Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Menywod
Er taw dynion oedd y mwyafrif o'r gweithwyr diwydiannol, roedd menywod yn bwysig iawn i'r cymunedau mudol. Yn aml iawn, byddai'r dynion yn teithio i wlad newydd ar eu pennau eu hunain i gael gwaith a sefydlu cartref. Byddai'r gwragedd a'r plant yn dilyn wedyn. Yn y cyfamser, bu'n rhaid i'r gwragedd gynnal eu hunain a'u plant. Roedd menywod yn amlwg iawn yn y gwaith o drefnu gweithgareddau cymunedol fel Eisteddfodau, addysg a diwygiadau cymdeithasol.
Roedd rhai menywod yn gweithio ym maes diwydiant. Yng Nghymru, cyfogwyd llawer o fenywod mewn gweithfeydd tunplat. Ym 1895 cyfogodd gweithfeydd Tunplat Monongahela yn Pittsburgh, Pennsylvania ymfudwraig o Gymru o'r enw Hattie Williams i hyfforddi menywod i wneud yr hyn a ystyriwyd yn waith dynion. Arweiniodd hyn at brotestio yma ac yn UDA.
Roedd menywod yn cyfrannu at fywyd masnachol mewn ffyrdd eraill hefyd. Yn Seland Newydd, llwyddodd Mary Jane Innes (Lewis gynt) o Lanfaches, Sir Fynwy i reoli bragdy ei diweddar ŵr am fynyddoedd lawer.