Beth yw bwydydd traddodiadol Cymru?

Tra bod amryw o arferion coginio Lloegr wedi treiddio lawr o'r bonedd, tyfu'n llythrennol o'r tir wnaeth bwydydd traddodiadol Cymru. Wrth deithio trwy Gymru yn 1188, sylwodd Gerallt Gymro fod y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn ddibynnol ar anifeiliaid, llaeth, caws, menyn a cheirch am eu bwyd. Yn gyffredinol, dyma oedd cynhaliaeth y Cymry ymhell i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ceir cadarnhad yn Adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Dir yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 1896, fod tyddynwyr a thenantiaid yn llwyr ddibynnol ar gig wedi ei halltu a'i sychu, llysiau cartref, cynnyrch llaeth a bwydydd llwy yn seiliedig ar geirch. Byddai ffermwyr a thyddynwyr yn pesgi ac yn lladd o leiaf un mochyn a halltu'r cig i'w cynnal am y flwyddyn. Ar y ffermydd mwyaf, arferid lladd bustach neu fuwch hesb a rhennid y cig rhwng ffermydd cyfagos.

Wrth gadw gwartheg, doedd dim prinder o laeth ar gyfer cynhyrchu menyn a chaws.Tyfid llysiau yn y caeau neu'r ardd - cennin, moron, bresych, perlysiau yn bennaf, a thatws o'r ddeunawfed ganrif ymlaen. Câi ffrwythau, planhigion ac aeron a dyfai'n wyllt ac anifeiliaid ac adar gwyllt eu hela yn eu tymor, a gallai cymunedau a drigai'n agos i'r arfordir amrywio eu hymborth drwy gasglu pysgod cregyn megis cocos, cregyn gleision, gwichiaid a llygaid meheryn, a gwymon i wneud bara lawr.

Gan mai gwlad fynyddig yw Cymru, ceirch a haidd oedd y cnydau a dyfai orau, gyda gwenith wedi ei gyfyngu i'r dyffrynnoedd ffrwythlon. Blawd ceirch yn ei amrywiol ffurf oedd sylfaen amryw o'r bwydydd. Roedd llymru a sucan, sef blawd ceirch wedi ei fwydo mewn dŵr oer a llaeth enwyn, ei ferwi hyd nes iddo gyrraedd yr ansawdd priodol, a'i weini'n lled oer â llaeth neu driog, ynghyd â bwdram, uwd a griwel blawd ceirch, ymhlith y prydau bob dydd a gâi eu paratoi yn yr ardaloedd gwledig hyd flynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.

Y bara a fwyteid gan amlaf, ar hyd a lled Cymru hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd bara ceirch a luniwyd ar ffurf torthau tenau crwn a'u crasu ar y maen neu radell dros dân agored. Yn siroedd y gogledd fe'i defnyddid fel sylfaen i rai o'r bwydydd llwy, megis picws mali neu siot; pryd ysgafn boblogaidd a baratoid drwy falu tafell o fara ceirch yn fân a'i fwydo mewn llaeth enwyn. Pryd arall oedd yn boblogaidd yn ardaloedd amaethyddol y gogledd oedd brŵes ac fe'i paratoid yn rheolaidd ar gyfer brecwast gweision ffermydd. Fe'i gwneid drwy falu bara ceirch a'i fwydo mewn cawl cig, yna ychwanegu haen drwchus o fara ceirch wedi'i malu ar yr wyneb yn union cyn ei fwyta.

