Syr Thomas Mansel o Fargam a'i wraig, Jane Yr Ysgol Brydeinig (17eg ganrif)Syr Thomas Mansel (1556–1631) a'i wraig, Jane, y Fonesig ManselOlew ar gynfas, 121 × 125 cmAmgueddfa Genedlaethol Caerdydd Dyma bortread dwbl, gyda llun tri-chwarter o Syr Thomas Mansel o Fargam, aelod o un o deuluoedd mwyaf cefnog y de ar y pryd.Fe wnaeth teulu'r Mansel o Oxwich ei ffortiwn ar ôl buddsoddi mewn tiroedd mynachaidd yn sgil Deddf Diddymu'r Mynachlogydd Harri VIII. Roedd Syr Thomas yn Aelod Seneddol dros Forgannwg. Etifeddodd gartref y teulu ym 1595, a adeiladwyd ar safle Abaty Margam, ger Castell-nedd.Yn ystod dau ddegawd cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg, fe wnaeth y genhedlaeth hon o'r teulu gomisiynu sawl portread yn y ffurf herodrol ffurfiol, fel y portread hwn. Nid cyfleu personoliaeth yr unigolyn oedd nod portreadau fel hyn, ond arddangos cyfoeth a statws cymdeithasol y teulu yn gyhoeddus. Thomas Mansel - archwilio'r baentiad Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddod i wybod mwy am y llun Dwylo Thomas Mansel Gwisg Barf Jane Gwisg Jayne Melyn Mair Dwylo Roedd portreadau dwbl yn boblogaidd yn y cyfnod ond byddent yn cael eu paentio'n aml i ddathlu cynyddu cyfoeth, statws a ph?er teulu trwy briodas, nid i ddathlu cariad. Peth anghyffredin oedd portreadu ystum cariadus, fel dal dwylo. Thomas Mansel Caiff Syr Thomas Mansel ei bortreadu fel g?r hyderus a nodedig. Erbyn hyn roedd yn un o ddynion cyfoethocaf a mwyaf dylanwadol De Cymru. Yn ogystal â gwasanaethu Morgannwg fel aelod seneddol a Siryf ar sawl achlysur, cafodd ei urddo hefyd yn farchog, ac ym 1611 ef oedd un o'r cyntaf erioed i dderbyn y teitl Barwnig. Gwisg Mae Syr Thomas yn gwisgo dwbled wen gyda choleri a chyffiau o les cain, a thiwnig dywyll ag arni frodwaith aur. Dim dyma'i ddillad bob dydd – cawsant eu dewis yn arbennig ar gyfer y portread, er mwyn dangos ei chwaeth a'i gyfoeth. Barf Cai barf ei ystyried yn brawf o wrywdod ac roeddent yn ffordd bwysig i ddynion arddangos eu ffasiwn. Gwisgai Thomas Mansel ei farf yn hir ac yn sgwâr. Jane Wrth i Jane Pole briodi Syr Thomas Mansel, daeth yn rhan o un o deuluoedd mwyaf pwerus De Cymru. Nid dyma'i thro cyntaf fodd bynnag – roedd hi wedi bod yn briod ddwywaith o'r blaen! Roedd priodi sawl gwaith yn gyffredin yn y 17eg ganrif gyda disgwyliad oes isel yn golygu taw byr fyddai sawl undeb Gwisg Jayne Mae'r Fonesig Jane yn gwisgo gwisg dywyll ag arni frodwaith aur, coler a phenwisg les gymhleth, a mwclis perlau tri llinyn yn ategu'r cyfan. Oes oedd hon pan cai ffasiwn newydd a deunyddiau moethus fel les eu mewnforio. Nid yw ei gwisg yn y ffasiwn ddiweddaraf, sy'n awgrymu chwaeth cenhedlaeth h?n. Melyn Mair Mae'r Fonesig Jane yn dal Melyn Mair. Gall hyn fod yn gyfeiriad at Mary eu merch sydd yn ymddangos gyda'i rhieni mewn portread arall sydd bron yn union yr un peth. Cai Melyn Mair ei ddefnyddio'n aml fel symbol o alar neu gysur, felly gallai fod yn gyfeiriad at farwolaeth ail ?r Jane. sylw - (6) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. JAMES CARTLEDGE 13 Ebrill 2022, 16:03 Hi I've been researching my family history and on my mother side I've found my 9th great grandfather was Thomas Mansell 1st baron mansell of margam., born 1667-1723. Also Thomas mansel talbot is my 1st cousin 8 x removed 1747-1813 , who I believe the town of port Talbot is named after. Very pleased to have discovered my south Wales family links. Regards from jim. Staff Amgueddfa Cymru 14 Gorffennaf 2021, 11:49 Dear Barbara, Many thanks for your interest in Thomas Mansel and his family. On our website you can find the following resource which gives a fuller history of the Mansel family of Margam and how they became wealthy, and situates the portrait in its wider historical context. You can find it here. Barbara Koch 19 Mehefin 2021, 13:27 How did the Penrice branch of the family prosper in the following centuries?How did Sir Thomas Mansel of Margam become the head of one of the wealthiest families in south Wales? Jennifer Dudley Staff Amgueddfa Cymru 19 Mai 2021, 11:30 Thank you for your comment. This work is part of National Museum Wales' collection and is currently on display in Gallery 5 of National Museum Cardiff. Sadly, this gallery remains temporarily closed for now. I believe the other work you are referring to is the Mansel Triple Portrait of c.1605, recently featured on the BBC documentary The Story of Welsh Art. I'm afraid I do not know which collection the triple portrait belongs to. Best wishes, Jennifer Dudley (Curator: Art Collections Management and Access, NMW) V. Thomas 21 Mawrth 2021, 22:59 This website does not say where this portrait can be seen, nor where the other Mansel portrait or portraits are. (eg one with their daughter). I would love to know having seen both in a recent television programme on Welsh art.I would be grateful for your help. Elissa 25 Tachwedd 2017, 01:00 Love this but can't see the comments about Jane (Jane or Jane's dress) because they are cut off. I'm using a laptop.