Mae'r arfer o gyflwyno rhoddion ar Ddydd Calan yn hynafol iawn. Yng Nghymru, y traddodiad oedd casglu calennig. Byddai grwpiau o blant yn mynd o dy i dy ac yn dymuno iechyd a llwyddiant i'r teulu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Symboleiddid hyn gan yr afalau a garient, wedi'u haddurno ag yd a dail bytholwyrdd. Byddent yn canu penillion wrth ddrws y ty, ac yn cael rhodd o fwyd neu arian am eu trafferth.

Bellach nid yw'r arfer o gario afalau yn parhau, ac yn yr ardaloedd lle mae'r traddodiad o hel calennig yn dal o hyd, bydd y plant yn adrodd ychydig benillion ac yn casglu arian yn unig.

Dyma ichi bennill a genid yng Ngheredigion a sir Benfro gynt:

Mi godais heddiw ma's o'm ty
A'm cwd a'm pastwn gyda mi,
A dyma'm neges ar eich traws,
Sef llanw'm cwd â bara a chaws.

sylw(3)

7 Ionawr 2016, 23:45
Roedd fy nhadcu a'm teulu arfer rhoi calennig ini ac nawr mae fy mam yn parahau gyda'r draddodiad wrth roi calennig i'm mhlant - mae'n bwysig i gadw'r traddodiadau fel bod ein plant yn parhau a nhw !
31 Rhagfyr 2015, 17:58
I still love reading and hearing about the old Welsh customs. It makes my heart sing thanks
30 Rhagfyr 2015, 22:42
Pan oeddwn i'n blentyn yn Llanon, Sir Aberteifi, byddem yn mynd i hela Calennig fore dydd Calan ond roedd yn rhaid gorffen am hanner dydd felly roedd rhaid codi'n fore i gael mynd yn glou o dy i dy a thrio cyrraedd y ffermydd hefyd gan eu bod hwy yn tueddu i fod yn fwy hael!! Byddai fy nhad yn mynd i'r banc y diwrnod cynt i gael ceiniogau newydd sbon i'w rhoi i'r plant fyddai'n galw gyda ni. Ein rhigwm ni oedd

Rhowch galennig yn galonnog
I blant bach sydd heb un geiniog. !!

Mi gefais dipyn o siom symud i ardal Abertawe ar ol priodi a darganfod nad oedd yn arfer bellach yma i'm plant i.

Gadael sylw