Ffotograffau byllau glo John Cornwell
Ffotograffydd ar ei liwt ei hun oedd John Cornwell. Yn y saithdegau a'r wythdegau cynnar, tynnodd nifer o ffotograffau o byllau glo, yn Ne Cymru a Chanolbarth Lloegr yn bennaf, a hynny ar yr wyneb a danddaear.
Perffeithiodd dechneg o dynnu ffotograffau danddaear oedd yn defnyddio goleuadau cyffredin pwll glo, gan alluogi iddo dynnu lluniau hynod eglur o dalcenni glo, twnneli, siafftiau ac offer. Yn ogystal â thynnu ffotograffau mewn pyllau gweithredol, byddai hefyd yn cofnodi gweithfeydd segur, ar yr wyneb a danddaear.
Roedd John Cornwell hefyd yn uchel ei barch ym maes archaeoleg ddiwydiannol. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar byllau glo Cymru a Lloegr.
Mae hawlfraint ei ddelweddau o dde Cymru bellach ym meddiant Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Lawrlwytho'r catalog i'r Casgliad Cornwell [PDF 4.7MB]Lluniau John Cornwell
Pwll Glo Tirpentwys 1979
Pwll Glo Six Bells, 1979
Pwll Glo Oakdale, locomotif trydanol ger gwaelod y pwll, tua 1978
Pwll Glo Oakdale, gweithiwr y cludfelt glo, tua 1978
Pwll Glo Gogledd Celynen, 1975
Iard Pwll Glo Markham, 1977
Pwll Glo Marine, 1980
Pwll Glo Marine, 1974, locomotif o'r 'Gorllewin Gwyllt' - y 'Western Consort'.
Pwll Glo Llanhilleth, y fframwaith ar ben siafft rhif 2, 1975.
Pwll Glo Hafodyrynys, locomotif trydanol yn y fynedfa i'r pwll ym 1968.
Pwll Glo Cwmtyleri, gwaith bric addurnedig ar adeilad ffan awyru, 1980
Gwaelod Pwll Glo Cwmtyleri, 22 Tachwedd 1977
Pwll Glo De Celynen, 1978.
Gwaelod Pwll Glo Blaenserchen ym 1979 gyda chyflenwadau a thram o wastraff.
Pwll Glo Blaenserchan ym 1973.
Pwll Glo Coegnant 1978, talcen postyn a bar.
Pwll Glo Wyndham, tua 1975
Pwll Glo Wyndham /Western, trofwrdd ger gwaelod y pwll, tua 1979
Pwll Glo Treforgan gyda shifft y prynhawn yn aros i fynd i lawr, 1979
Pwll Glo St John, torrwr Anderson Strathclyde, tua 1979
Goruchwylwyr yn archwilio torrwr ar y Wythïen Chwe Throedfedd, Pwll Glo Brynlliw, 15 Rhagfyr 1977
Traphont goncrit fodern yn cysylltu'r pwll glo gyda'r olchfa, Pwll Glo Blaengwrach, tua 1977
Pwll Glo Graig Merthyr, rhes o dramiau yng ngwythïen Graigola - noder y to tywodfaen heb gynhaliaid, tua 1977
Iard Pwll Glo Graig Merthyr ym 1977 gyda rhes hir o dramiau'n aros i fynd i mewn i'r pwll.
Pwll Glo Garw ym 1977, gyda'r pentref yn y cefndir.
Pwll Glo Cefn Coed, 1973, tŷ injan a fframwaith pen y siafft am i lawr.
Tŷ injan Pwll Glo Cefn Coed ar gyfer yr injan Markham ar y siafft am i fyny ym 1973.
Aberpergwm, 1972, mynedfa i'r gloddfa ddrifft newydd.
Pwll Glo Abernant, glöwr mewn gorsaf bwmpio ar waelod y pwll, 1978
Pwll Glo Aberpergwm, peiriant torri ffordd Dosco a ffan ategol, tua 1978
Pwll Glo Tŷ Mawr, olion ffwrnais awyru danddaearol sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd y 1870au.
Pwll Glo Tŵr, 'Rex' gyda'i ostler, 1979.
Pwll Glo Taff Merthyr, peiriant torri ffordd Dosco ac awyru ategol, 1979.
Pwll Glo Taff Merthyr ddiwedd y 1970au.
Gwaelod Pwll Glo Penrhiwceiber, 1978.
Pwll Glo Nantgarw, 1978, torrwr drwm Anderson Strathclyde yn torri glo ar y talcen glo.
Siafft am i lawr Pwll Glo Merthyr Vale, tua 1980
Pwll Glo Maerdy, 1977, certi gwag yn aros ar ben y pwll.
