Tafodiaith Ffynnongroyw, Dwyrain Clwyd
Nodweddion cyffredinol
Enghraifft o iaith yr hen Sir y Fflint. Un o nodau amgen y dafodiaith yw ei goslef, un o’r nodweddion ieithyddol anhawsaf ei disgrifio ond y gellir ei chlywed yn amlwg ar y tâp. Nodweddion diddorol eraill yw:
I Dull y dafodiaith o ddefnyddio gan i ddynodi meddiant, ac y ceir sawl enghraifft ohono yn y darn:
odd ’i’n deud bod Anti ddim gyn newid
dwi’m yn meddwl bod yr... athrawon gyn ddim llawar o awydd
odd y dafarn yna gyn cae
dwi’n dal i fod gynni.
2 Er bod Ffynnongroyw ymhellach i’r dwyrain na Llansannan, tafodiaith-a sydd gan Onesimus Davies ac nid tafodiaith-e fel Sam Davies; cf. adag ‘adeg’, dynas ‘dynes’, pentra ‘pentref’, a rhedag ‘rhedeg’. Am fod y pentref yn y llain denau o diriogaeth a sydd yn ymestyn ar hyd arfordir y Gogledd-ddwyrain y mae hyn.
Tystia bwceded ‘bwcedaid’ a pethe ‘pethau’, fodd bynnag, nad yw’r dafodiaith yn gwbl ddi-e. Dengys yr enghreifftiau hyn un o dueddiadau’r dafodiaith, sef cadw e yn y sillaf olaf pan fo e arall yn y goben.
Y Recordiad
‘Na’ i ddeu’ ‘thych chi be’ on ni yr adag yna yndê, Ffynnongroyw. Wel Ffynnongroyw ydi... dach chi’n gwbod be’ ma... mae’n feddwl, yntê, bo’ gynnon ni ffynnon yma. A mi odd ‘i’n groyw. Ag odd y ffynnon... dyma Well Lane, man nw’n galw... dach chi’n gweld? /Ydw./ Wel yn ganol y pentra, i lawr yn Well Lane ‘ma, mi o ‘na ffynnon. Mae ‘i yna rwan, ond bo’ nw ‘di châ hi fyny. A dwi ‘di bod yn deu’th y cownsils ‘ma, ond man nw yn deud bod nw’n mynd i ail ‘i hagor ‘i. A ma’ ‘i’n ffynnon sy ‘di bod yn rhedag ar hyd yr oesoedd. A dena odd yn job mwya ni odd cario dŵr. Ag on i’n cario i ‘nghartre fi, yndoedd, ag on i’n cario i ddau ne dri o gartrefi erill, ag on nw’n rhoid ceniog. On i’n lwcus yn câl ceniog.
Ond dwi’n cofio on i’n canu... on i’n cario glo i rw hen ddynas yn ganol y pentra ‘ma, ag odd ‘i yn rhoid ceniog imi. On i’n mynd i ‘nôl bwceded iddi bob yn ail dwrnod. Odd un bwcied yn gneud iddi am... A dwi’n cofio un dwrnod
iddi ddeu’ ‘tha i bod... on’ chwrs, on i’n galw ‘i’n anti, on’ Mam.. rw dipyn o ffrynd odd ‘i i Mam. Ag odd ‘i’n deud bod Anti ddim gyn newid y bora Sadwn ‘na. A fasa ‘i’n rhoid rhwbath imi i gofio amdani. Ag ‘aru rhoid celiog imi. ‘Na i ddangos o ichi ar ôl inni ddarfod. Mae o yna. Ag ‘aru roid — giâr odd ‘i ar nyth botyn. A ma raid bod... O, ma raid bod hi’n hen. Ond dwi’n dal i fod gynni yma. Dw’m yn meddwl bod hi’n... na, ma ‘i yn y cwpwr’ arall. Ma ‘i yn...fan yna.
Odd gynnach chi gêms i chware yn blant? Yn wahanol i be’ sgynnan nw heddiw?
