Achub gwrthrych Llychlynnaidd prin ar ôl 900 mlynedd o dan y dŵr

Gweithgareddau deifio ar Graig Smalls (1992)

Manylyn o anifail wedi'i ddarlunio o'r ochr ar un o ochrau dyrnfol cleddyf Smalls

Manylyn o fwystfil ar frig gwarchodydd Smalls

Cleddyf Smalls, tua.1100 O.C.

Lleoliad Creigres y Smalls yn De-Orllewin Cymru

Mae'r amgueddfa'n dal yr enghreifftiau hynotaf o gelf Lychlynnaidd hwyr i'w canfod yng Nghymru erioed. Darganfuwyd dyrnfol isaf cleddyf Llychlynnaidd, yn dyddio o tua 1100 OC, gan blymiwr hamdden ym mis Awst 1991. Daethpwyd o hyd i'r ddyrnfol ger Graig Smalls, - tua 13 milltir i'r gorllewin o Ynys Sgomer (Dyfed), â'r tir agosaf ato yw Ynys Gwales, tua 7 milltir i'r dwyrain. Dyma, felly, yw un o'r safleoedd archeolegol mwyaf anghysbell yng Nghymru.

Wedi'i chastio mewn efydd a'i haddurno'n gain

Castiwyd y ddyrnfol cleddyf mewn efydd, ac addurnwyd yr ochrau gyda phâr o anifeiliaid arddulliedig wedi'u darlunio o'r ochr, a'u plethu â bwystfilod tenau tebyg i nadroedd. Ar frig y ddyrnfol, mae dau anifail ceg-agored yn cnoi safle'r carn, a fyddai wedi estyn drwy'r ddyrnfol, ond sydd bellach wedi diflannu. Mae'r prif rannau addurnol yn frithaddurnedig â gwifrau arian, a llenwyd y cefndir yn wreiddiol gyda brithwaith du a elwir yn nielo, i ffurfio cynllun hardd o aur, du ac arian.

Addurno yn arddull Urnes

Gelwir yr arddull addurnol hwn yn Urnes, ac mae'r enw'n deillio o addurniadau eglwys fach bren, a adeiladwyd yn Urnes yng ngorllewin Norwy, tua 1060 OC. Mae'r darganfyddiad newydd sy'n cynnwys cernluniau cain a choeth o anifeiliaid yn ein hatgoffa nad morladron ac ysbeilwyr oedd y Llychlynwyr yn unig, ond crefftwyr a oedd yn creu celf llawn egni a bywiogrwydd a oedd yn seiliedig ar ffurfiau anifeiliaid. Mae'r addurno'n perthyn i waith metel a gynhyrchwyd yn Iwerddon o ail hanner yr 11eg ganrif, pan gipiodd ddychymyg y brodorion, fel mae Croes Cong (sy'n dyddio o tua 1123) a chysegrfa Sant Manchan (12fed ganrif) yn dangos.

Ar ôl adnabod y darganfyddiad, dynodwyd y safle o dan Ddeddf Gwarchod Llongddrylliadau 1973, sy'n anelu i atal ymyrraeth anawdurdodedig ar safleoedd yr ystyrir eu bod o bwys archeolegol, hanesyddol neu artistig. Gan fod y darganfyddiad mor brin cafodd yr amgueddfa drwydded i wneud arolwg o'r safle.

Roedd logisteg ymchwiliad o'r fath yn aruthrol o anodd, gydag ymchwyddiadau mawr yn rowlio i mewn o Fôr yr Iwerydd ac yn taro'r creigiau agored. Er gwaetha'r anawsterau hyn, bu'n bosibl archwilio'r ardal a gwneud cofnodion fideo a ffotograffig o amgylchedd tanddwr y riff, a chyd-destun tebygol y darganfyddiad.

O ganlyniad i hyn, gwyddwn fod y safle wedi'i leoli i'r de o'r goleudy presennol, ar ben un o rigolau tanddwr y ffurfiannau basalt a dolerit sy'n ffurfio'r riff.

Mae'n annhebygol bod y darganfyddiad hwn o eiddo personol gwerthfawr, mewn lleoliad o'r fath, yn cynrychioli colled bersonol a damweiniol. Yn hytrach, mae'n debygol ei fod yn cynrychioli llong, Llychlynnaidd mwy na thebyg, a ddymchwelodd ac a suddodd yn ystod mordaith hir mewn cyfnod pan oedd fflyd Dulyn yn ymosod yn gyson ar ganolfannau cyfoethog megis Tŷ Ddewi a Bryste. Roedd y llong yn symbol dramatig o ddiwylliant Llychlynnaidd, ac o edrych ar ddarganfyddiadau Llychlynnaidd eraill, mae'n bosibl bod y llong a gariai'r cleddyf wedi mesur rhwng 13 a 28 metr o hyd - naill ai llong fawr, denau a chwim ar gyfer rhyfela, neu long letach gadarnach ar gyfer cludo pobl a chargo dros bellteroedd hir.

Drylliwyd nifer o longau ar Graig Smalls cyn dyfodiad cymhorthau mordwyol megis radar a goleudai, a byddai'n rhaid i unrhyw longau a deithiai i'r Iwerddon o arfordir de Cymru lywio cwrs yn ddigon pell i'r dde o Hats and Barrels er mwyn sicrhau eu bod yn osgoi'r creigiau peryglus rhwng ynysoedd Skockholm, Skomer a Grassholm, sydd i gyd yn enwau Scandinafaidd.

Mae'r ffaith bod y darganfyddiad hwn mor anghyffredin, safon y grefft, a natur safle'r darganfyddiad, oll yn ffactorau sy'n taenu mwy o oleuni ar weithrediadau hynafol y Llychlynwyr ar hyd arfordir Cymru.

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Teece
13 Chwefror 2020, 09:24

Your website is so very interesting, thank you so much for making it so easily available.
Julie Amerman
13 Awst 2010, 09:12
These pix & the info regarding them are so inter-esting that I want to go to Wales & actually SEE the area! My Great Aunt use to live in Southsea, Hants. I never did get over there to see her. She passed away when I was about 12. I'm 67 now. It's been a while but I'd still like to go "'cross the pond" to take it all in, including this area, which I never heard of before.
Davis
8 Gorffennaf 2009, 11:24
Enjoyed the information and photos. Am Welsh in America.