Pwll Glo Lewis Merthyr, 1977, cynhaliaid y to hydrolig yn yr iard yn disgwyl cael eu cludo o dan y ddaear.
Pwll Glo Lady Windsor, locomotif stêm gyda'r siafft yn y cefndir, 1977
Pwll Glo Ffaldau, 1977, pen y pwll.
Pwll Glo Fernhill, braich fawr torrwr hydrolig AB 15 ar dalcen glo hir â phrenau hyd-ddo.
Glofa Deep Navigation, y fframwaith am i lawr, tua 1978
Glofa Deep Duffryn, dau weithiwr yn archwilio'r siafft o do'r gawell, 1977-78.
Pwll Glo Bargoed, 20 Mai 1977.
Pwll Glo Morlais, golwg gyffredinol yn edrych tua'r dwyrain ar draws yr Afon Llwchwr, 1978.
Pwll Glo Morlais, golwg gyffredinol, noder yr orsaf bwmpio segur, 1978
Pwll Glo Cynheidre, tramiau glo mewn man llwytho tanddaearol, tua 1978
Pwll Glo Cynheidre, y brif ffordd gyda chludfelt cyflym, tua 1978
Pwll Glo Cwmgwili, 1978, shifft y prynhawn yn aros i gael eu cludo o fynedfa'r pwll.
Pwll Glo Cwmgwili, 1978, Llwythwr a gweithredwyr yn barod i ddechrau gwaith.
Pwll Glo Betws, shifft y prynhawn yn aros am y trên cludo gweithwyr, tua 1976
Pwll Glo Cwmgwili, ffordd gludo gyfan yn cael ei chynnal gan brenau, 1978
Pwll Glo Rhydaman, 1974, Mr P.A. Jones, Swyddog Diogelwch, yn archwilio'r to yn y talcen glo diwethaf.
Pwll Glo Rhydaman, 1974, Gerald Gibson yn drilio twll bach yn y talcen.
Pwll Glo Rhydaman, 1974, tramiau gwag yn cael eu gostwng i mewn i'r slant.
Dau o lowyr Blaenafon yn yr iard bren ar ddiwedd shifft y bore, 1978.
Rheolwr Big Pit, Glyn Morgan, yn siarad â Billy 'Pigeon' Preece (eistedd), Big Pit 1975
Ffordd newydd o'r fynedfa gyda chludfelt yn cludo'r glo o Wythïen Garw, Big Pit 1975.
Diwrnod olaf Glyn Morgan, Rheolwr diwethaf y Bwrdd Glo Cenedlaethol, ar 28 Tachwedd 1980.
Cyffordd ger gwaelod y pwll, Big Pit 1975, bellach yn rhan o daith danddaearol yr Amgueddfa.
Golwg gyffredinol o'r wyneb, Big Pit 1975.
Lefel yr efail, a grëwyd tua 1812, a ymgorfforwyd yn ddiweddarach i weithfeydd tanddaearol Big Pit.
Ceffyl y pwll glo yn dychwelyd i stablau'r wyneb yn Big Pit o'r Olchfa ym 1968.
Bill Gunter, swyddog diogelwch Big Pit, ar dalcen G11 ym 1979
Bill Gunter yn sefyll yn y fynedfa fwaog i Lethr Dick Kear, tua 1820. Big Pit.
Swyddog y pwll glo yn archwilio rhan o gawell y peiriant cydbwysedd dŵr, yn agos i waelod y pwll yn Big Pit, 1975
sylw - (69)
Dear Lewis Powell
I’m afraid that we only collect images of Welsh collieries, it might be worth contacting the National Coal Mining Museum for England, Caphouse Colliery, Wakefield to see what they have in their collections.
Best wishes
Ceri Thompson, Curator, Big Pit: National Coal Museum
Dear Mr Wray
I don’t think that the compensation was for the same accident.
Another John Lewis was killed on 16th January 1903 under a fall of coal at Castle Pit which was owned by the Plymouth Company. The compensation probably refers to this incident.
If I can be of any further help, please let me know.
Best wishes
Ceri
There was an inquest during which it was stated that he was working at the Clynmill Coal Level belonging to the Plymouth Company.
On 3 April 1903 an Ann Lewis (John's widow was named, Ann) and her children received a compensation award of £300 from Messrs Crawshay Brothers Cynfarthfa Ltd following the death of her husband.
I'd be grateful for your observations, please, about 1) whether this payment was for John's accident (I can't tie Clynmill to the Crawshays) and 2) in exactly which colliery did the accident occur. An OS map dated shows the Clyn mil Pits levels 1 and 2 being disused.
I started at Bargoed Pit and moved on from there to Anderson Mavor (Anderson Boyes eventually Anderson Strathclyde)
Ystrad Mynach College gave me the education I needed for my career.
Now retired with 45 years in coal mines.