Nag oedd. Dwi’m yn meddwl. Nag oedd. Odd pethe ddim felly. Odd... a dwi’m yn meddwl bod yr... y... athrawon gyn ddim llawar o awydd hefo
gêms i ni. Beth bynnag on ni’n bigo on ni’n bigo fo fyny’n hunin, yndoedd? On ni gyn tîm bach yn yr ysgol ‘ma —football. On’ ‘na’ i ddeu’
‘thych chi, o’ gynnan ni ar’ yn yr ysgol ‘ma, i lawr y ffor’ bach ‘ma rwan. Ag... y... o’ ‘na gwmpas ugian ohonan ni. Ma’ ‘na’ i lun ohonyn nw. A
deud y gwir yntê, ôs ‘na ‘blaw rw... dwy’n barnu, on’ ôn i’n sbia arno fo
‘chydig wsnosa ‘nôl, ddangos o i rŵun. A dwi’n barnu a ôs ‘na ‘blaw rw bedwar ohonan ni’n fyw...
‘Na’ i ddeu’ ‘thach chi be’ odd ar fynd pen on i’n blen..., pen on i’n hogyn. Y coits. On nw’n chware coits. A dwi’n mynd yn d’ôl ‘wan i’r dyddia y
streic cynta... y... glowyr ‘ndê. Nineteen twenty six. A dwy’n cofio on nw’n cal... y... competitions, chimod. Oedd. Ag on nw’n chwara y coits ‘ma... rhan fwya... Ma ‘na dafarn yn ben y pentra ‘ma rwan, y Crown, ag odd y dafarn yna gyn cae. Ag on nw’n chwara yn y cae — y Crown ‘ma. Ag odd y Miners’ Welfare gyn cae yn pen yma o’r pentra. Ag on nw’n chwara competitions. Dwi’m yn gwbo’ be’ odd y wobr yndê, dwi’m yn gwbod. Ma’n shŵr rw sŵllt ne ddau odd i’r enillwr yndê. Ond odd y gofaint, chi’n gweld, yn gneud y coits ‘ma iddyn nw. Darna o huarn crwn oddan nw’n tê.
Nodiadau
ail ’i hagor ’i
Er bod cystrawennau fel hanner ’i lladd (h)i a newydd ’i hagor (h)i ar arfer drwy’r wlad, dieithr i glust y deheuwr yw ail ’i hagor (h)i. Yn y De, cyfansoddeiriau yw cyfuniadau fel ail agor ac ail godi ac felly daw rhagenwau fel ei o flaen y ffurf gyfan, e.e. ’i hail agor hi. Yn y Gogledd, ar y llaw arall, ni cheir perthynas mor glos rhwng ail a berfenwau ac felly — fel y dengys yr enghraifft hon, ac yn debyg i’r hyn a geir pan fo elfennau eraill fel newydd yn rhagflaenu berfenw — o flaen y berfenw y daw unrhyw ragenw blaen.
dena ‘dyna’ /
Ffurf ardal-a ar dene, sef y ffurf gyfatebol mewn ardal-e.
yndoedd ‘onid oedd’
Un o brif swyddogaethau atodeiriau fel hwn yw sicrhau bod y gwrandawr yn dilyn rhediad sgwrs drwy ofyn iddo gytuno â’r siaradwr. Atodeiriau di-ferf (fel felly ac yntê) sydd yn y darnau o Gaernarfon a Llansannan, ond pan fo’r atodair yn cynnwys berf disgwylir iddi gytuno â pherson a rhif yr hyn y cyfeiria ato. Disgwylid yma, felly, ffurf lafar ar ‘onid oeddwn’. Yn iaith yr ardal hon, fodd bynnag, ymddengys fod yndoedd wedi ymgaregeiddio yn ffurf gyffredinol. Ceir enghraifft arall isod: on ni’n bigo fo fyny’n ’unin yndoedd, ac un hefyd yn y darn o’r Rhos.
