Cwpan o aur Cymru solet
Aur Cymru
Mae aur Cymru'n brin iawn. Gwnaethpwyd modrwyau priodas teulu Brenhinol presennol Prydain ohono, ond y gwrthrych mwyaf i gael ei wneud o aur Cymru yw'r copi o gwpan a roddodd Harri VIII i un o'i wragedd.
Y teulu cyfoethocaf yng Nghymru
Gwnaethpwyd y cwpan ym 1867 ar gyfer teulu'r Williams-Wynn o Riwabon yn Sir Ddinbych, gan ddefnyddio aur o'u gwaith aur eu hunain. Teulu'r Williams-Wynn oedd y teulu cyfoethocaf yng Nghymru ar y pryd. Roeddent yn enwog am eu cyfoeth, gan ei wario ar dai crand, paentiadau drud ac arianwaith. Mae llawer o'r rhain bellach yng nghasgliadau'r Amgueddfa.
Y Rhuthr am Aur Cymru
Mae nifer yn gwybod am y rhuthr am aur yn Califfornia ym 1848, ond nid oes llawer yn gwybod am y rhuthr am aur Cymru a ddigwyddodd ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Ym 1862 darganfuwyd aur ym Meirionnydd ac yn fuan wedi hynny agorodd Syr Watkin-Wynn (1820-1885) waith aur Castell Carn Dochan ar ei dir. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o'r aur o'r gloddfa hon rhwng 1865 a 1873.
Taliadau o Aur
Talwyd breindaliadau mawr i Syr Watkin am yr aur a gloddiwyd, a thalwyd ef gyda'i ingotau aur ei hun. Fodd bynnag, nid oedd angen yr incwm hwn arno gan ei fod mor gyfoethog, a gallai drin yr aur fel difyrrwch.
Cwpan o Aur Solet
Defnyddiwyd peth o'r aur i wneud cwpan ysblennydd. Mae'r cwpan yn 40cm o uchder ac wedi'i wneud o aur 22-carat. Mae arno'r ysgythriad "MADE OF GOLD THE ROYALTY FROM CASTELL CARNDOCHAN MINE 1867" yn ogystal â'r dilysnod R & S Garrard and Co., Haymarket, Llundain. Mae'n addurnol, yn y steil a oedd yn boblogaidd yng nghyfnod y Dadeni cynnar. Mae'n sefyll ar droed gron, ac mae ochrau'r goes wedi ei haddurno â phennau blodau, dolffiniaid a chlychau. Mae nifer o arwyddeiriau teuluol wedi'u hysgythru ar y cwpan: eryr eryrod eryri, y cadarn a'r cyfrwys, bwch yn uchaf a cwrw da yw allwedd calon. Mae arfbais Williams-Wynn ar y caead tal, ac arno hwrdd ifanc yn cael ei gynnal gan geriwbiaid ar y brig.
Cynllun Brenhinol ar gyfer Harri VIII
Fe seiliodd gwneuthurwyr y cwpan eu cynllun ar ddarlun sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig o gwpan a roddodd Harri VIII i'r Frenhines Jane Seymour ym 1536. Addurnwyd y cwpan â diemwntau a pherlau. Toddwyd cwpan Jane Seymour ar orchymyn Siarl I ym 1629, pan oedd yn brin o arian.