Fâs diwlipau a ddyluniwyd gan William Burges ar gyfer Castell Caerdydd, 1874
Yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru mae fâs grochenwaith ryfeddol a ddyluniwyd gan William Burges (1827-1881) ar gyfer Ystafell Ysmygu’r Haf yng Nghastell Caerdydd – y plasty lled-ganoloesol a gynlluniodd ar gyfer John Patrick Crichton-Stuart 3ydd Marcwis Bute (1847-1900). Mae’r fas ymhlith yr esiamplau pwysicaf o ddylunio Fictoraidd Cymreig. Cynhyrchwyd y gwaith ar gyfer comisiwn pensaernïol ac addurnol oedd ymhlith y pwysicaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn sicr y mwyaf nodedig yng Nghymru.
William Burges (1827-1881)
Burges o bosibl oedd pensaer-ddylunydd mwyaf gwreiddiol a mentrus y 19eg ganrif. Bu farw’n gymharol ifanc, fel ei arwr pennaf – A. W. N. Pugin, addurnwr enwog Palas Westminster – ac erbyn hynny câi ei gydnabod fel dylunydd gorau ei genhedlaeth.
Yn gynnar yn ei yrfa cafodd ei ddylanwadu gan arddull ‘eclectig blaengar’ ei noddwr A. J. B. Beresford Hope, oedd yn gobeithio y byddai penseiri yn datblygu arddull newydd, teilwng o Oes Fictoria drwy dynnu ar ystod eang o dechnegau hanesyddol. Ac yntau’n etifedd cyfoethog, teithiodd y pensaer ifanc ledled Ewrop a hyd yn oed i Dwrci, gan astudio celfyddyd Japan, India, Sgandinafia a gogledd Affrica hefyd.
Mae ei waith felly yn ddychmygus, ond yn tynnu ar bensaernïaeth a dylunio Ewrop y Canol Oesoedd yn ogystal ag Islam, dwyrain Asia, Pompeii ac Assyria.
Castell Marcwis Bute yng Nghaerdydd
Diolch i gyfoeth Marcwis Bute, yng nghastell Caerdydd cafodd Burges benrhyddid i ddefnyddio’i ddychymyg i greu un o gampweithiau pensaernïol Oes Fictoria. Ysbrydolwyd ffantasi llwyr yr adeilad gan gestyll canoloesol Ffrainc, tra bod yr ystafelloedd yn llawn cerfiadau lliw, waliau panelog a nenfydau addurnedig.
Ystafell Ysmygu’r Haf ym mrig Tŵr y Cloc oedd y pièce de résistance, gyda phedair fâs diwlipau wedi’u dylunio gan Burges ei hun yn rhan allweddol o theatr yr ystafell.
Yn hydref ei ddyddiau daeth Burges i gredu taw yn adfywiad y ‘celfyddydau llai’ oedd dyfodol pensaernïaeth. Dyluniodd gelfi, metelwaith, gemwaith, gwydr lliw a cherameg oedd mor ddychmygus, cymhleth ac ysgolheigaidd a’i adeiladau, a phob un yn gweddu’n berffaith i arddull bensaernïol ei briod adeilad. Drwy hyn, daeth yn un o ddylanwadau pennaf y mudiad Celf a Chrefft.
Y Fasys Tiwlipau
Gwnaed y fasys o grochenwaith caled, gwyn tebyg i gerameg, cyn eu paentio â’u goreuro â llaw. Mae’r siâp fel glôb gyda phedair arfbais hirgrwn teulu Bute yn addurn o’i gylch. Yn ymwthio ohono mae gwddf canolog a phedwar gwddf llai o’i amgylch, ac ar y rhain mae addurn gwydriad yn dangos paracitiaid yn eistedd ar sgrôl o ddeiliach. Ceir arysgrif o amgylch y gwddf (ANNO : DOMINI : 1874) a gwaelod y bol (IOHN^S PATC^S MARCQ DE BUTE) yn dynodi’r dyddiad a’r noddwr.
Yn anffodus does dim cofnod o wneuthurwr nac addurnwr y fasys. Y gred gyffredin yw iddyn nhw gael eu cynhyrchu yn Swydd Stafford, ond mae’n bosib taw George Maw o Broseley, Swydd Amwythig oedd y crefftwr.