rhoid ‘rhoi’
Ffurf lafar gyffredin; ceir enghreifftiau hefyd yn y darnau o Lannerch-y-medd, Bryn-crug, a Blaenpennal.
ceniog ‘ceiniog’
Ffurf gyffredin yn y Gogledd-ddwyrain a’r Canolbarth: Gair arall y ceir e ynddo yn y goben yn hytrach na’r ei ddisgwyliedig yw celiog ‘ceiliog’.
dynas ‘dynes’
‘A N. Walian vulgarism which has found its way into recent literature’ oedd dyfarniad SyrJohn Morris Jones am y ffurf hon yn ei Welsh Grammar. O ganol yr l6g y daw’r enghraifft gyntaf o’r gair a ddyfynnir yn GPC ac awgrym pellach mai ffurfiad cymharol ddiweddar ydyw yw’r ffaith nad oes eto ffurf luosog iddo. At ei gilydd, yn lleol y defnyddir dynes ac anaml y clywir y gair na’i weld mewn cyd-destunau ffurfiol. Y mae statws cymharol dynes y Gogledd, felly, yn debyg i eiddo menyw y De.
Er gwaethaf y condemnio a’r diffyg lluosog a statws, ysbrydolwyd rhyw Arfonwysyn i lunio’r enw persain dynas benfelan ar yr aderyn y gelwir y benfelen, llinos benfelen, drinws felen neu melyn yr eithin arno mewn ardaloedd eraill.
anti
Fel yr esbonia Mr Davies, nid at berthynas o waed y mae’n cyfeirio ond at gymdoges a oedd yn gyfeilles agos i’r teulu. Mewn nifer o ardaloedd eraill ceir ffurfiau anwes ar modryb yn enwau ar wraig o’r fath: dodo a bodo yn y Canolbarth a’r Gogledd-ddwyrain, a’r ail ffurf yng Ngheredigion hefyd, bopa ym Morgannwg, a boba gynt yng Ngwynedd.
Prin erbyn hyn yw’r defnydd o modryb a’r ffurfiau anwes yn y tafodieithoedd: yr enw Saesneg sydd yn gyffredin ym mhob ardal. Fe glywir bopa o hyd mewn ambell fan yn y De-ddwyrain, fodd bynnag, yn enw gan blant ifainc ar gyfeilles neu gymdoges hŷn. Anaml y clywir ewyrth (a phrinnach fyth yw’r ffurf anwes ewa): disodlwyd yr enw hwn gan yncl yn y Gogledd ac wncwl yn y De.
bod hi
Sylwer mai’r hyn sydd ar y tâp yw boti. Dyma ffurf nodweddiadol ogleddol: yr hyn a glywn yn y t yw canlyniad ymdoddi’r d a’r h yn llwyr. Ceir enghraifft arall isod, ll.19, a hefyd un yn y darn o Fryn-crug, lle y ceir rhouti ‘rhoi(d) hi’. Digwydd y cyfnewid yn gyffredin pan fo d ddiweddol yn rhagflaenu h — cf. ’i thati ‘ei thad hi’, ’i gwelti ‘ei gweld hi’ — a cheir datblygiad tebyg pan ddaw b ac g ar ddiwedd geiriau ac h yn eu dilyn, e.e. ’i mapi ‘ei mab hi’, ’i checi ‘ei cheg hi’. Am mai apelio at y glust y mae barddoniaeth y ceir enghreifftiau o’r cyfnewid mewn cynghanedd, e.e. ‘Gair teg a wna gariad hir’.
potyn ‘tsieni, tsieina’
Sonnir hefyd yn yr ardal am ŵy potyn (ŵy addod mewn rhannau o’r Gogledd, wi addo mewn rhannau o’r De, wi promish neu nythwi ym Morgannwg), sef ŵy tsieina a roddir yn y nyth i ddenu’r iâr i ddodwy. Nodweddiadol o Saesneg Gogledd Lloegr yw defnyddio pot i olygu llestr pridd; dyma, felly, enghraifft benodol o ddylanwad y math hwnnw o Saesneg ar Gymraeg y cylch hwn.