I raddau helaeth, roedd y gymdeithas wledig yng Nghymru yn hunangynhaliol. Yr unig nwyddau oedd rhaid i wraig y tŷ eu prynu oedd siwgr, halen, te, reis a chwrens. Ar y Sul ac ar achlysuron arbennig, arferid prynu darn o gig gan y cigydd lleol ar gyfer cinio rhost, a pharatoi phwdin reis cartref i ddilyn. Ychydig iawn o ffrwythau ffres a brynid a dim ond ar rai achlysuron arbennig iawn y bwyteid wyau. O ystyried y deunydd crai, roedd angen cryn ddyfeisgarwch er mwyn darparu bwydlen amrywiol o ddydd i ddydd. Roedd paratoi amrywiaeth o fwydydd llwy o un cynhwysyn sylfaenol, sef bara ceirch, yn gofyn am ddawn arbennig. Roedd angen medrusrwydd tebyg wrth baratoi cawl a lobsgows, gan ddefnyddio cig cartref.

Y tân agored a'i offer amrywiol oedd canolbwynt y coginio drwy gydol y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ymhell i'r ugeinfed ganrif mewn nifer o gartrefi gwledig. Roedd yr adnoddau coginio cyfyngedig hefyd yn rheoli'r hyn y gellid ei baratoi. Câi stiwiau, darnau o gig a phwdinau eu berwi mewn crochan. Defnyddid ffyrnau crochan ar gyfer rhostio cig a phobi teisennau a thartennau ffrwythau a gwneid defnydd helaeth o'r radell i bobi torthau ceirch, leicecs, bara soda, crempog a theisennau gradell (fel pice ar y mân). Yn ogystal, defnyddid berau, ffyrnau tun a berau potel ar gyfer rhostio cig.

Er i'r traddodiad o fyw ar gynnyrch y tir barhau hyd gyfnod mwy diweddar yn yr ardaloedd gwledig, daeth newid yn sgil gwell ffyrdd a chyfleusterau siopa modern, heb sôn am ddyfodiad oergelloedd a rhewgelloedd i'r cartref. Heddiw, caiff y rhan fwyaf o'r bwydydd a grybwyllwyd uchod eu bwyta fel 'bwyd traddodiadol' ar achlysuron arbennig.

Ffilm bwysig yn dangos yr hen ddull traddodiadol o grasu bara mewn ffwrn fach.

Yn y darn golygedig yma, gwelir Mrs Leis Rogers, Ffair-rhos yn codi toes a gymysgwyd ac a dylinwyd eisoes o'r badell a'i roi ar fwrdd y gegin. Yna mae'n ei dylino'n ysgafn a'i lunio'n dorth gron. Marcio'r wyneb wedyn â chyllell cyn rhoi'r dorth yn y ffwrn fach i'w chrasu ar y tân agored. Rhoi'r clawr ar y ffwrn ac yna codi darnau o fawn coch o'r tân ag efail haearn a'u rhoi ar wyneb y clawr yn drefnus - llanw o gwmpas ymyl y clawr yn gyntaf, yna llanw'r canol. Rhoi darnau o fawn ffres ar y tân o dan y ffwrn. Awr yn ddiweddarach, mae Mrs Rogers yn codi'r clawr oddi ar y ffwrn yn ofalus â'r efail - gofalu bod dim o'r llwch mawn yn syrthio ar wyneb y dorth. Y dorth wedi crasu - ei chodi allan o'r ffwrn, taro'r ochr isaf â dwrn i'w phrofi a'i rhoi ar y bwrdd i oeri.

Darllen Cefndir

Domestic Life in Wales gan Minwel S. Tibbott. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2002).

First Catch your Peacock: A Book of Welsh Food gan Bobby Freeman. Cyhoeddwyd gan Image Imprint (1980).

Dysgl Bren a Dysgl Arian gan R. Elwyn Hughes. Cyhoeddwyd gan Y Lolfa (2003).

Gwraig Orau o'r Gwragedd gan Enid Pierce Roberts. Cyhoeddwyd gan Gwasg Pantycelyn (2003).

sylw(2)

Alice
4 Awst 2019, 08:45
interesting information thanks I am surprised at the sheer amount of oat dishes
Budd Nelson
7 Chwefror 2017, 23:02
wonderfully informative while a doing research for a short story that takes place in circa 500 A D NorthWales

Gadael sylw