Roedd Maw & Co. fwyaf adnabyddus am eu teils, a nhw fyddai’n cynhyrchu’r teils a ddyluniai Burges, gan gynnwys rhai ar gyfer Ystafell Ysmygu’r Haf yng Nghastell Caerdydd. Roedd y cwmni hefyd yn cynhyrchu cerameg pensaernïol wedi’i fowldio, gan gynnwys llestri anarferol eu siâp fel y fâs adnabyddus ar ffurf alarch a ddyluniwyd gan Walter Crane ym 1889. Erbyn 1874, roedd y cwmni’n barod yn arbrofi â llestri crochenwaith uchelgeisiol ac yn The Art Journal y flwyddyn honno mae Professor Archer yn defnyddio geiriau all fod yn cyfeirio at fasys Burges:
'Some of the designs, as in that of a jardinière in Louis Quatorze style and in a number of vases formed after Indian, Moorish and classic models, are works which would do credit to the oldest-established potteries, whilst some of the colour-effects displayed upon them have a richness that has never been surpassed. For these articles a white clay is used, and they may be classed as semiporcelain with a very firm, hard texture.'
Mae’n bosib mai ffrwyth gwaith W. B. Simpson, 456 West Strand, yw’r addurniadau. Ef oedd asiant Maw yn Llundain. At Simpson y byddai Maw yn anfon y teils maiolica pensaernïol a ddatblygodd i’w paentio a’u tanio â llaw. Gwelwn o’r enghreifftiau yng Nghastell Caerdydd safon aruthrol y gwaith hwn, ac mae fasys Ystafell Ysmygu’r Haf llawn cystal.
Cynllun Tŵr y Cloc yng Nghastell Caerdydd
Roedd y comisiwn i ailadeiladu Castell Caerdydd yn gyfle heb ei ail i Burges wireddu ei syniadau. Gyda’i gyfoeth digymar, ei hoffter o deithio a’i frwdfrydedd rhamantaidd am y Canol Oesoedd, Bute oedd noddwr delfrydol. Fel yr esbonia un o ysgolheigion amlycaf Burges, J. Mordaunt Crook; ‘Cardiff was the commission of a lifetime: the chance of creating a dream castle for Maecenas himself.’
Tŵr y Cloc yw elfen amlycaf y castell, ac fe berodd gryn gyffro ar ddadorchuddio’r cynllun yn yr Academi Frenhinol ym 1870. Roedd pob llawr yn fwy gwych na’r un blaenorol, ac yn uchafbwynt orielog Ystafell Ysmygu’r Haf fe welwn yr esiampl orau o bensaernïaeth Burges. I Mordaunt Crook roedd yn nendwr o gastell, nendwr mewn lifrai eclectig blaengar.
Thema eiconograffig y tŵr yw amser. Ysbrydolwyd addurniadau Ystafell Ysmygu’r Haf gan seryddiaeth, ac mae’r ystafell yn dangos trefn a rhaniad amser a’r bydysawd.
Modelwyd y teils ar y rhai a welir o flaen prif allor Abaty Westminster, gan ddangos y pum cyfandir, y ddinas ddwyfol a chylch bywyd adar ac anifeiliaid y ddaear. Ysbrydolwyd cerfiadau’r simdde gan deimladau hwyliog yr haf, yn enwedig cariad. Yno hefyd mae frieze o deils wedi’u paentio yn adrodd chwedl y sidydd ac yn dangos cymeriadau fel Apollo a Cupid, Castor a Pollux, ac Ewropa a’r Tarw.
Ar y waliau mae paentiadau gan Frederick Weekes yn cynrychioli dau ar bymtheg o fetelau, a seryddwyr y gorffennol yn y sbandreli. Yn hongian o ganol y nenfwd mae canhwyllyr heuldlws ar ffurf Apollo. Rhwng asennau’r gromen gwelwn y pedair elfen - tir, aer, tân a dŵr - a chorbelau cerfiedig anferth yn y pedwar cornel yn personoli wyth gwynt chwedlonol Groeg, gan gynnwys Africus, Auster a Zephyrus. Burges ddyluniodd y celfi hefyd wrth gwrs, gan gynnwys yr ystolion Otoman moethus a’r cadeiriau Jacobeaidd gyda’u haddurn Romanésg, sy’n nodweddiadol o’i arddull eclectig, awgrymog.
Yn eu lleoliad ar y pedwar corbel cerfiedig byddai’r fasys yn greiddiol i effaith theatrig yr ystafell. Oddeutu 1870 paentiodd Axel Haig lun dyfrlliw o weledigaeth Burges ar gyfer Ystafell Ysmygu’r Gogledd (yng nghasgliad Amgueddfa Cymru) ac mae’r fasys yn hwnnw yn fwy nodweddiadol a chyffredin eu siâp. Mae’n amlwg, o’u cymharu â’r fasys terfynol, i Burges ddefnyddio cryn ddychymyg a chymryd cryn ofal wrth ddylunio fasys fyddai’n ganolog i’r ystafell.