ar’ ‘gardd’
Ys nodwyd eisoes, Pennod 3, t.46, cyffredin yw colli’r dd ddiweddol o glwm rdd. Sylwer sut y mae’r llafariad wedi hwyhau.
ma ’na’ i lun ‘mae gennyf lun’
Os ’na ’blaw rw bedwar ‘Nid oes ond rhyw bedwar’
Enghraifft yw hon o’r defnydd hynod o heblaw yn y Gogledd-ddwyrain lle y tuedda ardaloedd eraill i ddewis ond. Ceir enghraiftt arall yn y dam o Lansannan;
Glywis i ddim am hwnnw blaw ar y dydd cynta o Ebrill
Odd o ’blaw sbort, wyddoch chi
Dwi’m yn cofio gweld neb o Helygain ’te; oddan nw
’blaw jest ciwad o’r Mynydd y Fflint ’ma
dwi’n mynd yn dôl
Ceir tystiolaeth fod defnyddio mynd yn dôl mewn cyd-destunau fel hyn nad ydynt yn cyfeirio at ail berson yn bosibl mewn sawl ardal yn y Gogledd, ond ymddengys fod y gystrawen yn arbennig o gyffredin yn y Gogledd-ddwyrain; Dewis ardaloedd eraill a’r iaith safonol fyddai mynd yn ôl.
Y mae’n debyg mai ffrwyth camrannu yw yn dôl. Er mwyn olrhain datblygiad y ffurf rhaid cyfeirio yn gyntaf at un o’r gwahaniaethau rhwng cystrawen yr arddodiad cyfansawdd yn ôl yn y De a’r Gogledd. Yn y De, trafodir yn ôl fel uned nad oes angen ychwanegu rhagenw ati; yn y Gogledd, y duedd yw ychwanegu rhagenw. Cymharer y brawddegau canlynol:
Rwy’n mynd yn ôl
Rwy’n mynd yn f’ôl
Fyddwch chi’n dod yn ôl?
Fyddwch chi’n dod yn eich ôl?
Aeth yn ôl
Aeth yn ei ôl
Rhaid iti fynd yn ôl
Rhaid iti fynd yn d’ôl
O addasu ffurf ambell air byddai’r frawddeg gyntaf ym mhob un o’r parau uchod yn dderbyniol rnewn unrhyw dafodiaith (gan gynnwys yr iaith safonol). Mewn tafodieithoedd gogleddol yn unig y byddai’r ail frawddeg ym mhob pâr yn ddilys. Yn yr enghraifft olaf defnyddir y rhagenw dy yn yn d’ôl am mai at ti y cyfeirir. O fynych ddefnyddio yn d’ôl mewn cyd-destunau o’r fath, fodd bynnag, dechreuwyd ystyried mai’r elfennau oedd yn + dôl. Gellid, felly, ddefnyddio dôl fel yn yr enghraifft yn y darn hwn heb ymwybyddiaeth mai at ti y cyfeiriai.
Ffurf debyg yw Dewyrth, y gellid ei defnyddio gynt yn y Gogledd yn enw ar ewythr heb gyfeirio yn benodol at ti, e.e. Dewyrth i ydi o ‘Fy ewythr i ydyw’. (Gweler ymhellach y dyfyniad o waith William Phillips ar ddechrau’r darn nesaf.)
Ceir enghreifftiau o bob rhan o’r wlad o gamrannu yng nghyd-destun y fannod, yr, ac enwau. Enghreifftiau yw:
yr hiniog > y rhiniog
Yr Achub > Rachub (lle yn ymyl Bangor)
y rholbren > yr holbren (Y Gogledd; Y Rhos)
yr ig > (y) rig (Y De)
yr heol > y rhewl (‘buarth’ yn y Gogledd, ‘ffordd’ yn y De