Yr hen gloc yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
Un o nodweddion amlwg Amgueddfa Lechi Cymru yw'r wyneb cloc siâp diemwnt sydd ar flaen yr adeilad. Uwch ei ben ar y to mae strwythur tebyg i bagoda bychan sy'n cynnwys cloch a morthwyl sydd wedi'i gysylltu â'r cloc â rhaff wifrau.
Gosodwyd mecanwaith y cloc ar ail lawr yr adeilad. Cafodd ei gynhyrchu yn Sir Amwythig ond nid yw'r dyddiad yn eglur. Gan nad yw'r cloc yn ymddangos mewn ffotograffau cynnar o'r adeilad, a godwyd ym 1870, mae'n debygol na chafodd mo'i osod tan ganol y 1890au.
Amserydd ar gyfer ffrwydradau'r chwarel
Mae'r Amgueddfa wedi'i lleoli yng ngweithdai Fictoraidd Chwarel Dinorwig. Roedd y cloc yn gymorth i sicrhau prydlondeb y trenau a gludai'r llechi o'r chwarel i borthladd y Cwmni yn y Felinheli. Fodd bynnag, roedd yn fwy nag amserydd ar gyfer y gweithdai, ac ar un adeg yn ei hanes ychwanegwyd cyfres o gysylltiadau trydanol ato. Ar amserau penodol, byddai'r cloc yn anfon cerrynt trydanol i rannau eraill o safle mawr y Chwarel. Roedd hyn yn sicrhau bod ffrwydradau'n digwydd ar amser. Fel arfer, byddai systemau o'r fath yn cael eu marchnata fel clociau pulsynetic. Gwerthwyd hwy gan wneuthurwyr clociau enwog fel Gent o Gaerlŷr. Yn y Felinheli, wrth gwrs, cynhyrchodd y gweithwyr eu fersiwn ddibynadwy eu hunain.
Graffiti 100 mlwydd oed
Roedd angen cyflenwad pŵer i gynhyrchu'r cerrynt trydanol. Byddai hyn yn cael ei ddarparu drwy gelloedd gwlybion neu gronaduron a storiwyd wrth ochr y cloc. Un o'r darganfyddiadau a wnaed pan adnewyddwyd y rhan hon o'r adeilad ganol y 1990au oedd y graffiti gwreiddiol ar y waliau a'r paneli cyfagos, a oedd yn nodi dyddiadau llwytho'r batri. Ar 10 Mehenfin 1909, er enghraifft, llwythwyd y batrïau gan Willie Owen Williams a George Hughes.
Glanhau'r cloc
Er bod y cloc wedi cael ei gynnal a'i gadw dros y blynyddoedd, erbyn 2001 roedd angen sylw arbenigol arno. Roedd busnes y gwneuthurwyr J.B. Joyce and Company yn dal i weithredu. Cafodd y busnes ei sefydlu yn yr Eglwys Wen yn Sir Amwythig, ac mae'n dal i fod yno dros dri chan mlynedd yn ddiweddarach. Yn anffodus nid oes ganddynt gofnod o'r clociau unigol a gynhyrchwyd, ond roeddent yn fodlon ymweld â'r Amgueddfa i archwilio'r cloc. Dychwelwyd y mecanwaith i weithdy Joyce lle cafodd ei lanhau a'u wasanaethu. Yna fe ailadeiladwyd y cloc, cyn ei ddychweleyd i'r Amgueddfa a'i roi ar waith unwaith eto. Heddiw mae'r cloc yn rhedeg yn llyfn ac mae'n gywir i raddau helaeth.
Cloc ar gyfer y Pentref
Mewn cyfnod pan nad oedd oriawr yn rhywbeth cyffredin, roedd y cloc a osodwyd yng ngweithdai Chwarel Dinorwig yn gloc ar gyfer y gymuned leol, a gallai holl drigolion Llanberis a'r cyffiniau glywed ei gloch. Meddai un awdur lleol:
'Torrai ar y distawrwydd yn nhrymder nos, a chlywyd aml i glaf yn cwyno yn y bore,"Chysgis i ddim gwerth neithiwr - clywed yr hen gloc yn taro pob awr nes iddi 'leuo"'
Mae'r cloc yn parhau i fesur treigl amser wrth i'r unfed ganrif ar hugain fynd rhagddi yn Llanberis.