Roedd yr addurniadau arnynt yn ategu addurn yr ystafell ac yn dod â’r gofod yn fyw. Adlewyrchir y lliwiau – glas, gwyrdd, aur ac ocr – yng ngweddill yr ystafell; yn y defnydd oren a glas ar yr ystolion Otoman a’r arfbeisiau a welir ar waelod yr oriel. Roedd cariad yn thema wrth galon Burges ac mae’r paracitiaid – adar cariad – ar y fasys yn adlais o’r adar a gerfiwyd ac a baentiwyd yn nwylo Amor, ar lwfer y simdde ac mewn paent yn y tariannau o dan yr oriel.
Mae cynllun ac addurn y fasys yn gyfuniad dychmygus o ffynonellau amrywiol – o bensaernïaeth ganoloesol a llawysgrifau goleuedig, i grochenwaith maiolica’r Dadeni, crochenwaith Delft yr Iseldiroedd a phorslen Tsieina. Roedd y cyfan yn rhan o’r gêm o gyfeiriadaeth ysgolhaig y byddai Burges yn mwynhau ei chwarae â Marcwis Bute.
Gwelir darluniau o fasys tebyg yn llyfr braslunio Burges (yng nghasgliad Athrofa Frenhinol Penseiri Prydain), gyda nodyn gerllaw un yn dweud ‘this is a pot of glass / in which you put flowers’. Mae’n debyg ei fod wedi’i ysbrydoli gan ysgeintiwr dŵr gwydr oedd yn gyffredin yng Nghatalonia rhwng 1550 a 1650. Ffynhonnell arall o ysbrydoliaeth oedd y fasys blodau cerameg aml-yddfog a gynhyrchwyd yn Iran yn y 12fed ganrif ac yn ystod llinach Safavid (1500-1722). Y dylanwad cryfaf oll yw fasys porslen Tsieineaidd o ddiwedd y 18fed a’r 19eg ganrif, a gellir gweld esiamplau prin mewn ffotograffau o ystafelloedd Burges yn 15 Buckingham Street, Llundain yn y 1870au.
Yn eu helfennau pensaernïol, gwelwn yn ffurf y fasys ddylanwad hoff adeiladau canoloesol Burges – cegin simneog abaty Benedictaidd Marmoutier ger Tours, Ffrainc. Ym 1856 darluniwyd yr adeilad gan un o benseiri dylanwadol yr Adfywiad Gothig Ffrengig, Eugène Viollet-le-Duc, yn ei gyfrol Dictionnaire raisonné de l’architecture française du XIe au XVIe siècle. Mae hefyd yn addasiad o un o gysyniadau pensaernïol cynharach Burges. Nis gwireddwyd ei weledigaeth ar gyfer Ysgol Gelf Bombay ym 1866 ond roedd silwét yr efail gron yno wedi’i hysbrydoli gan gegin Marmoutier. Perodd y dyluniad ar gyfer Bombay gryn gynnwrf ymhlith beirniaid pensaernïol gyda rhai yn ei ystyried ymhlith y dyluniadau mwyaf rhyfeddol a grëwyd erioed.
Ym 1947 cyflwynwyd y castell yn rhodd i Ddinas Caerdydd ac erbyn Awst 1948 roedd y set o bedair wedi eu symud. Prynwyd dau gan y bardd John Betjeman, a’u rhoddodd ym 1965 i Charles Handley-Read. Dywedodd yntau yn ei lythyr diolch; ‘I am near to bursting with gratitude and delight.’
Mae un o’r fasys yma bellach i’w gweld yn Amgueddfa Fictoria ac Albert yn Llundain, a’r llall yn The Higgins, Bedford. Prynwyd y ddwy fâs arall gan yr asiant o Gasnewydd John Kyrle Fletcher, a’u gwerthodd i gasglwr preifat. Mae un o’r fasys bellach wedi dychwelyd i Gaerdydd, tra bod trwydded allforio wedi’i gohirio ar gyfer y bedwaredd. Y gobaith yw y bydd modd i sefydliad yn y DU ganfod cyllid i gaffael y fâs er mwyn medru cadw’r uned bwysig mewn dwylo cyhoeddus yn y DU, gyda’r gobaith o’u harddangos gyda’i gilydd yn y dyfodol.
Roedd y caffaeliad hwn yn bosibl diolch i gefnogaeth hael Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf ac Ymddiriedolaeth Headley. Diolch i’w grantiau, llwyddodd Amgueddfa Cymru i brynu’r fâs, wedi i’r drwydded allforio gael ei gohirio.
sylw - (1)