Cyfraniad Cymru at dŵf ymerodraeth forwrol Prydain

Oliver Fairclough

Mae gan Amgueddfa Cymru ddau bortread sy’n dangos rôl Cymru yn natblygiad ymerodraeth forwrol Prydain yn y ddeunawfed ganrif. Paentiwyd y lleiaf o’r rhain oddeutu 1764 ac mae’n bortread llawn (54.5 x 42.6 cm) o William Owen (1737-1778). Paentiwyd yr ail yn Canton, Tsieina oddeutu 1791 ac mae’n bortread o John Jones (1751-1828), Capten yn gwasanaethu’r East India Company.

William Owen

William Owen (1737-1778)

Ganwyd William i deulu cefnog Owens of Cefyn-yr-Hafodau yn Sir Feirionydd. Roed bywyd ar y môr yn beryglus, a gwneud gyrfa ohoni yn waith caled oed yn galw am dylanwad yn ogystal â thalent. Roedd yn yrfa addas i ŵr bonheddig, fodd bynnag, nad oedd yn gofyn am fuddsoddiad ariannol mawr gyda phosibilrwydd hefyd o wneud ffortiwn o gipio trysor a gwobrwyon.

Byddai’n rhaid i deuluoedd berswadio Capten i groesawu eu mab i’w griw fel ‘gŵr bonheddig ifanc’ er mwyn ennill y chwe mlynedd o wasanaeth fyddai’n rhaid eu cwblhau i gymhwyso fel Is-gapten. Derbyniodd tad William eirda gan Ysgrifennydd y Morlys a roddodd y bachen yng ngofal ei fab-yng-nghyfraith. Gwasanaethodd William yng Ngorllewin Affrica ac India’r Gorllewin cyn hwylio am India ym 1754. Roedd ei saith mlynedd yn yr is-gyfandir yn rhai prysur gyda Phrydain mewn rhyfel â Ffrainc.

Ymladdodd William ar y tir ym Mrwydr Plassey yn ogystal ag ar y môr, a chael ei anafu gan belen mysged. Fe’i dyrchafwyd yn Is-gapten ym 1758, ac roedd yn rhan o’r gwarchae ar harbwr Pondicherry lle cafodd ei anafu drachefn wrth ymosod ar ddwy long Ffrengig.

Gwelir Owen yn lifrau Is-gapten yn y Llynges Frenhinol (patrwm 1748-1767). Esboniodd mewn cofnod o’i wasanaeth sut iddo golli rhan o’i fraich dde wrth ymosod ar ddwy long Ffrengig dan ynnau Pondicherry:

'on the night of 7 Oct 1760 he [was] ordered to cut out the French ships La Baleine and Hermoine from under the guns of Pondicherry, … [when] he had the misfortune to have his right arm shot off … by a Cannon Ball.

Dychwelodd Owen i Brydain ar hanner cyflog ar ddiwedd y rhyfel ym mis Tachwedd 1762. Prin oedd y cyfle am ddyrchafiad mewn cyfnod o heddwch ac ym 1766 hwyliodd i Nova Scotia gyda’r Arglwydd William Campbell, oedd newydd gael ei benodi’n llywodraethwr. Rhoddodd Campbell ynys iddo ym Mae Passamaquoddy (rhwng New Brunswick a Maine) ac erbyn 1771 roedd 73 o bobl wedi ymsefydlu yno. Dychwelodd i Brydain wrth i ryfel Sbaen gorddi, ond rhaid oedd aros tan 1776 cyn derbyn comisiwn unwaith eto a hwylio am India. Daeth dyrchafiad i’w ran i swydd Comander y slŵp HMS Cormorant. Yn anffodus, ni welodd William ddiwedd y rhyfel – cafodd ei ladd mewn damwain feddw y Madras yn Hydref 1778.

John Jones

John Jones (1751-1828)

Ganwyd John Jones i deulu dosbarth canol yn Abertawe ym mis Awst 1751. Daeth yn brentis morwr masnachol cyn gwasanaethu ar un o longau’r East India Company, Queen, ar fordaith i Madras a Tsieina ym 1770-1772. Wedi dychwelyd ymunodd â’r Llynges Frenhinol. Roedd heddwch ym Mhrydain ym 1773 ac mae’n debyg iddo ymrestru er mwyn gwella ei statws cymdeithasol a phroffesiynol. Roedd o ddosbarth is na William Owen ac fellu bu’n gwasanaethu fel Meistr (gwarantswyddog yn gyfrifol am fordwyo) cyn derbyn comisiwn Is‑gapten ym 1782 ar ddiwedd Rhyfel America. Heb swydd ar ddiwedd y rhyfel, ymunodd â’r East India Company gan wasanaethu am bymtheg mlynedd. Ef oedd Mêt 1af y Carnatic ym 1786-7, a Mêt 1af y Deptford ym 1787-9. Yn y pen draw fe’i penodwyd yn Gapten un o longau’r cwmni, Boddam, gan hwylio dair gwaith i Tsieina ym 1791-2, 1793-4 a 1800-1.

Mae ei lyfr cyfrifon personol o fordaith gyntaf y Boddam wedi goroesi ac yn dangos iddo fuddsoddi £11,000 mewn nwyddau i’w gwerthu ym Madras a Canton (gan gynnwys haid o gŵn hela) gan wneud elw personol o bron i £4,000. Defnyddiodd yr arian hwn i brynu gwerth £7,500 o nwyddau lleol yn Canton, fyddai wedi’u gwerthu am fwy o elw yn Llundain.

Paentiwyd ei bortread gan Guan Zuolin, artist o Tsieina oedd yn gweithio yn Canton rhwng 1770 a 1805. Roedd yn arfer y dull flat, clir, Ewropeaidd o baentio mewn paent olew wedi’i deneuo â dŵr. Ym 1794 prynodd Jones Dŷ Sain Helen uwchlaw Bae Abertawe a comisiynodd y pensaer William Jernegan i’w ailadeiladu fel fila neo-glasurol. Mae golygfa o’r tŷ ym 1800 yn ei ddangos mewn glaswelltir gyda cheffylau, gwartheg a defaid John Jones yn pori. Treuliodd ymddeoliad cyfforddus yno tan ei farwolaeth mewn damwain cerbyd ym 1828.

Dŷ Sain Helen

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Gemma Symes
5 Mehefin 2016, 11:41
Hello

Captain John Jones is my great (times 5) Grandfather on my mother's side. We are researching our family history and it would be fantastic if you had anymore information on him such as his relations, work history etc. That we could use to build a better picture of him.

Please could you contact men on the email address provided.

kind regards

Gemma