prydeinig yr 20fed ganrif.
Nid oedd yn amau gwerth y casgliad a ddisgrifiwyd ganddo fel 'rhywbeth unigryw'. Dilynodd gyngor y meistri te Japaneaidd, a chasglodd eitemau o'r math oedd yn cael eu trysori fwyaf yn y traddodiad Japaneaidd chanoyu, yn seiliedig ar egwyddorion a sefydlwyd yn y 16eg ganrif. Yn ôl yr egwyddorion hyn fe ddylai'r gwrthrychau sy'n cael eu defnyddio fod yn syml ac yn ddiymhongar, gan gyfrannu at yr ymdeimlad o fyfyrdod tawel a ysbrydolir gan y seremoni.
Mae'r chaire (pot te) a anfonwyd gan Leach yn arddangos y nodweddion hyn yn berffaith. Mae'n esiampl o wneuthuriad garw crochenwaith caled Shigaraki, a werthfawrogir gan arbenigwyr te ers y 15fed ganrif. Yn draddodiadol byddai gwestai yn archwilio ac yn clodfori gwrthrych o'r fath ar ôl i'r gwesteiwr orffen gweini'r te.
Ail-greu chanoyu
Mae Chanoyu yn gelfyddyd ac yn ffordd o fyw, ac mae'n weithred o letygarwch a chanddi nifer o ddefodau. Mae gwrthrychau'n cael eu dewis, eu gosod a'u trin yn ofalus iawn, nes bod y cyfuniad o'r gwrthrychau a'r bobl, a'r amser a'r lle'n golygu bod pob seremoni yn ddigwyddiad unigryw na ellir ei ailadrodd. Mynnodd Leach y dylid dangos yr un parch pan ddangoswyd y casgliad yn yr Amgueddfa ym 1924.
Traddodiadau Japaneaidd
Pan oedd Leach yn Japan, roedd treftadaeth y wlad mewn perygl o gael ei cholli oherwydd twf cyflym diwydiant ac effaith y gorllewin. Roedd rhai yn gweld y seremoni de fel metaffor o'r Japan draddodiadol, a gobaith Leach oedd y byddai'r caffaeliad yn medru helpu i wella'r ddealltwriaeth rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin.
Yn ei henaint, defnyddiodd Leach ei brofiad i weithredu fel cyfryngwr rhwng byd diwylliannol Gorllewin Ewrop a Dwyrain Asia. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bellach bod y cylchoedd Japaneaidd yr oedd yn troi ynddynt wedi cael eu dylanwadu'n helaeth gan athroniaeth y Gorllewin, ac y dylid amau ei honiad iddo ddeall traddodiad dilys Japan.
Serch hynny, mae Leach yn ffigwr nodedig yn hanes y rhyngweithio parhaol rhwng Ewrop a Dwyrain Asia. Mae'n addas felly bod yr eitemau hyn yn cael eu gwerthfawrogi, nid yn unig am eu prydferthwch a'u hynafiaeth, ond hefyd y cyswllt rhyngddynt â Leach ei hun.
Darllen Cefndir
Edmund de Waal, Bernard Leach (London: Tate, 1999);
Emmanuel Cooper, Bernard Leach: Life and Work (New Haven & London: Yale University Press, 2003);
Kakuzo Okakura, The Book of Tea (New York: Dover, 1964);
Paul Varley and Kumakura Isao (eds), Tea in Japan: Essays on the History of Chanoyu, (Honolulu: University of Hawaii Press, 1989)