Tafodiaith Blaenpennal, Ceredigion

Nodweddion cyffredinol

O wrando ar y darn hwn, mae’n annhebyg y byddai neb yn cynnig mai o’r Gogledd y deuai Mrs Evans. Eto i gyd, mae nifer o nodweddion yn ei hiaith sydd nid yn unig yn ei chlymu â chyrion y De-orllewin ond hefyd yn awgrymu cysylltiad â’r Gogledd.

I O ran yr eirfa:
i Â’r De yn gyffredinol y cysylltir biti ‘tua’, ffwrn, pownd ‘pwys’, ac — yn wahanol i Mr Thomas o Garno — fe yw’r unig ffurf ar ‘ef’.
ii Ar y llaw arall, gogleddol yw allan a byrdde.

2 Ymddengys fod nifer o nodweddion yr acen yn sefydlog, e.e.
i hw, yn hytrach na chw, a geir yn hwech ‘chwech’.
ii e a geir mewn geiriau fel bydden ‘byddem’, nosweth ‘noswaith’, a llorie ‘lloriau’

3 Mwy cyfnewidiol yw eraill o nodweddion yr acen: mae’r rhain i bob diben yn ddeheuol ond dangosant hefyd fod y dafodiaith ar gyrion eithaf y Gogledd:
i mae’r dafodiaith i bob diben yn ddi-u, ond fe glywir u mewn rhai geiriau prin; enghraifft yn y darn hwn yw neud.
ii ansawdd yr l: clir ydyw fel rheol, ond ceir l dywyll y Gogledd hefyd yn achlysurol e.e. fel.
iii i o flaen terfyniadau: mae cneifo a padelled ‘padellaid’ yn ddeheuol, ond gogleddol yw meddyliwch.
iv h: fe’i ceir yn hapus, hanner, a honno, ond nid yn ’anner.

4 Nodwedd a gysylltir yn benodol â’r De-orllewin yw’r y dywyll mewn geiriau unsill: yr unig enghraifft yn y darn hwn yw tyns ‘tuniau’. Ar gyrion yr ardal sydd yn defnyddio y dywyll mewn geiriau fel mynd, byth, a pymp ‘pump’ y mae Blaenpennal, ac felly nid annisgwyl clywed i yn mynd a pump.

5 Sylwer yn arbennig ar y seiniau sydd yn cyfateb i ‘ae’ ac ‘oe’ yr iaith ysgrifenedig:
i llafariad seml, â, sydd yn mlân ‘ymlaen’, ond
ii deusain, oi, sydd yn erioed a poeth.

Y Recordiad

Enghraifft o dafodiaith Ceredigion. Ganed Mrs Elizabeth Evans o Flaenpennal ym 1900. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Ond dyna pinacl y flwyddyn odd y...

Y cneifo. On ni’n edrych mlân ato fe.

Och chi? Odd y gwaith ddim yn ych poeni chi?

O nag odd, odd e ddim yn poeni o gwbwl. Nag odd. On ni’n hapus yndo fe.

Bydden nw yn glanhau’r tŷ yn arbennig cyn yr adeg hyn nawr?

O bydden! O, sgwrio! Wel, wel! A’r nosweth, nos Sul cyn cneifo on ni ddim yn mynd i’r gwely. On ni’n... y... yn... y... golchi’r llorie a neud y byrdde’n barod i’r bugeilied fyn’ allan, chi ’bod. Neud te a cig a phethe
felny iddyn nw. On nw’n byta fe biti dau o’r gloch y bore, cyn eusen nw allan.

Pan on nw’n myn’ i gasglu’r defed?

Casglu’r defed, ie. le, ie. Nuson nw erioed gasglu’r defed ar nos Sul. Naddo.

Mynd ar ôl hanner nos?

Ar ôl hanner nos. Dou, dri ar gloch wedwch chi. Fel bydde’r wawr yn dechre torri pan fydden nw ar y top. Ie.

Wel nawr, ŷn ni’n son am y bwyd, faint o fara fyddech chi’n neud och chi’n gweud? Och chi’n dechre ar ddy’ Llun...

Oen. Wel odd y ffwrn yn cymryd...ŵ... dorthe mowron, deg torth fawr, fel... on ni’n neud e mewn tyns mawron chi ’bod. Deg.

A deg bob dyrnod nawr?

le. Bob dwrnod. Neud ’run faint bob dwrnod.

Och chi’n crasu wedyn dy’ Llun, dy’...

Dy’ Mawrth, dy’ Mercher, a bennu dydd Iau. Ie.

A pa fara och chi’n neud wedyn?

Dim on’ bara gwyn. Ie, ie.

A beth am y gacen? Pryd och chi’n dychre neud honno?

On ni’n neud honno fel ar ddy’ Mercher cyn y dy’ Llun wsnoth cyn y cneifo.

Fel bod ’i’n cal cadw...

le, cadw a bod ’i’n... wedi seto. le.

Odd hon yn gacen arbennig.

O, oedd ’i’n gacen neis. Cacen îst.

Beth och chi’n rhoi yndi nawr ’te?

Wel, lard a fat... digon o fat cig moch amser ’ny. Cyrens, resins, siltanas, wie...

Odd ’na ryw bwyse... Och chi’n roi ryw... y... chi’m ’bod?

Nag odd. Plain fflŵr. Fflŵr plaen, ie.

