Gwres, Mwg a Dagrau - Gwaith Maurice Marinot
'Welais i erioed unrhyw beth mor brydferth, mor werthfawr ac eto mor syml’
(André Derain).
Maurice Marinot (1882-1960) yw un o wneuthurwyr gwydr pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Chwaraeodd ran flaenllaw wrth ddatblygu gwydr yn gyfrwng celfyddydol. Mae ei waith gwydr yn brin iawn, gan i gerbyd oedd yn cario arfau ffrwydro tu allan i’w stiwdio ym 1944 a dinistrio llafur ei oes.
Yn enedigol o Troyes, i’r de-ddwyrain o Baris, arlunydd ydoedd yn wreiddiol (Ffig. 1). Cafodd le yn un o ysgolion celf gorau’r brifddinas, ond cafodd ei ddiarddel am fod yn ‘anghydffurfiwr peryglus’. Yn arddangosfa hydref y Salon d’Automne ym Mharis, 1905, arddangoswyd ei baentiadau ochr yn ochr ag artistiaid gan gynnwys Matisse a Derain. Ond fe’i beirniadwyd yn hallt. Yn ôl y beirniaid, roedd gormodedd o liw, a rhoddwyd yr enw fauves i’r artistiaid, yr ‘anifeiliaid gwyllt’ (Ffig. 2).
Daeth tro ar fyd ym 1911. Ar ymweliad â ffatri wydr hen ffrindiau ysgol iddo, Gabriel ac Eugène Viard yn Bar-sur-Seine (Ffig. 3), daeth Marinot dan gyfaredd gwydr. Ac yntau ar dân eisiau dysgu holl gyfrinachau’r grefft, llwyddodd i berswadio’r brodyr i roi lle ac offer iddo weithio. Defnyddiodd ei sgiliau â brwsh paent i gychwyn, gan addurno darnau gwydr a wnaed gan eraill ag enamel llachar, trawiadol (Ffig. 4). Erbyn dechrau’r 1920au, roedd wedi meithrin digon o sgiliau i greu ei ffurfiau gwydr ei hun, a dechreuodd eu harddangos.
‘I fod yn wneuthurwr gwydr rhaid chwythu’r stwff tryloyw yn agos at y ffwrnais wyllt... gweithio mewn gwres a mwg llethol, eich llygaid yn llawn dagrau, eich dwylo yn llwch glo ac yn llosgiadau drostynt’
(Maurice Marinot, 1920).
Cynhyrchodd Marinot waith unigryw, y cyfan â llaw, ac yn ei lygaid ef, roedd yr un mor greadigol ac arwyddocaol â phaentiad neu gerflun (Ffig. 5). Mae gwydr Marinot yn ddwys, yn feiddgar ac yn arbrofol iawn, gyda phwyslais ar ffurf a diddordeb parhaus mewn effaith golau. Drwy weithio â gwydr, cafodd Marinot y cyfle i arbrofi’n fwy helaeth â lliw – o binciau ysgafn afloyw a phorffor cyfoethog, i liwiau gwyrdd clir a metalau sgleiniog (Ffig. 6). Gan ddwyn ysbrydoliaeth o fyd natur, ymddengys ei waith fel talpiau a dorrwyd o flociau iâ sy’n dadmer, a naddwyd o wenithfaen neu a lenwyd gyda dŵr o bwll budr (Ffig. 7).
Bu gyrfa gwydr Marinot yn brysur ac yn hynod o lwyddiannus, ac eto, bu’n gymharol fer. Ym 1937, wedi i’w iechyd dorri ac ar ôl i dân ddinistrio’r ffatri wydr, penderfynodd roi terfyn ar y gwaith wedi 26 mlynedd o arbrofi. Mae ei waith hynod yn parhau i ddylanwadu ar artistiaid gwydr hyd heddiw.
Ym 1974, rhoddodd Florence Marinot, merch yr arlunydd, waith celf i Amgueddfa Cymru. Dewisodd Florence roi’r gwaith i’r amgueddfa hon oherwydd y casgliadau cyfoethog o baentiadau Ffrengig modern sydd yma. Dim ond tri chasgliad arall yn y DU ac Iwerddon sydd â gwaith gan yr artist: Amgueddfa Fictoria ac Albert, Amgueddfa New Walk yng Nghaerlŷr ac Oriel Genedlaethol Iwerddon.
Gyda diolch i’r Dr P. Merat am ganiatâd i atgynhyrchu delweddau o’r gwaith. Yr holl ddelweddau © Dr P. Merat.
sylw - (3)
Hello it is nice to write to you. My name is Paul, I was wondering if could provide further bibliographic information(article title, periodical/newspaper published in, language et al) for the Maurice Marinot quote featured in the article:"To be a glassman is to blow the transparent stuff close to the blinding furnace…to work in the roasting heat & the smoke, your eyes full of tears, your hands dirtied with coal-dust & scorched..." Yes, please, if you could provide any further detailed bibliographic information regarding the original source of this quote it would be greatly appreciated. Thank you very much ahead of time for the consideration,