Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Radicaliaeth
Roedd gweithwyr diwydiannol o Gymru'n dod o ardaloedd lle'r oedd yr undebau llafur trefnus iawn. Roedden nhw'n adnabyddus am sefyll dros eu hawliau, amodau gwaith diogel a chyfogau teg. Wrth adael eu mamwlad i chwilio am waith aethon nhw â'r rhinweddau hynny – a'r parodrwydd i frwydro – gyda nhw.
Ymfudodd John Owens i Ohio o Gwm Clydach pan oedd yn blentyn yn y 1890au. Collodd un o'i goesau mewn damwain ac aeth ati i gadw'n brysur trwy weithio dros yr undeb. Erbyn diwedd y 1930au roedd yn llywydd yr United Mine Workers of America yn Ohio. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth yn Drysorydd Ysgrifennydd Rhyngwladol yr UMWA, gan aros yn y swydd tan 1970. Owens fu'n gyfrifol am greu'r system iechyd a lles gyntaf ar gyfer gweithwyr UDA.
Radicaliaeth Gymreig gafodd y bai am y trafferthion yn y diwydiant ceir Prydeinig ddiwedd y 1970au, er bod y rhan fwyaf o'r ffatrïoedd y tu allan i Gymru. Roedd llawer o'r gweithwyr yn y ffatrïoedd cynhyrchu ceir yn Rhydychen a Birmingham yn hanu o Gymru. Roedden nhw wedi ymfudo i chwilio am waith wrth i'n diwydiannau traddodiadol ddioddef yn sgil y dirwasgiad economaidd cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Yn America cymerodd rhai cyfogwyr yn erbyn gweithwyr o Gymru oherwydd eu henw am fod yn flwriaethus.
Mary Thomas (O'Neil)
Ganed Mary yng nghwm Ogwr ym 1887. Aeth i UDA ym 1913 gyda'i dau blentyn, i chwilio am ei gŵr, glöwr oedd wedi mynd â’i gadael hi. Bu'n rhan o 'Gyflafan Ludlow' yn ystod streic glowyr Colorado ym 1914, a hi oedd yr unig fenyw i gael ei harestio. Teithiodd ar hyd a lled y wlad i ddenu cefnogaeth i'r glowyr oedd yn streicio, gan annerch yr Arlywydd hyd yn oed.