Yn y gorffennol, roedd llawer o bobl, cyfoethog a thlawd, yn gwisgo modrwyau. Byddai’r modrwyau wedi’u gwneud o fetalau gwerthfawr neu ddiwerth, yn blaen neu’n addurnedig, a byddai gemau neu enamelau wedi’u mewnosod mewn rhai ohonynt. Mewn darluniau o'r Canol Oesoedd a chyfnod y Dadeni, gwelir dynion a menywod yn gwisgo sawl modrwy ar yr un llaw, weithiau uwchlaw’r migwrn canol. Weithiau, daw pobl â datgelyddion metal o hyd i fodrwyau oedd yn eiddo i ddynion a menywod o Gymru sydd wedi hen farw ac maent yn mynd â nhw at Gynllun Henebion Cludadwy Cymru. Os yw’r modrwyau wedi’u gwneud o fetal gwerthfawr, maent yn cyfrif fel trysor ac, fel rheol, maent yn mynd i amgueddfeydd ledled Cymru fel y gall pobl leol ac ymwelwyr fwynhau gweld yr olion gwerthfawr hyn o’n gorffennol. Hyd yn oed heddiw, gallwn werthfawrogi eu harddwch a’u crefftwaith a theimlo cysylltiad â'r bobl oedd wedi'u colli amser maith yn ôl.

Ond nid eu harddwch yw eu hunig werth ac mae mwy iddynt na’r aur a’r arian a ddefnyddiwyd i’w gwneud. Heddiw, rydym yn aml yn dweud bod i ddarn o emwaith ‘werth sentimental’. Hynny yw, mae iddo werth emosiynol i’r perchennog sydd y tu hwnt i werth ei ddeunydd neu ei harddwch. Mae hyn yn wir am y gorffennol hefyd. Ers canrifoedd, bu i fodrwyau ystyron ac arwyddocâd arbennig i’r bobl oedd yn eu rhoi a’r rhai oedd yn eu gwisgo. Yma, byddwn yn trafod rhai o’r ystyron hyn - a'r modrwyau eu hunain.

Gallwn feddwl am yr holl fodrwyau hyn, ynghyd â llawer o rai eraill y mae pobl wedi dod o hyd iddynt â datgelyddion metal neu wedi dod ar eu traws ar hap, fel darnau o emosiynau dwys. Caiff hyn ei gyfleu yn glir yn nyluniad y modrwyau arysgrif, y modrwyau galar a’r modrwyau eiconograffig sy’n dal i gyfleu’r cariad, y galar a’r ysbrydolrwydd a deimlai eu perchnogion. Gallwn feddwl hefyd fod y sêl-fodrwyau yn ymgorffori rhywbeth o hunaniaeth bersonol y perchnogion gwreiddiol. Mae’n eithaf posib bod hyd yn oed i’r modrwyau hollol addurnol yr hyn a ddisgrifiwn heddiw fel ‘gwerth sentimental’ yn ogystal â gwerth ariannol eu defnydd. Yn achos y saffir, cawn ein hatgoffa bod Cymru, er ei bod ar ymylon pellaf Ewrop, yn cysylltu â’r Dwyrain Pell trwy fasnach.

Efallai mai’r peth pwysicaf i’w gofio yw bod rhywun wedi colli pob modrwy y cafwyd hyd iddi. Ar y cyfan, nid yw pobl yn taflu eitemau aur ac arian a gemau gwerthfawr, hyd yn oed os nad oes iddynt arwyddocâd emosiynol iddynt bellach. Felly, gallwn dybio bod y modrwyau hyn wedi cael eu colli ar ddamwain, gan lithro oddi ar fys neu syrthio o bwrs, a’r perchennog heb sylwi tan ei bod yn rhy hwyr. Ar draws y canrifoedd, mae’n hawdd i ni ddychmygu’r torcalon a deimlai rhywun o sylweddoli eu bod wedi colli modrwy briodas, modrwy i’w hatgoffa am rywun annwyl a fu farw, neu fodrwy oedd yn dod â chysur ysbrydol iddynt. Mae’r emosiynau hyn yn ddolen gyswllt rhyngom ni â pherchnogion y trysorau colledig hyn, er eu bod wedi hen farw.

+ ieme la belle, neu carwch yr hyn sy’n hardd,/em>, yw’r arysgrif ar ochr allanol Modrwy Ewenni o’r 15fed ganrif, a ganfuwyd ger Priordy Ewenni gan Mr G. Gregory yn 1988 ac sydd erbyn hyn yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.

Gadael sylw