Faint o bob peth och chi’n roi? Odd ’da chi ryw...?

On ni’n rhoid fel... wel, wedwch chi sawl pownd o fflŵr nawr? O, allwn i’m... alla i’m a gweud nawr. Ond on ni’n rhoid fel... ’con ni’n rhoid... ym... Odd ’i ryw bump cacen fawr, tynen fawr. ’Co ni’n rhoi hwech tyne... ym... o, ’roswch chi gal gwel’. Wel meddyliwch chi bo’ rhoi hwech pownd
o fflŵr. On ni’n rhoi ryw bedwar i bump o... cyrens, a rhyw bedwar i pump o shwgwr. Rhyn y cyrens a’r syltanas a phethe. Ond... O! Odd ’i’n fwy na ’ynny wi’n shŵr ’efyd.

A faint o wie wedyn?

O! Wel, on ni’m yn edrych! Odd rhoi padelled fawr o rini wedyn. Oen.
Dwsin i jyst ddwsin a ’anner. Oen.

Och chi’n neud y cyfan yr un pryd wedyn?

O oen! Y cwbwl ’run pryd. Oen. Ond y job odd ’i ar y gacen, pido rhoid y ffwrn ry boeth. Odd tipyn mwy o waith wrth y gacen na wrth y bara.

Nodiadau

hwech pownd o fflŵr

tyns mawron

Ceir enghraifft arall o ffurf luosog i’r ansoddair mawr yn y recordiad o Ben-caer.

bennu ‘gorffen’

Ffurf ar dibennu yw hon, wrth gwrs, gair sydd yn nodweddiadol o’r De-orllewin. Gorffen a geir drwy’r Gogledd ond ceir hefyd diwedd (heb yr -u arferol) yn nwyrain y Canolbarth a phen uchaf Ceredigion. Cwpla a geir yn y De-ddwyrain, a’r amrywiad cwplo yn nwyrain Morgannwg.

wsnoth ‘wythnos’

Sylwer ar y trawsosod yn y gair hwn, sydd yn nodweddiadol o rannau o’r De-orllewin. Wsnos yw ffurf arferol y Gogledd; tuedd y De-ddwyrain a rhannau helaeth o’r De-orllewin yw dweud wthnos.

îst

Gair benthyg amlwg yw hwn o’r Saesneg ond wrth ei dderbyn i’r Gymraeg addaswyd ei ddechreuad i gydymffurfio â phatrwm y Gymraeg. Yn y Saesneg ceir ‘i gytsain’ ddechreuol (fel yn y geiriau Cymraeg a iawn) a’i dilyn gan ‘î lafarog’ (fel yn hir a gwin y Gymraeg). Nid oes yr un gair brodorol Cymraeg yn dechrau â’r olyniad i gytsain + î lafarog; felly addaswyd y patrwm i gydweddu â phosibiliadau’r Gymraeg drwy golli’r i gytsain. Enghraifft debyg yw’r berfenw ildio, sydd yn cynnwys y Saesneg yield.

Olyniad arall a geir yn y Saesneg ond sydd yn estron i’r Gymraeg yw w gytsain + ŵ lafarog; fe’i haddaswyd yntau mewn modd tebyg wrth fenthyg geiriau: drwy golli’r elfen gytseiniol ddechreuol. Fe’n hatgoffir yn rheolaidd o’r broses hon gan gyfeillion inni o’r Gogledd sydd yn byw mewn lle yng Nghaerdydd a alwant yn Cwinswd, sef — yn swyddogol — Queenswood, ac yn mynychu tafarn yr Wdfil (Woodville).

cig moch

Ceir y term hwn drwy’r wlad ond yn y Gogledd mae’r gair Saesneg bacwn neu becn yn cystadlu ag ef. Er na chynhwyswyd y geiriau hyn yn LGW, fe geir map yn dangos dosbarthiad y termau cig eidion a bîff. Yr hyn a welwn yn yr achos hwn yw hod y term Cymraeg i’w gael bron yn gyson drwy’r De tra bo atebwyr y Gogledd bron i gyd wedi cynnig y gair Saesneg.

fflŵr ‘blawd’

Gair y De-orllewin yw hwn, wedi ei fenthyca o’r Saesneg. Yn y De-ddwyrain y gair arferol yw can ac yn y Gogledd dywedir blawd.

Ansoddair oedd can yn wreiddiol, yn golygu ‘gwyn’: fe’i ceir yn y berfenwau cannu ‘gwynnu’, a caneitio neu cneitio, a ddefnyddir mewn rhannau o’r Gogledd wrth gyfeirio at dywynnu’r sêr a’r lleuad mewn ymadroddion fel Mae’r sêr yn cneitio’n arw heno.

Yn yr ymadroddion blawd can ‘blawd gwyn’, a gofnodwyd yn nwyrain Morgannwg, a fflŵr can, a geir ym Mhenfro (gweler S Minwel Tibbott, Geirfa’r Gegin), mae can yn dal i fod yn ansoddair. Mae’n ddigon tebyg mai ffurfiau fel y rhain a geid yn gyffredinol drwy’r De-ddwyrain ar un adeg. Ond yn y De-ddwyrain aeth can i olygu’r blawd ei hun ac erbyn hyn nis defnyddir fel ansoddair yn y tafodieithoedd.

pownd ‘pwys’

’con ni ‘ac oeddem ni’

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.