Ffermdy mawr neu fatsien fechan: gofalu am gasgliadau Hanes Cymdeithasol Sain Ffagan
Cedwir casgliadau Hanes Cymdeithasol Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan. Gan ei bod yn amgueddfa awyr-agored, mae'r gwrthrychau'n amrywio rhwng adeiladau hanesyddol wedi'u hail-godi a gwrthrychau bach, bregus, sydd mewn storfa dymherus. Maent yn amrywio o ran maint rhwng matsis a gwelyau pedwar postyn, a gallant fod mor fregus â chregyn addurnol Fictoraidd brau, neu mor gadarn ag ysgythriadau wedi'u cerfio mewn carreg.
Yn aml mae gwrthrychau wedi'u gwneud o fwy nag un deunydd. Mae hyn yn golygu bod angen defnyddio gwahanol dechnegau cadwraethol ar gyfer gwahanol rannau o'r gwrthrychau. Rhaid i'r staff cadwraethol asesu gwrthrychau newydd i'w sefydlogi, ac archwilio'r eitemau sydd wedi'u storio'n rheolaidd.
Cadwraeth ar gyfer y dyfodol
Rhaid i bob gwrthrych yng nghasgliadau'r Amgueddfa fod yn strwythurol gadarn ac yn sefydlog yn gemegol os ydynt am oroesi. Wrth drin unrhyw wrthrych y cam cyntaf yw ei archwilio'n fanwl i weld a yw'n gyflawn. Os yw'n fudr, rhaid ystyried a yw'r budreddi'n bwysig i hanes y gwrthrych neu beidio. Pan fydd gwrthrych wedi ei ddifrodi, mae'n bwysig gwybod a gafodd ei ddifrodi wrth gael ei wneud neu wrth gael ei ddefnyddio.
Cadw'r hen ddarn gwreiddiol neu arddangos gwrthrych wedi'i adfer yn llwyr?
Bellach, nid yw ymwelwyr i amgueddfeydd yn disgwyl i bob gwrthrych fod yn "berffaith". Canlyniad hyn yw bod modd i ni roi blaenoriaeth i gadw'r hyn sydd wedi goroesi yn hytrach nag adfer yr hyn sydd wedi ei golli. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd gwybodaeth bwysig ynglŷn â'r broses o greu a defnyddio'r gwrthrych yn cael ei guddio neu'i ddinistrio.
Ar ôl cofnodi cyflwr gwrthrych, gallwn fynd ati i weithredu'r triniaethau perthnasol. Mewn rhai achosion mae'n bosib rhwystro, neu o leiaf arafu, dirywiad pellach drwy ail bacio'r gwrthrych mewn deunyddiau di-asid a'i storio neu'i arddangos mewn amgylchedd sydd â'r tymheredd a'r lleithder cymharol priodol. Pan arddangosir gwrthrychau sydd mewn perygl o golli eu lliw, gellir eu gosod o dan olau gwan.
Gall gwrthrychau Hanes Cymdeithasol fod wedi'u gwneud o unrhywbeth, bron, ac fel arfer maent wedi'u gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau. Hyd yn oed os yw gwrthrych wedi'i wneud yn gyfan gwbl o bren, mae'n bosibl bod nifer o fathau gwahanol o bren wedi cael eu defnyddio.
Cyn cadw'r gwrthrych, rhaid gwneud profion i sicrhau na fydd y toddyddion a ddefnyddir yn toddi unrhyw ran o'r gwrthrych. Defnyddir cyn lleied ag sy'n bosibl o unrhyw driniaeth a ddewisir. Ni ddylai gwaith atgyweirio guddio unrhyw fanylion sydd ar y gwrthrych gwreiddiol. Rydym yn dilyn rheol y dylai sbesimen ymddangos yn gyflawn o bellter o 6 troedfedd 6 modfedd, ond dylid bod modd gweld y gwaith atgyweirio o'i archwilio'n fanwl.
Bydd pob agwedd o'r gwaith cadwraethol yn cael ei gofnodi. Golyga hyn bod hanes llawn y gwrthrych ar gael, ac y gellir cyfeirio ato bob amser. Mae'r cofnod hwn hefyd yn ychwanegu at ein gwybodaeth ynglŷn â'r modd y mae deunyddiau modern yn heneiddio, gan fod dyddiad pob triniaeth yn cael ei gofnodi.
Y cam olaf wrth drin unrhyw wrthrych yw sicrhau ei fod yn cael ei ddychwelyd neu ei osod mewn amgylchedd addas, gan leihau neu symud unrhyw beth a allai achosi'i ddirywiad neu ei ddifrodi. Mae arolygu'r amgylchedd a gofalu rhag plâu yn hanfodol.
Wrth i gasgliadau'r Amgueddfa gynyddu, felly hefyd y gwna'r angen am waith cadwraethol. Mae hyn wedi cynyddu'r pwyslais ar waith cadwraeth ataliol, er enghraifft lle mae newid bach i'r amgylchedd neu i arferion gweithio yn gallu bod yn fuddiol i nifer fawr o wrthrychau. Drwy ail-ystyried y modd y caiff gwrthrychau eu harddangos a'u storio, rydym yn gobeithio symud tuag at gadwraeth gynaliadwy.