Modrwyau Eiconograffig gyda llun o Sain Catrin
Modrwyau Eiconograffig gyda llun o Sain Catrin
Modrwyau Eiconograffig o Maes y Groes
Modrwyau Eiconograffig o Maes y Groes

Un o’r prif resymau pam y mae’r arysgrifau ar y modrwyau galar hyn mor noeth yw dyfodiad y Diwygiad Protestannaidd a oedd yn golygu nad oedd pobl yn gweddïo dros y meirw nac ar y seintiau bellach. Ar y llaw arall, roedd modrwyau o'r Canol Oesoedd cynnar weithiau'n darlunio seintiau neu'n cynnwys fformiwlâu crefyddol fel darnau o weddïau. Canfuwyd nifer o'r rhain yng Nghymru yn ddiweddar. Daeth Mr Phil Jenkins o hyd i enghraifft hardd yng Nghaeriw ym mis Hydref 2013. Modrwy o arian wedi’i oreuro o’r 15fed ganrif yw hon. Mae patrwm troellog o’i chwmpas a’r wefl wedi’i rhannu’n dair, â gair gwahanol ar bob un, yn cyfuno i wneud y fformiwla ‘ihs ave maria’ [Iesu. Henffych Fair]. Roedd modrwyau fel hyn yn fwy na datganiadau addurnol o ffydd, roedd modd eu defnyddio i’ch helpu yn eich defosiwn hefyd.

Yn nes ymlaen yn y Canol Oesoedd, daeth pwyslais newydd ar berthynas bersonol, fwy cyfriniol, â Duw, trwy weddi a myfyrio, ac roedd pobl yn defnyddio pethau fel llyfrau a lluniau i’w helpu. Gallai modrwy Caeriw fod wedi cael eu defnyddio fel hyn gan fod gweld enw Iesu (‘ihs’) yn gymorth i fyfyrio am ei fywyd a’i farwolaeth. ‘Ave Maria’ yw geiriau agoriadol y weddi Ladin a seilir ar eiriau’r Angel Gabriel pan ymddangosodd i Fair i ddweud wrthi ei bod yn disgwyl Iesu. Felly, mewn tri gair byr, mae'r fodrwy'n cyfleu credo ganolog y ffydd Gristnogol, sef bod Iesu wedi'i anfon i'r ddaear i achub dynolryw.

Ydi’r geiriau Lladin ar fodrwy Caeriw yn golygu bod perchennog y fodrwy wedi cael addysg, neu hyd yn oed yn offeiriad? Dim o anghenraid. Er mai ychydig o bobl oedd yn gallu darllen yn y cyfnod hwn, byddai’r rhan fwyaf yn gyfarwydd ag ymadroddion Lladin oedd yn cael eu defnyddio mewn defodau crefyddol a gweddïau, fel yr ydym ni’n adnabod ymadroddion fel ‘post mortem’ ac ‘et cetera’ heddiw. Hyd yn oed pa na baent yn deall yr union eiriau, byddent yn gwybod beth oedd eu hystyr gyffredinol a’u harwyddocâd fel termau crefyddol a byddai hynny’n rhoi grym ysbrydol iddynt. Efallai fod pobl yn meddwl bod modrwyau fel hyn yn gweithio fel swyn i'w gwarchod, er y byddai'r eglwys yn swyddogol yn anghytuno â hynny gan ei fod yn sawru o hud a lledrith.

Mae modrwyau eiconograffig eraill a ganfuwyd yng Nghymru’n cynnwys lluniau seintiau. Efallai bod yr union seintiau hynny wedi’u dewis am resymau penodol. Ym mis Hydref 2014, daeth Mr Philip Jenkins o hyd i fodrwy aur o’r Canol Oesoedd diweddar yng Ngorllewin Llandysilio, Sir Benfro, ac arni lun wedi’i ysgythru o'r Santes Catrin. A hithau’n un o’r gwyryfon a ferthyrwyd, roedd iddi arwyddocâd arbennig i ferched ifanc, dibriod, ac roedd hefyd yn nawddsant myfyrwyr, seiri olwynion a rhai grwpiau eraill.

Yn aml, mae modd adnabod seintiau canoloesol mewn lluniau wrth y pethau y maent yn eu dal neu eu gwisgoedd. Yn aml, dangosir Catrin gydag olwyn a chleddyf, sef y pethau a ddefnyddiwyd i'w harteithio a'i lladd (a'r ysbrydoliaeth arswydus ar gyfer tân gwyllt Olwyn Catrin). Fel llawer o’r modrwyau eraill a ddisgrifir yma, ar y tu mewn i’r band y mae’r arysgrif ar fodrwy Santes Catrin hefyd. Mae’n dweud ‘en bon eure’ [Mewn blwyddyn dda], sy’n awgrymu y gallai fod yn galennig i rywun a oedd yn arbennig o hoff o’r santes boblogaidd hon.

Er bod lluniau o seintiau canoloesol yn aml yn hawdd i'w nabod, nid yw hynny'n wir am y fodrwy eiconograffig o ddiwedd y 15fed ganrif y daeth Mr Paul Anthony Byrne ar ei thraws ym Maes-y-Groes ger Wrecsam. Mae dau lun wedi’u hysgythru ar wyneb dwbl y wefl ond mae’r ddau wedi treulio ac mae’n anodd gweld dim ond aden. Felly, efallai mai llun yr Archangel Gabriel sydd yma, neu’r Sant Mihangel (sy’n aml ag adenydd mewn lluniau), neu hyd yn oed Sant Siôr.

Efallai ei bod yn swnio’n rhyfedd i Sant Siôr ymddangos ar fodrwy a ganfuwyd yng Nghymru ond nid oedd yn cael ei gysylltu’n benodol â Lloegr bryd hynny ac mae’n eithaf posib nad Cymro oedd y perchennog. Peth arall diddorol am y fodrwy hon yw’r dwylo plethedig sy’n ymddangos ar waelod y cylch. Gall y rhain fod yn arwydd o gariad, ymddiriedaeth neu briodas ac roeddent yn symbol cyffredin ar fodrwyau canoloesol a elwid yn fodrwyau ‘fede’ (ffydd). Ydi’r dwylo plethedig yn awgrymu mai rhodd i gariad oedd hon, fel y modrwyau arysgrif a ddisgrifir uchod?

sylw(2)

Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru
3 Ionawr 2018, 13:18
Hi there Calvin

Thanks for your comment - we don't have an attachment function on our comments sections to prevent spam. However should you like to speak to a curator about your find, I will gladly put you in touch with them via email.

Best wishes,

Sara
Digital Team
Calvin Owens
31 Rhagfyr 2017, 14:44
I was going to send you a picture of my iconographic ring found in France for opinion of age!
But no option to attach!
Regards

Gadael sylw