Achub casgliad unigryw o arianwaith rhag y morthwyl
Yn 2000, clywodd Amgueddfa Cymru y byddai cannoedd o ddarnau o arianwaith prin, a fu ar fenthyg yn yr Amgueddfa ers i'w drysau agor am y tro cyntaf, yn cael eu dychwelyd a'u gwerthu.
Daw'r eitemau, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif, o gasgliad Syr Charles Jackson (1849-1923), cyfreithiwr a dyn busnes Cymreig. Yn ffodus, yn dilyn llawer o drafod a chodi arian, fe'u prynwyd gan yr Amgueddfa gyda chymorth sylweddol Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Casgliadau Celf Cenedlaethol a'r Worshipful Company of Goldsmiths.
Felly pam mae'r casgliad hwn mor bwysig?
Syr Charles Jackson
Ganwyd Syr Charles Jackson yn Nhrefynwy. Roedd yn un o grŵp o gasglwyr a hynafiaethwyr oedd yn cynnwys Robert Drane, T. H. Thomas a Wilfred de Winton. Gyda'i gilydd cawsant gryn ddylanwad ar ddatblygiad Amgueddfa Caerdydd. Fe chwaraeodd y grŵp ei ran hefyd i sicrhau mai Caerdydd fyddai lleoliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Trysorau Hynod
Mae rhai o'r gwrthrychau a gasglwyd gan Jackson o safon esthetig neilltuol. Mae'r eitemau prin yn cynnwys llwy pen mesen o ddechrau'r 14eg ganrif, sy'n un o'r darnau cynharaf o arian Seisnig i gael ei ddilysnodi, a set gyflawn o lwyau 'apostol' (deuddeg apostol ac un 'Meistr') o 1638.
Yr eitem bwysicaf mae'n debyg yw cwpan dwy-ddolen mewn arddull 'awriglaidd' (arddull addurnol o'r 17eg ganrif yn seiliedig ar rannau o'r corff, yn enwedig y glust ddynol, a roddodd yr enw i'r arddull) sy'n cael ei gysylltu â'r gof-arian Iseldirol Christian van Vianen, a oedd yn gweithio yn llys Siarl I. Mae dilysnod 1668 ar y cwpan, ac mae'n un o lond dwrn o ddarnau wedi'u gwneud yn Llundain yn yr arddull nodweddiadol hwn. Nid yw marc y gwneuthurwr wedi'i ddarllen eto, ond mae'n bosibl mai enw George Bowers neu Jean-Gerard Cooques sydd ar y gwaith, gan fod y ddau wedi gweithio fel eurychod yn llys Siarl II.
Darnau prin ysbrydoledig
Mae darnau anghyffredin, ysbrydoledig y casgliad yn cynnwys un o'r blaswyr gwin cynharaf, cwpan cymun Catholig o'r 17eg ganrif a wnaed yng Nghorc y gellid ei dynnu'n ddarnau er mwyn ei guddio, a stand inc ar ffurf glôb llyfrgell. Mae amrywiaeth eang gwrthrychau mwy cyffredin y casgliad, megis llestri halen a jygiau hufen, yn dangos esblygiad siapiau dros amser, ac yn dweud llawer wrthym am arferion cymdeithasol, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â bwyta. Mae'r gyfres ryfeddol o lwyau'n cynnwys bron pob math a gafodd eu gwneud dros gyfnod o 400 mlynedd.
Gwerth academaidd unigryw
Er bod y casgliad yn cynnwys nifer o wrthrychau prin a phrydferth, y rheswm pennaf dros ei gadw gyda'i gilydd yw ei werth academaidd unigryw.
Dau brif gyhoeddiad Jackson, sef English Goldsmiths and their Marks (1905) a The Illustrated History of English Plate (1911), yw sylfaen ysgolheictod arian modern. Ynddynt mae Jackson yn dibynnu'n helaeth ar ei gasgliad ei hun i egluro marciau a datblygiad arddulliau dros amser. Byddai'n gohebu â phrif gasglwyr ei gyfnod, ac mae ei gasgliad yn crynhoi'r wybodaeth am arian hanesyddol ym Mhrydain yn y 1900au cynnar. Mae'n ffynhonnell unigryw o ddeunydd cyfeiriol ac mae'n parhau hyd heddiw i fod yn destun ymholiadau cyson oddi wrth arbenigwyr arianwaith ledled y byd.
Mae casgliad Jackson hefyd yn cyfannu ac yn cyfoethogi casgliad rhagorol yr Amgueddfa o arianwaith hanesyddol, sy'n gysylltiedig â theuluoedd llywodraethol hanesyddol Cymru. Drwy brynu hanner casgliad Jackson, ar ôl iddo gael ei arddangos am wyth-deg o flynyddoedd, gyda'r tebygolrwydd y bydd gweddill y casgliad yn dilyn ryw ddydd, gall yr Amgueddfa ddatblygu ei rôl fel cartref un o'r prif gasgliadau astudiaeth o arianwaith hanesyddol.
Darllen Cefndir
Andrew Renton, 'Sir Charles Jackson (1849-1923)' yn Silver Studies - the Journal of the Silver Society, vol 19 (2005), 144-6